Cyffaddawdu
Trafod agweddau cadarnhaol ac angenrheidiol yn ymwneud â chyfaddawdu.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Trafod agweddau cadarnhaol ac angenrheidiol yn ymwneud â chyfaddawdu.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch un arweinydd a thri darllenydd.
- Defnyddir hanes yr efeilliaid cyfunedig (conjoined twins) Abby a Brittany Hensel, a ymddangosodd ar raglen materion cyfoes ar y BBC, er mwyn archwilio’r syniad o gyfaddawd. Edrychwch ar y wefan www.bbc.co.uk/news/magazine-22181528i gael mwy o wybodaeth.
Gwasanaeth
- Darllenydd 1 (yn tecstio ar ei ffôn symudol) O! Dwi wedi gwylltio’n lân. Dwi’n hollol benwan! Mae fy mrawd i’n gymaint o boen! Dwi wedi gwahodd fy ffrindiau yma heno i wylio ffilm efo fi, ac mae o newydd ddweud wrtha i fod rhyw gêm bêl-droed yn cael ei dangos heno, ac mae o eisiau gwylio honno yn yr ystafell fyw. Mae bob amser yn mynnu cael gweld beth bynnag y mae o eisiau ei weld ar y teledu. Mae hyn mor annheg. Rydw i’n gorfod trefnu popeth o’i gwmpas o, bob tro. Dydi hyn ddim yn deg o gwbl. Rydw i’n ei gasáu o!
Darllenydd 2 Mae fy mam a nhad i’n gwbl afresymol. Maen nhw’n hollol strict trwy’r amser. Rhaid i mi fod yn y ty erbyn 10 o’r gloch bob nos. Ac mae’n rhaid i mi fod yn y ty erbyn 10 o’r gloch heno - ond rydw i eisiau mynd i barti sydd ddim yn gorffen tan hanner nos. Gesiwch be? Maen nhw’n dal i fynnu fy mod i’n dod adref erbyn 10! Maen nhw’n llunio’r rheolau dwl hyn, ac wedyn yn methu deall pam dydw i ddim yn cadw atyn nhw. Maen nhw’n hollol amhosib!
Darllenydd 3 (yn chwarae gyda phêl-droed) Dwi wedi colli fy amynedd yn gyfan gwbl gyda fy ffrindiau ar hyn o bryd. Roeddwn i wedi cytuno i gael gêm yn y parc ar ôl yr ysgol, a nawr maen nhw wedi newid eu meddwl ac am fynd i’r arcêd yn lle hynny. Fe fydda i bob amser yn gorfod gwneud beth bynnag maen nhw eisiau ei wneud, nid beth fydda i eisiau ei wneud, byth. Dydw i ddim eisiau mynd i’r arcêd hyd yn oed, ond rydw i’n gwybod beth fydd yn digwydd. Yn siwr! Gwastraff amser! Bob tro yr un fath! - Arweinydd: Fe allai i weld eich bod chi’ch tri yn teimlo’n wirioneddol ddiflas. Mae rhywun yn drysu eich cynlluniau, ac mae’n ymddangos yn annhebyg y byddwch chi’n cael gwneud yr hyn yr hoffech chi ei wneud. Beth am i chi geisio dod i ryw fath o gyfaddawd?
- Darllenydd 1Ydych chi’n tynnu coes? Dydych chi ddim o ddifrif yn meddwl y byddwn i’n gallu cyfaddawdu efo fy mrawd. Mae hon yn frwydr dydi o ddim yn mynd i’w hennill y tro hwn. Dydw i ddim yn mynd i ildio, rydw i wedi cael llond bol arno fo.
Darllenydd 2Cyfaddawdu? Na, fe fyddai cyfaddawdu’n hollol amhosib. Er mwyn dod i gyfaddawd rhaid cynnal sgwrs resymol, ac ychydig iawn o sgwrsio rhesymol sy’n digwydd rhwng fy rhieni a fi! Maen nhw’n llunio rheolau hollol afresymol, ac rydw innau’n torri’r rheolau hynny wedyn. Mae mor syml â hynny - a dyna sut mae pethau o hyd ac o hyd. Dydw i ddim yn gweld pethau’n newid ar hast, mewn gwirionedd.
Darllenydd 3Cyfaddawdu? Go brin! Fe fydda i bob amser yn gadael i fy ffrindiau gael eu ffordd eu hunain – er mwyn heddwch. Does dim pwrpas i mi dynnu’n groes. Fydd fy ffrindiau byth yn gwneud yr hyn fydda i eisiau ei wneud oni bai eu bod hwythau eisiau gwneud y peth hwnnw. Mae mor syml â hynny. - Arweinydd Gadewch i mi gyflwyno i chi hanes dwy ferch ifanc o America sydd wedi gorfod dysgu cyfaddawdu. Mae Abby a Brittany Hensel o Minnesota yn Unol Daleithiau America yn debyg i’r rhan fwyaf o ferched ifanc 23 oed mewn sawl ffordd. Maen nhw’n mwynhau treulio amser gyda’u ffrindiau, a mynd ar wyliau. Maen nhw’n hoffi gyrru’r car a chymryd rhan mewn chwaraeon. Maen nhw wedi bod yn y brifysgol, ac mae gan y ddwy swydd.
Efeilliaid yw Abby a Brittany, ond maen nhw hefyd yn efeilliaid cyfunedig (conjoined). Mae dau ben gan yr efeilliaid, dwy set o ysgyfaint, dwy galon a dwy stumog, ond dim ond un fraich ac un goes bob un, dim ond un afu, un coluddyn mawr, ac un system genhedlu rhyngddyn nhw.
Oherwydd eu bod wedi eu huno’n barhaol, mae’r chwiorydd wedi gorfod darganfod gwerth gwaith tîm. Mae Abby yn rheoli ochr dde eu corff a Brittany yn rheoli’r ochr chwith. Rhaid iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i wneud y pethau symlaf. Er enghraifft, oherwydd bod cryn wahaniaeth yn nhaldra’r ddwy – mae gwahaniaeth yn hyd coes y ddwy - rhaid i Brittany sefyll ar flaen ei throed trwy’r amser er mwyn gofalu nad ydyn nhw’n colli eu cydbwysedd.
Mae’r merched wedi gorfod wynebu llawer o anawsterau yn ystod eu bywyd. Ar lefel o ddydd i ddydd maen nhw wedi gorfod dysgu sut i gyfaddawdu gan fod personoliaethau Abby a Brittany yn gwbl wahanol i’w gilydd, ac maen nhw’n hoffi pethau gwahanol i’w gilydd. Mae Abby’n sôn am eu gwahaniaethau fel hyn: ‘We definitely have different styles. Brittany's a lot more like neutrals and pearls and stuff like that and I would rather have it be more fun and bright and colourful.’ Abby yw’r un fwyaf di-flewyn-ar-dafod pan fydd hi eisiau lleisio’i barn, ac mae hi’n hoffi mynd allan. Ond mae’n well gan Brittany aros gartref. Mae ofn uchder ar Brittany, ond does dim ofn uchder ar Abby. Mae Abby â diddordeb mewn mathemateg a gwyddoniaeth; ond mae Brittany’n ymddiddori mwy yn y celfyddydau. Mae gwres corff y ddwy yn gwahaniaethu hyd yn oed ambell waith.
Dychmygwch y trafodaethau y byddan nhw’n eu cael ynghylch beth maen nhw’n mynd i’w wisgo, beth maen nhw’n mynd i’w fwyta, beth maen nhw’n mynd i’w wneud, neu beth maen nhw’n mynd i’w wylio ar y teledu. Dychmygwch y ddadl ynghylch gwisgo siwmper ai peidio, pan fydd un chwaer yn teimlo’n boeth a’r llall yn teimlo’n oer. Mae’r merched wedi gorfod dysgu cyfaddawdu ynghylch popeth, o’r peth lleiaf i’r pethau mwyaf yn eu bywyd. Heb gyfaddawd fydden nhw ddim yn gallu byw bywyd normal. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu gadael y ty pe bydden nhw’n methu cytuno ar yr hyn roeddwn nhw’n mynd i’w wisgo!
Mae’r merched wedi graddio ym Mhrifysgol Bethel, ac yn awr yn paratoi i wynebu gyrfa fel athrawon ysgol gynradd. Hyd yn oed yn llwybr eu gyrfa mae’n rhaid iddyn nhw chwilio am gyfaddawd. Er bod ganddyn nhw ddwy dystysgrif ar gyfer bod yn athrawon, fyddan nhw ddim yn derbyn dau gyflog. Mae Abby’n dweud eu bod yn sylweddoli mai dim ond un cyflog y byddan nhw’n ei gael am mai gwaith un athrawes y byddan nhw’n ei wneud: ‘Obviously right away we understand that we are going to get one salary because we're doing the job of one person’, ond mae hi’n gobeithio y byddan nhw’n gallu trafod â’r awdurdodau, oherwydd mae ganddyn nhw ddwy radd, dau bersbectif gwahanol a dwy ffordd wahanol o addysgu i’w cynnig yn eu swydd. Hefyd, fel mae Brittany’n nodi, fe allan nhw wneud mwy nag mae un person yn gallu ei wneud - ‘we can do more than one person.’
Dyna stori ddiddorol! Fe allwch chi wylio’r rhaglen Abby and Brittany: Joined to Life ar BBC Three ar yr iPlayer os hoffech chi wybod mwy o’u hanes.
Dyna enghraifft ardderchog o’r angen i gyfaddawdu mewn bywyd bob dydd. Fyddai Abby a Brittany ddim yn gallu byw heb rywfaint o gyfaddawdu. Ac mae’r un peth yn wir, i raddau, yn achos pob un ohonom. Nid yw’n bosib i unrhyw un gynnal unrhyw fath o berthynas heb rywfaint o gyfaddawdu. Dewch yn ôl at y tri ffrind y clywson ni eu hanes ar ddechrau’r gwasanaeth.
Fe allai (rhowch enw Darllenydd 1) geisio rhoi o’r neilltu ei dicter tuag at ei brawd, a cheisio dod i gyfaddawd teg ynghylch gwylio’r teledu. Efallai y byddai’n bosib iddyn nhw lenwi amserlen fel bod y ddau yn cael clustnodi'r adegau neilltuol yr hoffen nhw eu cael i wylio’r rhaglenni maen nhw eisiau eu gweld.
Mae’n debyg bod angen i (rhowch enw Darllenydd 2) ddod o hyd i ffordd i gwrdd yn y canol â dymuniadau ei rhieni. Mae’n bosib, pe byddai hi’n parchu eu rheolau’n amlach y byddai ei rhieni’n fwy tebygol o fod yn fwy bodlon ystyried gwneud ambell eithriad ar achlysuron arbennig.
Rhaid i (rhowch enw Darllenydd 3) ddod o hyd i ffordd o siarad yn onest ynghylch yr hyn y mae ef eisiau ei wneud. Os na all ei ffrindiau gyfaddawdu, ac os ydyn nhw’n parhau i’w siomi, efallai ei bod yn amser iddo chwilio am ffrindiau newydd sy’n ymddiddori yn yr un pethau ag ef.
Amser i feddwl
Nid yw cyfaddawd yn air y dylech chi ei osgoi. Nid yw’n hawdd, ond mae’n angenrheidiol mewn pob math o berthnasoedd a chyfeillgarwch. Nid arwydd o wendid yw cyfaddawd – mae’n arwydd o ymrwymiad i wneud i’n cyfeillgarwch a’n perthnasoedd weithio.
Mae cyfaddawd yn ymwneud â llwyddo i gadw cydbwysedd.
Nid yw’n ymwneud ag ildio trwy’r amser.
Nid yw’n ymwneud â chael eich ffordd eich hun trwy’r amser.
Mae’n ymwneud â chyfaddawdu.
Nid yw’n ymwneud â chwrdd ag anghenion pobl eraill trwy’r amser.
Nid yw’n ymwneud â bodloni eich anghenion eich hun trwy’r amser.
Mae’n ymwneud â chyfaddawdu.
Nid yw’n ymwneud â rhoi pobl eraill yn gyntaf trwy’r amser.
Nid yw’n ymwneud â rhoi eich hunan yn gyntaf trwy’r amser.
Mae’n ymwneud â chyfaddawdu.
Nid yw’n ymwneud â rhoi trwy’r amser.
Nid yw’n ymwneud â chymryd trwy’r amser.
Mae’n ymwneud â chyfaddawdu.
Boed i ni gael y doethineb i wybod pryd mae angen i ni gyfaddawdu, a chael cryfder cymeriad i wneud hynny. Gadewch i ni wneud i gyfaddawd weithio!