Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim Mwy O Gaethwasiaeth

Annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’r hyn maen nhw’n gwario’u harian arno yn gysylltiedig, efallai, â chaethwasiaeth fodern.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’r hyn maen nhw’n gwario’u harian arno yn gysylltiedig, efallai, â chaethwasiaeth fodern.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un arweinydd a phedwar darllenydd.

Gwasanaeth

Arweinydd  Ar y dydd cyntaf o fis Awst 1833, fe gwblhaodd y Bil i ddiddymu caethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig - hynny yw, y rhannau hynny o'r byd oedd yn cael eu rheoli o Lundain, oedd yn cynnwys mwy o leoedd na heddiw - ei daith trwy'r Ty Cyffredin a Thy'r Arglwyddi. O'r dydd hwnnw ymlaen, roedd yn anghyfreithlon i unrhyw un fod yn berchen ar fywyd rhywun arall a'u defnyddio hwy a'u teulu er budd personol. Roedd caethwasiaeth ar ben.

Darllenydd 1  Fy enw i yw Jean Pierre. Rwy'n byw ar yr Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica. Rwy'n naw mlwydd oed. Bob diwrnod rwy'n dechrau gweithio am wyth o'r gloch yn y planhigfeydd coco.  Rwy'n torri'r codennau coco oddi ar y brigau gyda thwca a'u hollti i gael gafael ar y ffa.  Caiff y ffa eu llwytho i sachau, a byddaf yn helpu i'w llwytho ar lorïau. Mae'r rhan fwyaf o'm croen wedi cael ei effeithio gan afiechyd y croen o ganlyniad i'm gwaith. Fues i erioed yn yr ysgol.

  1. Arweinydd  Y rhanbarth cyntaf o'r Ymerodraeth i elwa ar ddiddymiad caethwasiaeth oedd India'r Gorllewin. Rhyddhawyd pob caethwas ar unwaith ac fe ddaethon nhw’n brentisiaid. Derbyniodd y cyn-berchnogion iawndal gan Lywodraeth Prydain hyd at rai miloedd o bunnoedd am y colledion i'r hyn yr oedden nhw'n ei alw yn eiddo. 

    Darllenydd 2  Fy enw yw Indira ac rwy'n dod o India. Fe wnaeth fy rhieni fy ngadael a deuthum yn blentyn y stryd. Cefais fy hawlio gan grwp o ddynion oedd yn rhedeg cylch begera. Bob diwrnod rwy'n cael fy ngorfodi i fegera ar y strydoedd. Byddaf yn cael curfa os na wnaf ddigon o arian iddyn nhw.

  2. Arweinydd  Ar y cychwyn, y grym oedd yn gyrru ymlaen y Ddeddf i Ddiddymu'r Fasnach Gaethion (a basiwyd yn gynharach, yn y flwyddyn 1807) a'r Ddeddf Diddymu Caethwasiaeth, oedd y Gymdeithas er Diddymu'r Fasnach Gaethion, gyda'i haelod enwocaf, William Wilberforce, AS Cristnogol a diwygiwr cymdeithasol. Yn y flwyddyn 1823, fe sefydlodd Wilberforce ac eraill fudiad newydd o'r enw Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth. Yn drist, bu farw Wilberforce ddeuddydd cyn i'r Ddeddf gael ei phasio'n derfynol, ond fe wyddai bod gwaith ei fywyd wedi ei gwblhau gan ei bod wedi cael ei phasio yn Nhy'r Cyffredin.

    Darllenydd 3  Rwy'n byw yng ngwlad Thai ac rwy'n 21 mlwydd oed. Rwy'n gwnïo trowsusau jeans i gael eu gwerthu yn y farchnad Ewropeaidd, mewn gweithdy sy’n cael ei disgrifio fel sweatshop. Weithiau byddaf yn gweithio am 20 awr y dydd. Nid wyf yn cael cyflog o gwbl a dim ond ychydig i'w fwyta. Rwy'n gorfod cysgu ar lawr y gweithdy.

  3. Arweinydd  Roedd ffactorau ychwanegol a gyfrannodd tuag at wthio'r Ddeddf Seneddol yn ei blaen. Bu gwrthryfel gaethion yn Jamaica yn y flwyddyn 1831, gyda'r canlyniad bod llawer wedi colli eu bywyd ac roedd cryn ddinistr wedi bod ar eiddo, a arweiniodd at ymchwiliad Seneddol. Tynnodd hwnnw sylw at yr anghyfiawnderau dybryd oedd yn rhan annatod o gaethwasiaeth. Hefyd, ers i Unol Daleithiau’r America ennill ei hannibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Gyfunol, fe ddechreuodd y fasnach mewn siwgr, a oedd yn ddibynnol ar lafur y caethion, ostwng. 

    Darllenydd 4  Rwyf innau hefyd yn dod o India. Rwy'n naw mlwydd oed ac rwy'n cynhyrchu brics o fore gwyn tan nos, yn codi'r clai trwm, ei osod mewn mowldiau, yna'n stacio'r mowldiau allan yn yr haul crasboeth. Mae hwn yn waith sy'n lladdfa i'r cefn ac yn waith poenus dros ben. Rwy'n mynd yn boeth iawn. Cafodd fy nheulu cyfan eu herwgipio a'u trafnidio yma o ardal dros y ffin, lle cawsom ein gwerthu i berchennog y ffatri frics.

  4. Arweinydd  Mae cryn amser wedi mynd heibio ers i gaethwasiaeth gael ei ddiddymu . . . neu a ydyw? Rhyw 180 o flynyddoedd yn ôl fe'i diddymwyd yn yr Ymerodraeth Brydeinig, sef y gwledydd hynny y cyfeiriwn atyn nhw heddiw fel y Gymanwlad a rhai gwledydd eraill sydd, yn y cyfamser, wedi ennill eu hannibyniaeth. Eto, nid storïau hanesyddol a glywsom yn awr yng nghyd-destun y Ddeddf i Ddiddymu Caethwasiaeth. Roedden nhw'n seiliedig ar adroddiadau gwirioneddol am blant o gwmpas y byd, sy’n byw y foment hon. 

    Mae caethwasiaeth yn parhau i fod yn fater o bwys i filoedd, os nad miliynau, o bobl. Hyd yn oed yn y wlad hon, cafodd gweithwyr mudol a phobl ddigartref eu cymryd a'u gorfodi i weithio mewn amgylchiadau gwael am gyflogau isel, a'u cadw'n llythrennol yn gaeth bob nos, yn gaethweision i bob pwrpas. 

    Fe sylweddolodd William Wilberforce bod yr amodau byw cyfforddus yr oedd ef yn eu mwynhau i raddau yn gynnyrch gwaith gan gaethweision. Fe'i cymhellwyd i wneud rhywbeth ynghylch hyn oherwydd yr euogrwydd a'r cywilydd a deimlai fel un oedd yn caniatáu i gaethwasiaeth fodoli.

Amser i feddwl

Ydych chi'n mwynhau bwyta siocled? Rydw i. Ydych chi'n cael pleser wrth brynu dillad ffasiynol am brisiau rhad? Rydw i. Ydych chi yn hoffi ffrwythau a llysiau rhad? Rydw i. 

Mae peth o'r fasnach yn y nwyddau hyn yn dibynnu ar lafur pobl sydd i bob pwrpas yn gaethweision, hyd yn oed yn awr, yn yr unfed ganrif ar hugain. Gallwn yn hawdd iawn gael ein hunain, heb yn wybod, yn rhan-ddeiliaid yn y sefyllfa warthus hon. Efallai nad ydym o ddifrif yn dewis prynu nwyddau sydd wedi eu cynaeafu neu gael eu gwneud trwy lafur caethion. Cawn yn syml ein temtio gan fargen.

Pan sylweddolodd William Wilberforce y rhan yr oedd ef ei hun yn chwarae mewn caethwasiaeth, fe benderfynodd wneud rhywbeth amdano. Gallwn ninnau hefyd. 

Ar y naill law mae'r opsiwn o weithredu'n oddefol. Nid yw'n dasg anodd i adnabod rhai o siopau'r stryd fawr sy'n gwerthu nwyddau wedi eu cynhyrchu gan weithwyr ar gyflogau isel ac sy'n derbyn gofal gwael. Nid yw'n dasg anodd chwaith i adnabod siopau sy'n gwerthu nwyddau Masnach Deg, neu o leiaf gallant ein sicrhau bod y gweithwyr yn derbyn cyflog teg. Trwy newid ein harferion prynu gallwn roi pwysau ar y rhai hynny sy'n cymryd mantais o'u gweithwyr. 

Ar y llaw arall, gallwn gymryd rhan fwy actif mewn protest, trwy ysgrifennu at y siopau hynny sy'n cadw nwyddau wedi eu pwrcasu gan gyflenwyr amheus, annog boicotiau ymysg ein ffrindiau, efallai protestio y tu allan i'r siopau eu hunain. Trwy ddefnyddio cyfuniad o dactegau fel yna y llwyddodd William Wilberforce a'i gefnogwyr yn y diwedd i ddiddymu caethwasiaeth.

Yn anffodus, mae caethwasiaeth yn parhau'n fyw yn ein byd modern, ond fe allwn ni newid pethau os oes gennym yr ewyllys i wneud hynny.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y dewis sydd gennym mewn siopau a marchnadoedd.
Boed i ni fod yn feddylgar wrth wneud ein pryniadau ac yn weithgar yn ein dymuniad i roi diwedd ar gaethwasiaeth.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

A change is gonna come’ gan Sam Cooke'

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon