Angenfilod
Ystyried ein gwahanol ganfyddiadau o beth yw angenfilod.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein gwahanol ganfyddiadau o beth yw angenfilod.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi deunyddiau, ond fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth agoriadol o Monsters Inc.os hoffech chi, a threfnu modd i chwarae’r gerddoriaeth ‘Monster’ gan The Automatic wrth i’r myfyrwyr fynd o’r gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Tybed oeddech chi’n ofni angenfilod pan oeddech chi’n blentyn Oeddech chi’n pryderu eu bod yn cuddio o dan y gwely ac yn debyg o ddod allan oddi yno yn y nos, neu allan o’r cwpwrdd, ac yn mynd i ymosod arnoch chi? Efallai yn yr hanner golau roedd rhywbeth fyddai’n hongian ar gefn y drws, neu gysgod wedi ei daflu o’r golau nos bach, yn ymddangos fel rhywbeth brawychus iawn - roedd eich dychymyg yn chwarae triciau â chi.
- Fe hoffwn i ystyried heddiw beth yw ein canfyddiadau ni o angenfilod, beth a phwy ydyn nhw. Yn y ffilm Monsters Inc., mae’r syniad sydd gennym o angenfilod, fel creaduriaid sy’n dychryn plant, yn cael ei droi wyneb i waered.
Chwaraewch y rhan o’r fflm Monsters Inc. o’r dechrau un hyd y fan lle mae Mr Waternoose yn dweud, ‘You are going in there because we need this.’, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny.
Fel mae’n digwydd, mae angenfilod yn dychryn y plant, ac yn gwneud iddyn nhw sgrechian. Oherwydd felly mae’r angenfilod yn cael yr ynni y mae arnyn nhw ei angen i gynhesu eu cartrefi ac i weithio’u peiriannau - o sgrechiadau’r plant - yn yr un ffordd ag y mae arnom ni angen trydan, olew, neu nwy, i weithio ein hoffer yn ein cartrefi ninnau. Ond yn y ‘Monstropolis’, fodd bynnag, y gred yw mai’r plant eu hunain yw’r angenfilod am fod yr angenfilod yn credu eu bod yn wenwynig ac roedden nhw’n credu y byddai eu plant bach hwy yn cael eu lladd pe bydden nhw’n cyffwrdd ag un o’r plant. - Yn aml, mae ein canfyddiad o’r hyn sy’n gwneud rhywbeth yn anghenfil yn dod o wybodaeth sy’n cael ei rhoi i ni amdanyn nhw gan eraill. Gall grwpiau neu unigolion gael eu demoneiddio a’u troi’n angenfilod, a phobl yn dechrau eu hofni. Fe all hynny ddigwydd am resymau da neu i’r gwrthwyneb.
Mae enghreifftiau amlwg iawn o hyn i’w weld wedi digwydd mewn hanes. Roedd propaganda gwrth Iddewig a arweiniodd y drefn Natsiaidd i argyhoeddi pobl yr Almaen bod yr Iddewon yn angenfilod yr oedd galw am eu lladd. Arweiniodd y gred gan y Tutsis yn Rwanda bod yr Hutus yn annynol at hil-laddiad ar raddfa enfawr. Yn fwy diweddar, mae’r demoneiddio o Islam a phobl Fwslimaidd yn dilyn nifer o ymosodiadau terfysgol gan rai unigolion eithafol, wedi peri lledaenu ofn a diffyg ymddiriedaeth ac ymosodiadau dialgar yn erbyn unrhyw Fwslim.
Yn amlwg nid yw pob un sy’n cael ei alw’n anghenfil yn greadur danheddog. Yn union fel mae Boo a Sully yn y film yn gwrthbrofi’r ffaith gamarweiniol roedden nhw’n ei chredu ynghylch bod y plant yn wenwynig, felly hefyd mae’n rhaid i ninnau fod yn ymwybodol y gall y wybodaeth a gawn ni am bobl eraill fod yn gywir neu’n anghywir. Ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu ynghylch pwy neu beth sy’n anghenfil, a phwy neu beth sydd ddim. - Ond mae rhai angenfilod sydd ddim yn bethau allanol - mae rhai sy’n dod o’n mewn ni. Y rhain yw ein hofnau dyfnaf yn cael eu gwireddu neu’n dod yn rhywbeth real.
Yn aml, yn ein hunllefau, fe fydd ein hisymwybod yn rhyddhau’r ofnau a’r pryderon hynny rydyn ni’n eu cadw ynghudd, ac fe fydd y rhain yn dod allan i’n dychryn ni. Yn Harry Potter and the Prisoner of Azkaban, mae creadur o’r enw Boggart yn ymddangos i bob person fel y peth hwnnw y maen nhw’n ei ofni fwyaf. Yn achos Neville, Professor Snape yw hwnnw, i Harry, Dementor, ac i Professor Lupin y peth hwnnw yw’r lleuad. Rhaid i’r ofn neu’r anghenfil unigol hwn gael ei drechu trwy ddefnyddio’r dewrder a’r cryfder sydd i’w gael o’n mewn. Mae hyn yn dod trwy sylweddoli nad anghenfil yw mewn gwirionedd ond yn hytrach greadigaeth y dychymyg.
Ond beth sy’n digwydd os ydyn ni, fel Harry, gyda rhai angenfilod sy’n ymddangos yn rhy lethol i’w trechu?
Wel, mae’n debyg wedyn ei fod yn achos o weld a yw ei anghenfil o ddifrif yn real.
Amser i feddwl
Oeddech chi’n arfer edrych o dan y gwely pan oeddech chi’n fach ... rhag ofn, ond yn sylweddoli wedyn nad oedd unrhyw beth yno?
Mae angen i ni wynebu’r hyn rydyn ni’n eu hystyried yn angenfilod, a gwirio’n hollol y ffeithiau cyn penderfynu bod rhywbeth yn wirioneddol ddychrynllyd. A oes angen deall eich angenfilod chi fel y gallwch chi sylweddoli nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn angenfilod o gwbl, ac mai eich canfyddiad chi’n unig o’r anghenfil sy’n ei wneud yn ddychrynllyd?
Cerddoriaeth
‘Monster’ gan The Automatic
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.