Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweld Beth Sy'n Digwydd

Annog y myfyrwyr i ddatblygu synnwyr o antur ac awydd i archwilio.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ddatblygu synnwyr o antur ac awydd i archwilio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.

  • Paratowch ddelwedd o wyneb gogleddol mynydd yr Eigr i’w dangos yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Yr Eigr yw un o fynyddoedd uchaf y Swistir.

Dangoswch ddelwedd o wyneb gogleddol yr Eigr.

Darllenydd:
 Mae wyneb gogleddol y mynydd hwn yn codi'n serth 1,800 metr yn fertigol o lawr y dyffryn - wal beryglus ac ansad o galchfaen toredig a phacrew gwasgedig. Yr hyn sy'n nodedig am wyneb gogleddol yr Eigr yw bod ei waelod wedi ei leoli'n union ym mhentref bychan Kleine Scheidegg. Bydd dringwyr yn gymysg â'r twristiaid sy'n heidio o gwmpas yr orsaf reilffordd, neu'n gorwedd yn hamddenol yn eu pebyll mewn gwersyll neu ar falconïau gwestai cyfforddus.

Arweinydd: Ym mis Gorffennaf 1938, fe gychwynnodd dau ddringwr Almaeneg - Heinrich Harrer a Fritz Kasparek - ar daith o Kleine Scheidegg mewn ymdrech i fod y rhai cyntaf i ddringo'r wyneb. Fe wnaethon nhw ddilyn ôl-troed dringwyr eraill o'r Almaen ac Awstria a oedd wedi ceisio ei ddringo ond a oedd naill ai wedi gorfod troi'n ôl neu wedi cael marwolaeth erchyll, wedi eu rhewi mewn storm, yn hongian oddi ar eu rhaffau neu wedi eu hysgubo oddi ar y mynydd gan greigiau oedd yn syrthio.

Darllenydd: Adeg braf yw hi yn y dyffryn ym mis Gorffennaf. Mae'r haul yn tywynnu'n boeth, mae'r golygfeydd yn syfrdanol a'r aer yn glir a llonydd. Bydd miloedd yn heidio i'r ardal ar y rheilffordd nodedig sy'n cario teithwyr o dref Grindelwald hyd at yr orsaf uchaf yn Ewrop yn yr Jungfraujoch. Mae Kleine Scheidegg yn cynnig ei hun yn stop hanner ffordd gyfleus i gael paned a rhywbeth i'w fwyta.

Arweinydd: Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, roedd y ddau ddringwr wedi dringo i uchder arwyddocaol ac wedi taclo'r Hinterstoisser Traverse - un o'r rhannau anoddaf o'r ddringfa. Fe adawon nhw raff sefydlog mewn lleoliad rhag ofn y bydden nhw'n cael eu gorfodi i droi yn ôl pan welon nhw ddau ddringwr arall - y profiadol Anderl Heckmair a Ludwig Vorg - yn dod tuag atyn nhw. Roedd Heckmair a Vorg wedi manteisio ar y rhaffau sefydlog i ddringo i fyny'n gyflym. 

Darllenydd: Mae yna nifer o ysbienddrychau a thelesgopau yma ac acw yn y pentref fel bo twristiaid yn gallu arsyllu ar y dringwyr. O ddiogelwch saff y dyffryn, mae modd gweld yn agos yr hyn sy'n digwydd ar y mynydd yn y pellter.

Arweinydd: Ar wyneb gogleddol y graig, roedd yr amgylchiadau'n llym i'r dringwyr, a oedd erbyn hynny wedi cytuno i ymuno gyda’i gilydd yn un tîm. Bu bron i eirlithrad ysgubo tri ohonyn nhw ymaith. Roedd cwympiadau creigiau yn berygl parhaus. Roedd y rhew yn toddi ac yn gwlychu eu dillad wrth iddo arllwys i lawr, dim ond i rewi'n ôl yn y tymheredd dan y rhewbwynt gyda'r nos. Er hynny, roedd eu hymroddiad yn llwyr.

Darllenydd: Ymhen ychydig amser roedd edrych ar y dringo wedi dod yn beth diflas. Ni fyddai hyd yn oed gweld rhyw gynnwrf yn digwydd ddim ond yn denu ychydig o sylw. Fe fyddai'r twristiaid yn parhau â'u teithiau neu fe fydden nhw'n cilio'n ôl i foethusrwydd eu gwestai, yn enwedig felly pan fyddai'r tywydd ar ei waethaf, fel sy'n gyffredin yn yr ardaloedd mynyddig.

Arweinydd: Roedd yr amgylchiadau'n arw iawn ar wyneb y mynydd. Un llithriad a byddai'r tîm cyfan yn cael ei ysgubo oddi ar y graig. Roedden nhw ar lecyn dieithr o'r mynydd. Nid oedd yr un dringwr erioed o’r blaen wedi cyrraedd yr uchder hwnnw ar yr wyneb. Fe wnaethon nhw fynd ymlaen yn eithriadol o araf, gan gymryd tro i arwain, gan fyw mewn cyflwr parhaus o bryder mawr, yn hollol ddibynnol ar ei gilydd. 

Yna, ar 24 Gorffennaf, fe orchfygodd y dringwyr y rhan olaf a chyrraedd y copa! Roedd eu teimlad o ollyngdod, o gyflawniad a boddhad yn llethol. Roedden nhw'n enwog. Nhw oedd concwerwyr yr wyneb mynydd yr oedd ar bobl fwyaf o’i ofn yn Ewrop gyfan. Bu'n ymdrech arw, ond yn awr yr oedd y cyfan wedi bod yn werth ei wneud.

Darllenydd: Yn y dyffryn, y cyfan a wyddai'r rhai oedd yn arsyllu oedd bod y dringwyr wedi mynd o'u golwg. A fuon nhw'n llwyddiannus, neu a oedden nhw wedi methu, fel cymaint o'u blaen? Roedd hi'n amhosibl cael gwybod. Fe drodd y twristiaid eu golygon i ffwrdd er mwyn cael rhywbeth amgenach i dynnu eu sylw.

Amser i feddwl

Arweinydd: Ydych chi i mewn yn y canol, neu ydych chi’n gwylio o’r tu allan? A ydych chi'n un o'r bobl hynny sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth neu a ydych chi'n rhywun sy'n fodlon edrych ar bobl eraill yn cymryd rhan? Rhywbeth fel yna sy'n digwydd mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden - mae yna rai sy'n fodlon edrych arnyn nhw, a rhai sy'n hoffi cymryd rhan ynddyn nhw. Dydy hynny ddim byd i'w wneud â meddu ar sgiliau gwych na meddu ar gael y corff addas - mae Marathon Llundain yn dyst o hynny. Mae'n ymwneud â'r gwneud, gan ddefnyddio'r iechyd cymedrol a'r ffitrwydd sydd gennym, yn hytrach nac edrych ar yr hyn sy'n digwydd. Gall cymryd rhan olygu peth anghysur, peth aberth o amser ac ymdrech, ond, fel y dringwyr hynny, mae'r canlyniad yn rhoi syniad o gyflawniad i ni.  Mae'r un peth yn wir drwy gydol ein bywyd. Mae'r hyn a gawn allan fel arfer yn gysylltiedig â'r hyn a roddwn i mewn. Mae'n ymwneud â pherthnasoedd, ein gwaith, ein hangerdd, a'r pethau hynny sy'n achos pryder i ni.

Roedd Iesu'n hollol glir ynghylch yr angen i fod yn weithredol. Fe ganmolodd estron a helpodd ddyn arall yr oedd rhywun wedi ymosod arno, pan oedd eraill wedi pasio heibio iddo a gwrthod gwneud dim i'w helpu. Roedd o'n sôn am yr adnoddau sydd gan bob un ohonom a sut yr ydym yn eu defnyddio neu ddim yn eu defnyddio. Roedd Iesu'n dod i'r casgliad ei bod hi'n well o lawer buddsoddi ynddyn nhw, eu datblygu nhw, yn hytrach na dim ond eu cuddio. Fe'n disgrifiodd ni fel lampau sydd wedi cael eu gwneud i oleuo yn y tywyllwch yn hytrach nac i gael eu cuddio dan orchudd.

Tybed beth fydd pob un ohonom ni yn ei wynebu heddiw? Fe fydd yna gyfleoedd, argyfyngau, bygythiadau a dewisiadau. Y cwestiwn yw, a ydym ni i mewn yn y canol, neu’n gwylio o’r tu allan?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti bod pob diwrnod yn wahanol.
Gad i mi wynebu pob sefyllfa newydd gydag ymrwymiad.
Gad i mi ddewis bod i mewn yn y canol yn hytrach nac yn sefyll yn gwylio o’r tu allan.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon