Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Hajj

Myfyrio ar arwyddocâd y bererindod flynyddol hon i Fwslimiaid.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar arwyddocâd y bererindod flynyddol hon i Fwslimiaid.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am enghraifft o gerddoriaeth o’r Dwyrain Canol i’w chwarae ar y diwedd wrth i’r gynulleidfa ymadael â’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o bobl yn mynd ynghyd i Mecca yn Saudi Arabia ar gyfer y ddefod Fwslimaidd, yr Hajj. Mae’n rhaid i bob Mwslim, os yw’n abl i wneud hynny - yn gorfforol ac yn ariannol - wneud y bererindod hon i’r ddinas sanctaidd o leiaf un waith yn ystod ei fywyd, neu ei bywyd.

  2. Mae’r Hajj yn digwydd bob blwyddyn ar adeg arbennig, yn benodol yn ystod deuddegfed mis y calendr lleuad Islamaidd. Oherwydd bod y calendr hwnnw’n wahanol i’r calendr Gregoraidd a ddefnyddir yn y Gorllewin, mae dyddiadau’r Hajj yn newid bob blwyddyn. Eleni, fe fydd y bererindod yn digwydd o 13 i 18 o fis Hydref.

  3. Mae’r bererindod yn dechrau yn Ka’aba Mecca, y man lle creda Mwslimiaid yr oedd y deml gyntaf i Dduw, a adeiladwyd gan Ibrahim (sy’n adnabyddus i Gristnogion fel Abraham) a’i fab Ishmael, ac a adferwyd ar ôl hynny gan y proffwyd Muhammed. Mae’r pererinion yn cerdded o gwmpas yr adeilad saith gwaith, yn yfed diod o ddwr o’r ffynnon ac yn ceisio cusanu’r Garreg Ddu - rhan hynafol o furiau’r Ka’aba. Mae rhannau eraill o bererindod yr Hajj yn cynnwys treulio diwrnod yn gweddïo ar wastadeddau Arafat, treulio noson allan yn yr awyr agored rhwng Arafat a Mina, a thaflu cerrig at gyfres i bileri sy’n cynrychioli temtasiynau’r diafol, fel symbol o wrthod y diafol a sefyll yn gadarn yn eu ffydd.

  4. Bwriad y defodau hyn yw puro pob pererin a rhoi cyfle i Fwslimiaid fynegi eu hymostyngiad i Dduw a’u hundod â Mwslimiaid eraill o bob cwr o’r byd. Mae’n dod â phobl o wahanol hil a dosbarthiadau cymdeithasol ynghyd mewn ysbryd o gymdeithas. Dangosodd canlyniadau astudiaeth gan brifysgol Harvard bod rhai sy’n cymryd rhan yn yr Hajj yn dod yn ôl gyda mwy o deimlad o heddwch, a chydraddoldeb a chytgord ymysg ymlynwyr o wahanol grefyddau - ‘an increased belief in peace, and in equality and harmony among adherents of different religions’.

  5. Gall profiadau wedi eu rhannu ddod â phobl ynghyd a chreu cwlwm agosrwydd sy’n parhau. Trwy ddod â Mwslimiaid o bob rhan o’r byd at ei gilydd, mae’r Hajj yn eu hatgoffa o’r hyn y maen nhw’n ei rannu ac am eu hymrwymiadau, ac yn eu cryfhau yn eu ffydd. Yn y ffordd hon, mae’n helpu pobl i weld gwahaniaethau, nid fel problem ond fel rhywbeth gwerthfawr. Yn wir, mae’n bosib i’r Hajj newid y pererinion yn hollol, ond fe fyddan nhw bob amser yn nodi eu bod wedi cael eu newid er gwell.

Amser i feddwl

Ydych chi wedi bod ar bererindod erioed – taith at bwrpas penodol, crefyddol, fel arfer, i fan arwyddocaol? Gall cymryd amser wrth i chi deithio er mwyn myfyrio, meddwl a gweddïo, newid eich safbwyntiau ar fywyd, ac o bosib eich helpu i ddod yn well person o ganlyniad.

I ble byddai eich pererindod chi – crefyddol neu fel arall – yn mynd â chi?

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth o’r Dwyrain Canol rydych chi wedi ei dewis wrth i’r gynulleidfa ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon