Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ledled Y Bydysawd

Mae’r fideo’n ehangu er mwyn annog y myfyrwyr i feddwl am y posibilrwydd y gallai bywyd mewn ffurfiau eraill fodoli ledled y bydysawd.

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Fideo

Ledled y bydysawd (4 munud 40 eiliad)
(Edrychwch ar y wefan  www.youtube.com/watch?v=W7ETLWwgYiU)


Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn llwybr cyflawn, gyda deunydd myfyriol tua’r diwedd. 
Mae’n bosib, wrth gwrs, y byddech yn dymuno ymestyn hyn wedi i’r fideo ddod i ben. Gwelwch syniadau’n dilyn.

Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r fideo cyn ei ddefnyddio gyda’ch cynulleidfa.

Fe all ansawdd rhywfaint o’r deunydd ymddangos yn wael – mae hyn oherwydd oedran y delweddau sydd wedi cael eu defnyddio.


Crynodeb

Mae’r gwasanaeth hwn yn edrych yn fanylach ar y Ddaear a’i gallu i gynnal bywyd yn ei holl amrywiaeth. Mae’r fideo’n ehangu er mwyn annog y myfyrwyr i feddwl am y posibilrwydd y gallai bywyd mewn ffurfiau eraill fodoli ledled y bydysawd: beth fyddai eich neges chi i ffurfiau bywyd o’r fath, a sut y gallech chi fod yn siwr y bydden ni’n gallu cyfathrebu â nhw? Pa mor dda ydyn ni am gyfathrebu â’n gilydd?

Themâu

Cyfathrebu’n effeithiol.

Dod ymlaen â’n gilydd
Perthnasoedd
Dysgu bod gyda’n gilydd
Dysgu amdanaf fy hun

Cerddoriaeth

The Planets gan Holst

Unrhyw gerddoriaeth electronig, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre

Emynau’n ymwneud â’r byd a’r greadigaeth, neu gariad Duw.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a gadewch i’r myfyrwyr feddwl am yr yn y maen nhw newydd ei weld a’i glywed.)

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl o blaned arall?
Sut byddech chi’n ceisio sicrhau eu bod wedi deall ystyr yr hyn roeddech chi’n ei ddweud? 
Efallai y byddai angen i chi feddwl am sut rydych chi’n sefyll, pa fynegiant sydd ar eich wyneb, a meddwl am iaith y corff yn gyffredinol  . . . .
Sut y gallai’r pethau hyn effeithio ar y ffordd y byddwch chi’n cyfathrebu â’ch ffrindiau, eich athrawon ac aelodau eich teulu heddiw?

Gweddi
Helpa fi i feddwl am y ffordd rydw i’n cyfathrebu,
a bod yn ymwybodol o’r holl arwyddion rydw i’n eu datgelu, heb i mi hyd yn oed ddweud gair.
Helpa fi i fod yn garedig, yn gadarnhaol, ac yn agored gydag eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon