Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Felly, pwy oedd Guy Fawkes?

Myfyrio ar gymhelliad Guy Fawkes i wneud yr hyn a wnaeth.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar gymhelliad Guy Fawkes i wneud yr hyn a wnaeth.

Paratoad a Deunyddiau

Chwiliwch am recordiad o’r gân ‘Blowing in the wind’ gan Bob Dylan, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Y flwyddyn yw 1605. Mae Prydain wedi goddef bron i 100 mlynedd o erledigaeth grefyddol. Fe lansiodd y Frenhines Mary I, a oedd yn Babydd, ymgyrch greulon yn erbyn y boblogaeth Brotestannaidd. Fe drefnodd ei holynydd, Elizabeth I, a oedd yn Brotestant, ymgyrch a oedd yr un mor greulon i geisio trechu Pabyddiaeth. Cafodd cannoedd o bobl eu llosgi i farwolaeth. Mae’r Brenin newydd, James I, yn Brotestant ac, ar y dechrau, mae’n fwy cymedrol. Ond mae’n dal i wrthod trin y Pabyddion yn gyfartal. Mae Pabyddion cyfoethog yn gorfod talu dirwyon enfawr, ac mae cynlluniau ar droed i wahardd y ffydd ymhen amser.

  2. Mae cynllwyn yn deor i ladd y brenin ac adennill brenin Pabyddol. Arweinydd y cynllwyn yw Robert Catesby, uchelwr a oedd wedi helpu  gwrthryfel a fu’n fethiant yn erbyn y Frenhines Elizabeth I. Mae dynion o’r enw Thomas Winter, John Wright, Thomas Percy, a Guy Fawkes yn ymuno ag ef. Erbyn y diwedd roedd 13 o gynllwynwyr.

  3. Y cynllun yw storio powdwr gwn yn selerydd Ty’r Arglwyddi a chreu ffrwydrad fyddai’n lladd y brenin a llawer o’i brif wleidyddion wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Senedd ar y 5ed o Dachwedd. Oherwydd ei brofiad o fod wedi gweithredu yn Sbaen, fe wirfoddolodd Guy Fawkes, i danio’r ffiws. Ond mae un o’r gwleidyddion, yr Arglwydd Monteagle, yn cael llythyr dienw yn ei rybuddio rhag mynd i’r Senedd ar y diwrnod hwnnw. Wedi cynhyrfu’n lân, mae Monteagle yn mynd ar ei union i ddangos y llythyr i ymgynghorydd y brenin. Mae archwiliad manwl yn cael ei wneud yn yr adeiladau ar noson y 4ydd o Dachwedd ac mae Fawkes yn cael ei ddal, ac maen nhw’n dod o hyd i 36 casgen o bowdr gwn hefyd, yn y seler.

  4. Ar ôl tri diwrnod o artaith ofnadwy, mae Guy Fawkes yn cyfaddef. Mae’n rhoi enwau ei gyd gynllwynwyr. Maen nhw i gyd yn cael eu dedfrydu i farwolaeth bradychwyr ac maen nhw’n marw trwy gael eu harteithio’n erchyll.

Amser i feddwl

Hyd heddiw, fe fyddwn ni’n dathlu methiant y cynllwyn powdwr gwn neu’r ‘gunpowder plot’ trwy danio tân gwyllt a chynnau coelcerthi. Ond, mae’r cwestiwn yn parhau - pam y digwyddodd y fath gynllwyn, a sut mae modd datrys problemau o’r fath. Roedd y cynllwyn powdwr gwn yn rhywbeth a ddigwyddodd ar anterth 100 mlynedd o erledigaeth grefyddol a gwrthdaro. Rhaid i gymdeithas gyfiawn gynrychioli ei holl ddinasyddion, nid dim ond un grwp dethol. Os yw un grwp yn cael mwy o hawliau na’r llall mae gwrthdaro’n sicr o ddigwydd.

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y rhyddid crefyddol sydd gennym ni yn y wlad hon. Hyd yn oed os nad ydych chi’n dilyn ffydd benodol rydych chi’n rhydd i beidio. Does neb yn mynd i’ch gorfodi chi i fynd i eglwys neilltuol bob wythnos a dweud na chewch chi ddim mynd i eglwys arall. Does neb yn mynd i’ch rhwystro chi rhag dilyn crefydd neilltuol fel roedd y wlad yn ei wneud ar un adeg.

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar bod gennym ni ryddid i fod yn ni ein hunain a gadewch i ni weithio i gadw’r rhyddid hwnnw’n fyw ac yn iach yn ein gwlad.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Blowing in the wind’ gan Bob Dylan

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon