Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Groes Goch

Archwilio tarddiad Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio tarddiad Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau, ond efallai yr hoffech chi lwytho i lawr rai delweddau, sy’n rhydd o hawlfraint, oddi ar y Rhyngrwyd, o sawl cyd-destun rydyn ni’n gweld logo’r Groes Goch, a threfnwch fodd o’u dangos yn y gwasanaeth. Hefyd, fe allech chi lwytho i lawr ‘We want peace’ gan Emmanuel Jal (gwelwch y clip fideo ar YouTube gyda Alicia Keys ac eraill yn cymryd rhan) a threfnwch fodd o ddangos hwn wrth i’r myfyrwyr adael ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Nid peth hawdd yw ennill Gwobr Heddwch Nobel. Caiff ei dyfarnu unwaith y flwyddyn, ac mae rhai o’r unigolion sydd wedi ei hennill yn y gorffennol yn cynnwys Y Fam Theresa, Nelson Mandela, y pedwerydd ar ddeg Dalai Lama ac Aung San Suu Kyi. Eto, mae un derbynnydd sydd wedi ennill y wobr dair gwaith. Ond mudiad yn hytrach nag unigolyn –a hwnnw yw Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch.

  2. Mae logo’r mudiad, sef croes goch ar gefndir gwyn, yn un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn y byd. Mae’n golygu amddiffyniad, a’r weithred o achub, a hefyd mae’n amhleidiol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud â rhyfel. Wrth ddangos arwydd y groes goch mae gweithwyr meddygol yn gallu mynd i faes y frwydr ei hun a gofalu am y rhai sydd wedi eu hanfu a’r rhai sy’n marw. Mae byddinoedd cyferbyniol yn adnabod y symbol ac yn peidio â thanio.

  3. Ym mis Hydref 1863 y sefydlwyd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, yn Geneva, yn y Swistir. Y prif sylfaenwyr oedd gwr busnes o’r Swistir, Henry Dunant, a chyfreithiwr o’r Swistir, Gustave Moynier.

    Roedd Dunant yn teithio ledled Ewrop gyda’i waith, ac roedd wedi digwydd bod yn ninas Solferino yn yr Eidal adeg brwydr rhwng lluoedd Austria a Sardinia yn 1859. Roedd wedi arswydo wrth weld y lladdfa yno, gyda 40,000 o filwyr yn cael eu lladd neu eu hanafu mewn un diwrnod. Roedd cyrff , wedi eu gwasgaru ar draws maes y frwydr a doedd neb yno i roi sylw i’r rhai oedd wedi eu hanafu. Ar unwaith, fe drefnodd i bobl leol ofalu am y rhai oedd yn dal yn fyw.

    Wedi mynd adref, fe ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau ac fe hyrwyddodd y gwaith o sefydlu mudiad cymorth meddygol rhyngwladol amhleidiol a fyddai’n gallu ymyrryd mewn parthau rhyfel o’r fath. Darllenodd Gustave Moynier lyfr Dunant a chasglu ei ffrindiau dylanwadol ynghyd i ddinas Geneva. A dyna sut y ffurfiwyd mudiad y Groes Goch.

    Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel i Henry Dunant, fel unigolyn, yn ddiweddarach.

  4. Yn 1919, fe ymunodd mudiad y Cilgant Coch (Red Crescent) â mudiad y Groes Goch – mudiad cyfochrog oedd hwnnw gyda’i wreiddiau mewn gwledydd Islamaidd. Gyda’i gilydd maen nhw wedi gweithio mewn rhyfeloedd a thrychinebau trwy gydol yr ugeinfed ganrif, ac maen nhw ar waith ledled y byd ar hyn o bryd – yn Syria, De Sudan ac Afghanistan, er enghraifft, yn hyfforddi pobl leol gyda gwaith meddygol ac yn annog  mentrau heddwch.

Amser i feddwl

Mae’r Groes Goch yn chwarae rôl unigryw. Mae’r aelodau’n gweld gwrthdrawiad ac yn mynd i’w gyfeiriad, nid i annog ymladd, nid i sefyll ac edrych, nid i gymryd ochr, ond i amddiffyn bywyd ac urddas y rhai sydd wedi cael ei amharu - fel y rhai sydd wedi mynd yno o’u gwirfodd i frwydro a’r rhai sydd wedi bod yn wyliedyddion diniwed anffodus. Mae aelodau’r Groes Goch yn hollol amhleidiol. Dydyn nhw ddim yn cefnogi unrhyw ochr. Eu hunig nod yw lleihau dioddefaint.

Gadewch i ni ddod â’r syniad hwn yn nes adref, ac ystyried gwrthdrawiad yng nghymuned yr ysgol hon.

Mae digon o wrthdaro’n digwydd. Llawer ohono’n wrthdaro geiriol. Ambell dro mae’r gwrthdaro’n mynd yn gorfforol. (Efallai y gallech chi gyfeirio at ddigwyddiad penodol.) Sut byddwn ni’n ymateb?

Rydw i’n gwybod beth rydw i wedi ei weld a’i glywed. Bonllefau o anogaeth a chefnogaeth i’r naill ochr a’r llall. Bygythiadau, efallai, am beth allai ddigwydd yn y dyfodol i’r naill ochr neu’r llall. Efallai bod galw wedi bod am atgyfnerthiad gan eraill o’r tu mewn a thu allan i gymuned yr ysgol. Efallai bod rhywfaint o apelio wedi bod am deyrngarwch gang. Ac mae’r rhai hynny oedd ddim am fod yn rhan o’r gwrthdaro, fwy na thebyg, wedi sefyll a gwylio’r hyn oedd yn mynd ymlaen.

Fe hoffwn i annog rywfaint o ‘Weithredu Croes Goch’ o fewn y gymuned. Fe hoffwn weld peth dewrder gan y rhai sy’n gwingo at y boen maen nhw’n ei weld . Fe hoffwn i weld gweithredu cadarnhaol er heddwch yn ein mysg. Beth allai hynny ei olygu?

Fe allai olygu geiriau. Fe allai olygu gweithredu. Fe allai olygu cydymdeimlad ac empathi. Fe allai olygu anogaeth. Ac yn bendant fe allai olygu gwrthsefyll y demtasiwn i ochri â phwy bynnag sydd wrthi.

Fe hoffwn i allu dweud y byddai eich ymyriadau’n cael eu cydnabod a chithau’n derbyn gwobr heddwch. Ond mae’n debyg y byddai hynny’n annhebygol, ond yn sicr fe fyddai’n gwneud i chi deimlo’n dda eich bod wedi gwneud rhywbeth o ddifrif i geisio cael heddwch.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am dy neges o heddwch rwyt ti wedi ei rhoi i ni yn Iesu.
Boed i ni i gyd geisio gwarchod bywyd ac urddas ble bynnag yr ydym.
Amen.

Cerddoriaeth

 ‘We want peace’ gan Emmanuel Jal (gwelwch y fideo ar YouTube gyda Alicia Keys ac eraill yn cymryd rhan)

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon