Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Bywyd fel Bocs o Siocledi

Meddwl am ganlyniad a ffrwyth rhoi ein cred ar waith.

gan Caroline Edwards

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am ganlyniad a ffrwyth rhoi ein cred ar waith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ludio’r hyn rydych chi’n ei ddarllen am yr ymchwil, sydd wedi’i gwneud gan Brifysgol Harvard, y tu mewn i bapur newydd. Yna, fe fydd yn edrych yn fwy real, ac fel petai’n rhoi mwy o ddilysrwydd i’r hyn rydych chi’n ei drafod.

    Fe fyddwch chi angen bar mawr o siocled a bocs o siocledi Cadbury's Miniature Heroes.

    Mae’n bosib i chi ddod o hyd i lun o George Cadbury ar y wefan: http://www.cadburylearningzone.co.uk/history/images/photos/scan006lg.jpg

    Ac fe allwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Crynwyr ar: http://www.quaker.org/

Gwasanaeth

  1. Ewch i mewn i’r gwasanaeth gan gnoi bar mawr o siocled - gorau po fwyaf yw’r bar siocled.

  2. Heb gymryd dim sylw o ymateb aelodau eich cynulleidfa, dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi darllen erthygl bapur newydd yn ddiweddar a oedd yn dweud fod bwyta siocled yn beth da i chi. Mae ymchwil y maen nhw wedi’i gwneud mewn prifysgol yn America yn awgrymu, os gwnewch chi fwyta siocled dair gwaith y mis y byddwch chi’n byw’n hirach na phobl sydd byth yn bwyta siocled. Roedd yn dweud hynny yn y papur. Gofynnwch i’r plant wrando, a smaliwch ddarllen y geiriau canlynol o’r papur newydd sydd gennych chi:

    ‘Researchers at Harvard University in America have carried out experiments that suggest  if you eat chocolate three times a month you will live almost a year longer than those who forego such sweet temptation.’

    Ond nid yw’n newydd da i gyd - mae’r ymchwil ym Mhrifysgol Harvard wedi awgrymu hefyd fod pobl sy’n bwyta gormod o siocled mewn perygl o beidio â byw’n hen iawn. Mae cyfran uchel o fraster mewn siocled, ac fe allai bwyta llawer ohono arwain at ordewdra ac at risg uchel o glefyd y galon. Darllenwch eto:

    ‘But it's not all good news - the Harvard research also suggested that people who eat too much chocolate have a lower life expectancy. Chocolate's high fat content means that excess indulgence can contribute to obesity, leading to an increased risk of heart disease.’

    Ond os ydych chi’n wir yn methu byw heb siocled, ceisiwch fwyta siocled tywyll meddai’r erthygl. Mae canran uwch o’r coco mewn siocled tywyll nag sydd mewn siocled llefrith (milk chocolate), ac mae rhywbeth ynddo sy’n helpu i gynyddu’r lefelau o HDL, sef math o golesterol sy’n gallu helpu i rwystro eich rhydwelïau (arteries) rhag cael eu tagu â braster. Gwrandewch eto, dyma mae’n ddweud yn y papur:

    ‘But if you can't resist chocolate, at least stick to dark. It's higher in cocoa than milk chocolate and helps to increase levels of HDL, a type of cholesterol that helps prevent fat clogging up arteries.’

  3. Awgrymwch y gallai hyn fod yn wers i ni efallai, gan fod yr hen air ‘popeth mewn cymedroldeb’ yn debygol o fod yn parhau’n wir.

  4. Holwch faint o’r myfyrwyr sydd wedi bwyta mwy na thri darn o siocled yn y mis diwethaf. Bydd y dwylo gaiff eu codi’n debygol o ddangos bod y rhan fwyaf wedi gwneud hynny. Holwch faint sydd wedi bwyta mwy na thri darn o siocled yn yr wythnos ddiwethaf, ac yna faint sydd wedi gwneud hynny yn y 24 awr diwethaf.  Tynnwch sylw at y ffaith fod siocled yn bendant yn un o’r pethau mwyaf poblogaidd y byddwn yn eu bwyta - er gwaetha’r ffaith bod rhai’n dweud y gallai fod yn ddrwg ar ein lles os gwnawn ni fwyta gormod ohono!

  5. Holwch a oes rhywun yn gwybod o ble daw’r dyfyniad, 'Life is like a box of chocolates' .  Wrth gwrs, geiriau oedden nhw gafodd eu dweud gan yr actor Tom Hanks, yn y portread a enillodd Oscar iddo o 'Forrest Gump', yn y ffilm o’r un enw.

  6. Nawr estynnwch y bocs o 'Miniature Heroes' sydd gennych chi, a gofynnwch am help dau wirfoddolwr a ddaw atoch chi i’r tu blaen yn y gwasanaeth.

  7. Arllwyswch y siocledi ar fwrdd o flaen y ddau wirfoddolwr, gan ddweud eich bod am ddarllen pwt o stori fach smala yn Saesneg sy’n cynnwys enwau’r gwahanol siocledi. Dywedwch eich bod chi eisiau i’r gwirfoddolwyr chwilio am un o’r siocledi rheini ymysg y rhai sydd ar y bwrdd a’i godi i’w ddangos gynted ag y  byddan nhw’n clywed yr enw wrth i chi ddarllen y pwt stori.  Cewch weld pa un o’r ddau fydd gyflymaf.

  8. Dyma’r darn sydd gennych i’w ddarllen.

    Last night I had a DREAM.  I dreamt I was in a field of cows, having a PICNIC.  I needed some TIME OUT as   I'd been working so hard.  The field was near the DAIRY.  MILK was being sold there.  I bought some, but as I passed the nearest cow its tail began to TWIRL, and a giant cowpat, the colour of CARAMEL, came hurtling out!  As I trod in the dung I found it was not CRUNCHIE, and I quietly said to myself, ‘Oh, FUDGE!'  Then I woke up.

  9. Caiff y gwirfoddolwyr gadw’r siocledi y gwnaethon nhw’u codi, pan ddaw’r gwasanaeth i ben, a chewch chithau benderfynu sut rydych chi am rannu gweddill y paced. Diolchwch i’r ddau a’u hanfon yn ôl i’w lle.

  10. Dywedwch wrth y gynulleidfa fod yr un a sefydlodd y cwmni Cadbury's yn fwy na dim ond ‘miniature hero’ - yn dipyn mwy nag arwr bach. Yn wir, i’r bobl yr oedd yn eu cyflogi, yr oedd yn arwr mawr iawn!  Nawr, adroddwch hanes George Cadbury wrth eich cynulleidfa.

  11. Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, pan oedd pobl yn adeiladu ffatrïoedd, roedden nhw hefyd yn gorfod adeiladu tai i’r gweithwyr a ddeuai o’r pentrefi i weithio yn y ffatrïoedd. Roedd llawer o berchnogion ffatrïoedd yn adeiladu tai bychain iawn i’w gweithwyr, gefn wrth gefn, ac yn agos iawn at ei gilydd. Ac yn fuan iawn fe fyddai’r tai rheini’n troi’n slymiau. Roedd perchnogion fel y rheini yn fwy awyddus i wneud elw nac i ofalu am les y rhai oedd yn gweithio iddyn nhw.

  12. Ond nid un felly oedd George Cadbury. Ganwyd George Cadbury ar 19 Medi 1839, ac roedd yn enwog am ddechrau cynhyrchu’r siocled Cadbury's fel y gwyddom ni amdano heddiw.

  13. Pan etifeddodd George, a’i frawd Richard, y busnes gwneud siocled gan eu tad, doedd y busnes ddim yn dda iawn. Doedd pobl y wlad ddim yn hoff iawn o’r siocled roedden nhw’n ei gynhyrchu ar y pryd. Siocled i’w yfed oedd yn cael ei gynhyrchu’n unig ar y dechrau, ac roedd hwnnw’n chwerw!  Er mwyn ceisio gwella pethau, aeth George drosodd i’r Iseldiroedd. Roedd wedi clywed fod cynhyrchydd siocled o’r Iseldiroedd wedi dyfeisio peiriant arbennig i wasgu’r menyn coco o’r gneuen goco, ac roedd yn awyddus i brynu peiriant o’r fath. Aeth George Cadbury i’r Iseldiroedd, er na wyddai air o’r iaith, ac fe siaradodd â'r peiriannydd trwy gyfrwng arwyddion a geiriadur - ac fe brynodd y peiriant.

  14. O ganlyniad i hynny, yn 1866, rhoddodd cwmni Cadbury's ddiod siocled ar y farchnad a oedd am y tro cyntaf yn felys, ac roedd pobl yn ei hoffi.  Ffynnodd y busnes, ac yn fuan wedyn dechreuwyd cynhyrchu bariau o siocled yn ogystal â’r ddiod siocled.

  15. Ond roedd George Cadbury yn gofalu am fwy na dim ond ei fusnes ac am ba mor llwyddiannus oedd hwnnw. Bob dydd Sul - ei ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith- fe fyddai’n mynd allan am 6.30 yn y bore i gynnal Dosbarth 14 yn yr ysgol oedd newydd gael ei sefydlu i oedolion.  Fe ai a blodyn i bob un oedd yn ei ddosbarth. Fe ddisgrifiai'r ysgol fel math o system gydweithredol o gynnal dosbarth, lle'r oedd un yn Feistr, sef Crist. Ac yn union fel bydd pobl sy’n Grynwyr yn ei wneud, fe fyddai  pob un yn cael ei drin yn gydradd yno, er bod llawer o’r bobl o gefndiroedd tlawd a gwael iawn. Deuai Cristnogion o bob math yno i ymuno â’r dosbarth. Dysgu darllen ac ysgrifennu oedd yn gyntaf ar y rhestr, ac yna fe fydden nhw’n astudio’r Beibl.

  16. Bob dydd, yn ffatri’r brodyr Cadbury, fe fydden nhw’n dechrau’r diwrnod gwaith trwy wrando ar ddarlleniad o’r Beibl a chyd weddïo.  Ond ni allai unrhyw un alw’r brodyr Cadbury yn rhagrithwyr.  Nid dim ond geiriau mwyn oedd eu Cristnogaeth. Mewn oes, pryd y byddai’r rhan fwyaf o berchnogion ffatrïoedd yn malio dim am les eu gweithwyr, roedd George Cadbury yn credu mewn rhoi cyfleusterau priodol i’w weithwyr. Pan welodd fod adeilad eu ffatri’n rhy fach i’r busnes oedd ar gynnydd, fe adeiladodd ffatri allan yn y wlad, y tu allan i’r dref. Fe brynodd y ddau frawd dir ychydig o filltiroedd y tu allan i Birmingham a enwyd yn 'Bournville'.

  17. Roedd George wrth ei fodd yn yr awyr agored. Fe ddarparodd gaeau pêl-droed a chaeau chwarae i deuluoedd ei weithwyr, a gardd a llyn hyfryd ynddi. Y tu mewn i adeilad y ffatri gofalodd fod ystafelloedd cynnes i’r gweithwyr hongian eu cotiau gwlyb yno i sychu, a chypyrddau cynnes i’r gweithwyr gael cynhesu eu bwyd ynddyn nhw.

  18. Ond, am fod y ffatri yn awr allan o’r dref, roedd rhywfaint o anhawster i’r gweithwyr gyrraedd yno. Fe brynodd George dir o gwmpas y ffatri ac adeiladu tai yno, gan greu pentref newydd i’w weithlu. Roedd gardd fawr gyda phob ty, lle gallai’r bobl dyfu llysiau iddyn nhw’u hunain. Plannodd George goed ffrwythau yno, a gofalodd fod tir pob gardd wedi’i aredig cyn i’r bobl symud i fyw i’r tai. Plannodd goed hefyd ar hyd ymyl y ffyrdd llydan braf, ac yn ddiweddarach fe adeiladodd ysgolion a chanolfan siopa.

  19. Dywedodd George Cadbury ei hun: ‘Pam y dylai ardal ddiwydiannol fod yn hyll ac yn ddiflas?  Pam na all y gweithwyr sy’n gweithio mewn diwydiant fwynhau’r awyr iach heb fynd ymhell o’u gwaith?  Os yw cefn gwlad yn lle da i fyw ynddo, beth am weithio yno hefyd?'

  20. Erbyn heddiw, mae ffatrïoedd Cadbury's i’w cael ledled y byd, yn Awstralia, Seland Newydd, Malaysia, India, Indonesia, Japan a sawl gwlad yn Affrica. Caiff siocled Cadbury's ei werthu ledled Gogledd America yn ogystal ag yn Ewrop.  Ac yn ddiweddar, sefydlwyd ffatrïoedd yn China a Gwlad Pwyl.

  21. Mae llawer o wledydd hefyd yn derbyn eu siocled yn uniongyrchol o’r ffatri sy’n parhau i fod yn Bournville, sy’n gwneud hanes George Cadbury yn llwyddiant byd-eang.

  22. Gorffennwch trwy ddweud fod arnom ni ddyled fawr i bobl fel George Cadbury, oedd â’u syniadau newydd eu hunain, ac a oedd â chred Gristnogol gywir a olygai eu bod yn gofalu am bobl eraill, ac yn awyddus i roi’r amodau gorau posib iddyn nhw.

Amser i feddwl

Darlleniad o’r Beibl
Profwch, a gwelwch mai da yw’r Arglwydd (Salm 34.8)

Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Arglwydd, am esiampl y rhai hynny sydd wedi dysgu amdanat ti, 
ac sydd wedyn wedi dangos eu cariad tuag atat ti trwy ofalu am eraill. 
Helpa ni i fod yn debycach i’r bobl hynny. 
Amen.

Cerddoriaeth

‘Chocolate' gan Kylie Minogue 

‘Sweet like chocolate' gan Shanks and Bigfoot

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon