Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Fyddwch Chi'n Ei Adael Ar Eich Ol?

Ystyried ein cymynrodd bersonol ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried ein cymynrodd bersonol ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau ddarllenydd.

  • Gwelwch y ffotograffau sydd wedi eu cyflenwi ar gyfer y gwasanaeth hwn.

  • Fe allech chi lwytho i lawr fap o ardal ddwyreiniol Môr y Canoldir sy’n dangos lleoliad Creta (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon, tybed ydych chi wedi meddwl erioed am yr hyn y byddwch chi, fel bod dynol yn ei adael ar eich ôl ymhell wedi i chi ymadael â’r byd hwn? Beth fydd eich cyfraniad chi i’r byd, i’r gymuned leol ac i gymdeithas gyfan?

  2. Darllenydd 1  Mae ynys Creta hanner ffordd rhwng Ewrop ac Affrica, ym Mor y Canoldir. Mae hefyd hanner ffordd rhwng gwlad Groeg a Lybia. Mae llawer o adfeilion hynafol yno, yn dyddio o filoedd o flynyddoedd yn oll, olion gwareiddiad rydyn ni’n ei alw’n Wareiddiad Minoaidd. Os ydych chi eisiau gwybod pam, darllenwch y storïau am y Brenin Midas a’r hen chwedlau Groegaidd eraill. Tybir bod y cymeriad chwedlonol Midas yn seiliedig ar un o frenhinoedd Creta. Gelwir y bobl sy’n byw ar ynys Creta wrth yr enw Cretiaid.

    Darllenydd 2 Roedd y gwareiddiad Minoaidd yn flaenllaw iawn yn ei oes. 

    ’Dangoswch y llun or adfail.
    Minoan Ruins
     


    Dyma adfail palas o tua 1500 CC. Tua’r adeg honno yng ngwledydd Prydain, roedd y bobl yn byw mewn ogofau. Ond yng Nghreta, mae archeolegwyr wedi darganfod olion palasau deulawr, ac roedd y bobl yno’n byw bywydau cymdeithasol trefnus ryfeddol gyda gwyliau crefyddol, amaethyddiaeth ac ati, ac roedden nhw’n masnachu â sawl gwlad arall yn cynnwys yr Aifft, lle’r oedd y Pharoaid yn llywodraethu’r wlad.

    Darllenydd 1  Bryd hynny, fel heddiw, roedd ynys Creta wedi ei gorchuddio’n helaeth â choed olewydd. Mewn un adfail daeth archeolegwyr o hyd i olifau mewn jar. Nodwyd bod y cynnyrch yn 3000 o flynyddoedd oed, ac fe fwytaodd un o’r archeolegwyr un o’r olifau hyn! Roedd yn dal yn dda ar ôl yr holl flynyddoedd!

    .


    Darllenydd 2
      Tynnwyd y llun hwn ym mis Mehefin 2013. Hen goeden olewydden yw hi, y tybir ei bod yn 3250 o flynyddoedd oed. Dyna i chi hen goeden! Ac fel y gwelwch chi mae’n dal i gynhyrchu olifau!

    Darllenydd 1  I fyny ar ochr y mynydd heb fod ymhell o’r goeden olewydden hon mae safle archeolegol sy’n parhau i gael ei archwilio. Roedd y bobl a oedd y byw yn nhref hynafol Azoria (rhowch y pwyslais ar y sill olaf) yn rheoli mynediad trwy’r bwlch yn y mynydd yn eu pen hwy o ynys Creta. Tybir erbyn hyn bod y dref yn dyddio o’r flwyddyn 4000CC. Dyna 6000 o flynyddoedd yn ôl. Pobl Azoria a blannodd y goeden olewydden hon sydd yn y llun, a elwir yn awr yn ‘Monumental Olive tree of Kavousi’ (yn cael ei ynganu fel ‘Kavoosi’), Kavousi yw enw’r pentref agosaf.

  3. ArweinyddBle mae’r Minoaid erbyn heddiw? Does neb yn gwybod. Fel y dinosoriaid, fe wnaethon nhw ddiflannu. Fe losgwyd y palasau, fe fu daeargrynfeydd mawr, fe ffrwydrodd llosgfynyddoedd – mae pob eglurhad yn wir, ond does neb yn gwybod o ddifrif beth ddigwyddodd i’r gwareiddiad cynnar arbennig hwn. Mae’r bobl i gyd wedi mynd.

Amser i feddwl

Roedd y Minoaid yn rheoli Creta am filoedd o flynyddoedd. Roedden nhw’n perthyn i wareiddiad rhyfeddol. Maen nhw wedi mynd erbyn hyn, ond fe wnaethon nhw adael yr adfeilion ar eu hôl. Yn bwysicach na hynny, fe wnaethon nhw adael y coed olewydd ar eu hôl. Wedi cael eu defnyddio, ers amser mor bell yn ôl ag y gwyddom ni amdano, am yr olew ac am y ffrwythau i’w bwyta, olifau yw prif  gynalyddion llawer o’r economi yno, ac mae perchenogaeth y llwyni o goed wedi cael, ac yn parhau i gael, eu pasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth. Does neb yng Nghreta’n gallu diolch yn bersonol i’r Minoaid am eu gwareiddiad, ond heddiw maen nhw’n dal i ddiolch iddyn nhw am y coed olewydd, sy’n darparu bwyd ac olew i bawb yno. 

Tybed, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon, beth fydd ein cymynrodd unigol ni? A fyddwn ni’n gadael pethau da ar ein hôl – atgofion melys am berthnasoedd da, gwaith caled a hwyl fawr? Rhywbeth da, fel yr olifau yng Nghreta?

Neu a fydd gennym ni rai atgofion nad ydym yn dymuno’u cofio am nad ydyn nhw’n atgofion pleserus, nac yn braf?

Coed sy’n tyfu’n araf iawn yw coed olewydd, ond maen nhw’n byw am lawer iawn, iawn o flynyddoedd. Boed i ni fod fel y coed hynny, yn cynhyrchu ffrwyth a fydd yn para i fod yn dda hyd yn oed mewn miloedd o flynyddoedd.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon