Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llygoden Y Cyfrifiadur

Myfyrio ar bwysigrwydd dyfais dydyn ni prin yn sylwi arni, derbyn hyn, a rhoi teyrnged i’w diweddar ddyfeisiwr, Doug Engelbart.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar bwysigrwydd dyfais dydyn ni prin yn sylwi arni, derbyn hyn, a rhoi teyrnged i’w diweddar ddyfeisiwr, Doug Engelbart.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi lygoden cyfrifiadur i’w dangos. Fe allech chi hefyd lwytho i lawr luniau, rhydd o hawlfraint, o Doug Engelbart, ei ‘lygoden’ wreiddiol a lluniau o rai o’r cyfrifiaduron cynnar, a threfnwch fodd o ddangos y delweddau hyn er mwyn darlunio’r gwasanaeth.
  • Chwiliwch am gerddoriaeth electronig i’w chwarae, tebyg i gerddoriaeth Kraftwerk, a threfnwch fodd i chwarae hon hefyd ar y diwedd wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Fe fyddai cyfrifiaduron heddiw y tu hwnt i amgyffred unrhyw un ohonom 50 mlynedd yn ôl. Yn y 1960au, roedd cyfrifiaduron yn dal i fod yng nghamau cyntaf eu datblygiad. Roedden nhw’n dibynnu ar gardiau tyllog, ac yn bethau mawr fyddai’n mynd â llawer iawn o le mewn ystafell. A doedden nhw’n gallu gwneud fawr iawn mwy na chyfrifo. Yn 1968, fe ddaeth arbenigwyr o fyd cyfrifiaduron at ei gilydd i San Francisco er mwyn arddangos dull o gyfrifiadureg sydd wedi dod i gael ei adnabod fel y ‘mother of all demos’.

    Roedd yr arddangosiad, gan yr Augmentation Research Centre, yn rhywbeth chwyldroadol iawn. Yno roedd arweinydd y Ganolfan yn gallu trin gwrthrych ar y sgrin trwy ddefnyddio dyfais fechan gyda dwy olwyn iddi - y llygoden gyfrifiadurol gyntaf erioed. Roedd arddangosiadau eraill yn cynnwys aml-ffenestri a dull o delegynadledda.

    Yn ddiweddarach fe ddywedodd gwyddonydd ym maes cyfrifiadureg, o’r enw Alan Kay, cyd-sylfaenydd y Xerox PARC, bod yr arddangosiad wedi creu argraff fawr arno. Fe ddywedodd hyn, ‘The demo was one of the greatest experiences of my life. To me, it was Moses opening the Red Sea  . . .  It reset the whole conception of what was reasonable to think about in personal computing.’

  2. Peiriannydd trydanol oedd Engelbart o Oregon, yn Unol Daleithiau America. Roedd wedi ymddiddori’n fawr mewn erthyglau gan ddyfodolwyr ac roedd arno eisiau gwella’r byd er mwyn y ddynoliaeth gyfan. Roedd wedi bod yn aelod o’r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd ei brofiad o ymwneud â radar wedi rhoi iddo’r ysbrydoliaeth ar gyfer llunio sgrin cyfrifiadur y byddai’n  bosib ei defnyddio i rannu a golygu gwybodaeth.

  3. Fe ddaeth llygoden y cyfrifiadur yn rhan ganfyddadwy ac amlwg ar unwaith o syniad pobl am gyfrifiaduron, er hynny nid yw Engelbart yn enwog o gwbl. Fe ddychmygodd Engelbart y byddai cyfrifiaduron y dyfodol yn bethau canolog a fyddai’n cael eu rhannu, ond eto mae cyfrifiaduron erbyn hyn yn aml yn eiddo i unigolion. Ymhen amser fe gafodd ei wobrwyo yn 1997 â gwobr MIT-Lemelson, o $500,000 ymysg gwobrau eraill, ac fe gafodd ei dderbyn i’r National Inventors Hall of Fame yn 2000. Trwy ‘feddwl y tu allan i’r bocs’, gan gyfuno dychymyg byw gyda’r awydd delfrydyddol i helpu pobl, fe lwyddodd o ddifrif i newid y byd.

    Er hynny, wnaeth Doug Engelbart ddim ffortiwn, na dod mor enwog â Steve Jobs. Fe ddaeth y patent ar y llygoden i ben ymhell cyn i lawer o bobl hyd yn oed weld un, ac fe ddaliodd Doug Engelbart ati’n dawel gyda’i waith yn ei faes arbenigol. Dim ond pan fu farw yn ystod haf 2013 y cafodd ei bum munud o enwogrwydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am fywyd Doug Engelbart a meddwl pa mor aml rydych chi’n defnyddio’i ddyfais, sef llygoden y cyfrifiadur.

Yn dawel, gadewch i ni fod yn ddiolchgar am bobl athrylithgar anenwog – y rhai hynny sydd wedi newid ein byd, ond sydd prin yn cael eu cydnabod, ac o bosib ddim eisiau bod yn rhan o ddiwylliant pobl enwog.

Pa un hoffech chi fod – yn rhywun enwog sy’n byw yn y sbotolau, ond sydd ddim y gadael llawer o ddim byd da ar ei ôl, neu’n berson anhysbys sydd wedi newid y byd?

Cerddoriaeth

Chwaraewch gerddoriaeth gan Kraftwerk neu fand electronig arall tebyg.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon