Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Mae Hyn Yn Ddiflas!'

Helpu’r myfyrwyr i feddwl am y profiad o deimlo’n ddiflas.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i feddwl am y profiad o deimlo’n ddiflas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am y gerddoriaeth, ‘I get a kick out of you’ gan Frank Sinatra’ neu ‘Being boring’ gan y Pet Shop Boys, a threfnwch y modd i chwarae’r gerddoriaeth yn y gwasanaeth -neu unrhyw gân arall sy’n ymwneud â’r profiad o fod yn teimlo’n ddiflas (dewisol).
  • Chwiliwch am ddelweddau o ddiflastod a threfnwch y modd o’u harddangos (dewisol), fel y delweddau sydd i’w cael ar y wefan:
    https://www.google.co.uk/search?q=boredom+images

Gwasanaeth

  1. Efallai mai hwn yw'r eithaf o ddatganiadau, yr un a ddefnyddir gennych bob amser, wedi ei anelu at ffenomenau mor amrywiol â mynd i'r eglwys, criced, cerddoriaeth glasurol, gwleidyddiaeth, eich gwers ddwbl fathemateg neu weithiau hyd yn oed barti - ‘mae hyn yn ddiflas - boring!’

    Dyma oes y ffôn a'r llechen, lle mae pob munud effro wedi ei llenwi â rhyw fath o ddyfeisiadau a theclynnau technolegol sy’n mynd â’n bryd. Ond nid yw diflastod yn rhywbeth sy'n digwydd i bobl ifanc yn unig. I lawer ohonom o bob oedran, mae ein hangen am rywbeth i fynd â’n bryd yn anniwall - dim ond am hyn a hyn o amser y gall ein ffonau-gwych ddal ein sylw cyn y byddwn angen un arall well, a rhywbeth mwy cynhyrfus i dynnu ein sylw oddi wrth realaeth.

    Os, am foment, y byddwn mewn sefyllfa pryd y bydd yr ymosodiad ar ein synhwyrau yn ildio, pryd - â'n gwaredo - y gofynnir i ni fod yn ddistaw am ychydig funudau neu ymwneud â gweithgaredd sydd ddim yn rhoi i'n synhwyrau foddhad ar unwaith, byddwn yn datgan bod hynny'n ddiflas- boring.

  2. Efallai nad oes gan y broblem unrhyw beth i'w wneud â'r hyn a ystyriwn ni'n ddiflas, ond yn hytrach gyda ni ein hunain mae’r broblem, o bosib.

    Pa mor hir yw hi ers i ni gael y ffôn diweddaraf, neu ryw gêm neu ddillad newydd cyn y bydd y teimlad dwys hwnnw o gynnwrf yn diflannu a ninnau'n dechrau diflasu eto? Wedyn, fe ddechreuwn chwilio am y peth newydd nesaf - ac fe â'r cylch ymlaen.

  3. Ai'r rheswm am hyn yw ei fod yn rhan o'r cyflwr dynol - ac yn sicr y cyflwr dynol yn y rhan olaf o'r ugeinfed ganrif ac ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain - a’n bod yn chwilio'n ddi-baid ac yn ddidostur am rywbeth i fynd â’n bryd? A all hyn fod, hyd yn oed i'r fath raddau fel nad oes dim, dim gweithgaredd nac unrhyw beth - dim gwahaniaeth pa mor hudol neu nobl - all ddal ein sylw am hir?

    Ai hyn allwn ni olygu mewn difrif pan ddywedwn fod rhywbeth yn ddiflas - boring, yw nad yw'n denu'n sylw yn ddigonol? 

    Efallai mai'r gwir yw bod pawb ohonom yn chwilio am ffyrdd i dynnu ein sylw oddi wrth ein hofnau dwysaf a'n teimladau o ansicrwydd, unigrwydd a phoen. Mewn geiriau eraill, yr ydym yn chwilio am ffyrdd i atal ein hunain rhag gorfod meddwl yn rhy galed.

Amser i feddwl

Mae'r geiriau canlynol, gan Paul yn Actau 17.22-24, wedi eu cyfeirio at grwp o bobl oedd hefyd yn aflonydd ac yn chwilio am rywbeth. Roedd yn llefaru wrth bobl Athen, dinas oedd yn nodweddiadol am ei gweithgaredd deallusol ac am ei phobl a oedd yn chwilio am y newyddbethau diweddaraf. Fe ddywedodd wrthyn nhw, mae'r peth yr ydych chwi'n chwilio amdano, hwnnw yw'r hyn a gyhoeddaf i chwi'n awr:

Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: ‘Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar. Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni’n ysgrifenedig, “I Dduw nid adwaenir”. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi’n ei addoli heb ei adnabod dyna’r hyn yr wyf fi’n ei gyhoeddi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau’n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw.’ 

Yn nhraddodiadau ysbrydol mawr y byd - yn cynnwys Cristnogaeth - cawn ein haddysgu na fedrwn gael hyd i fodlonrwydd yn ein hymlid di-baid am bethau materol a phethau sy’n mynd â’n bryd yn gyson. Yn hytrach, cawn hyd i fodlonrwydd trwy gael hyd i ni ein hunain a chael hyd i Dduw - mewn ennyd o ddistawrwydd, trwy ymlonyddu mewn parchedig ofn a rhyfeddu dros harddwch natur, mewn gweddi, trwy feithrin perthnasau clos ac ystyrlon.

Cael hyd i heddwch ynom ni ein hunain - dyna sut y gallwn o ddifrif ddatrys y broblem o ddiflastod. Treuliwch ychydig eiliadau'n awr, gan fod yn llonydd a thawel yn unig. 

Yng ngeiriau Awstin Sant:

Dduw, rwyt ti wedi ein gwneud ni i ti dy hunan, ac mae ein calonnau’n aflonydd nes y cânt orffwys ynot ti.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon