Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Plant Mewn Angen: Sioe apel

Archwilio beth mae’r ymgyrch Plant mewn Angen yn ei wneud i helpu plant ledled y D.U.

gan Vicky and Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio beth mae’r ymgyrch Plant mewn Angen yn ei wneud i helpu plant ledled y D.U.

Paratoad a Deunyddiau

  • Holwch o flaen llaw a oes unrhyw ddisgyblion yn eich ysgol chi wedi codi arian yn y gorffennol mewn ymgyrch Plant Mewn Angen. Os oes, beth wnaethon nhw? Efallai y gallech chi drefnu i rai ohonyn nhw ddod i sôn wrth eich cynulleidfa yn y gwasanaeth am yr hyn wnaethon nhw.

  • Am ragor o wybodaeth fwy penodol, yn cynnwys ystadegau a gwybodaeth ynghylch yr elusennau a dderbyniodd help yn eich ardal chi (gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer cam  1 isod), ewch i’r wefan: www.bbc.co.uk/programmes/b008dk4b/features/cin-subindex-whoyouhelp

  • Argraffwch y wybodaeth, gymwys ar gyfer oedran y disgyblion sydd yn y gwasanaeth, sydd i’w chael ar y wefan: www.bbc.co.uk/programmes/b008dk4b/features/cin-subindex-schools

  • Cyfrifwch beth fyddai cyfanswm yr arian y byddai’n bosib ei gasglu pe byddai pawb sy’n bresennol yn y gwasanaeth yn casglu ac yn rhoi £10 yr un (gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer cam  3 isod).

  • Hefyd ar gyfer cam 3, meddyliwch am rai pethau y byddai’n bosib i’r myfyrwyr eu gwneud i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen, yn cynnwys defnyddio peiriannau chwilio neilltuol (mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:www.bbc.co.uk/programmes/b008dk4b/features/cin-fundraising-extras).

  • Llwythwch i lawr y clip sy’n rhoi rhagflas i chi o’r sioe deledu a fydd yn ymddangos eleni, ar gyfer ei chwarae wrth i’r myfyrwyr fynd o’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  • Mae’n beth cyffredin iawn i lawer o oedolion, a phlant hefyd, yma yn y D.U. feddwl mai rhywbeth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill yw tlodi a dioddefaint. Mae ymgyrch Plant Mewn Angen y BBC yn dangos i ni nad dyna’r achos, gan fod gwir angen yn aml yn llawer nes adref i ni.

    Sefydlwyd yr elusen ‘Children in Need’ yn 1980. Ers hynny, mae’r elusen wedi cefnogi prosiectau ar gyfer plant yn y D.U. trwy godi dros £650 miliwn. Un syml yw gweledigaeth yr elusen -  bod pob plentyn yn y D.U. yn cael plentyndod saff, hapus a diogel, sy’n rhoi cyfle iddyn nhw gyflawni eu potensial.

    Ar hyn o bryd mae’r elusen yn cefnogi 2600 o brosiectau ledled y D.U. Ar wefan ‘Children in Need’ mae dadansoddiad, wedi ei rannu’n ardaloedd daearyddol trwy’r wlad, sy’n dangos pwy sydd wedi cael eu help yn y gwahanol ardaloedd. Mae hyn yn gwneud y weithred o godi’r arian, a’r rhoi at yr elusen, yn llawer mwy perthnasol a real.

    Yma, fe allwch hi drafod gyda’r myfyrwyr yr ystadegau a’r wybodaeth ynghylch yr elusennau a dderbyniodd help yn eich ardal chi, gwybodaeth y gwnaethoch ei chasglu wrth i chi baratoi ar gyfer y gwasanaeth.

  • Mewn byd lle byddwn ni’n aml yn clywed am lygredigaeth ariannol, mae’n galonogol gwybod bod Plant Mewn Angen yn gwarantu bod pob ceiniog sy’n cael ei chyfannu yn mynd yn uniongyrchol i’r elusen - yn wahanol i rai sefydliadau sy’n defnyddio peth o’r arian sy’n cael ei roi er mwyn costau cyffredinol uchel a chyflogau staff. Yn lle hynny, mae’r costau angenrheidiol hynny’n cael eu cyflenwi trwy gyfrwng buddsoddiadau ac ad-daliadau treth ar roddion trwy gyfrwng Rhoddion Cymorth.

  • Mae’r digwyddiad blynyddol ar y teledu eleni ar ddydd Gwener, 15 Tachwedd. Mae’r trefnwyr yn addo y bydd yn ddigwyddiad mwy a gwell hyd yn oed na’r blynyddoedd a fu. Caiff y digwyddiad ei gefnogi gan nifer fawr o enwogion a rhaglenni teledu poblogaidd. 

    Mae llwyddiant y digwyddiad blynyddol hwn, fodd bynnag, yn dibynnu ar yr holl waith caled a’r ymdrech sy’n cael ei gwneud gan y plant a’r oedolion cyffredin sy’n codi’r arian at yr elusen. Y newyddion da yw bod pob mymryn bach o ymdrech, yn wir, yn gwneud gwahaniaeth pan fydd llawer o bobl yn ymuno â’i gilydd! Meddyliwch, pe byddai pawb sy’n bresennol yn y gwasanaeth yn casglu a rhoi £10 yr un, sy’n hollol bosib ei wneud, yna fe allech chi gyda’ch gilydd godi cyfanswm o £  . . .  (lluoswch y nifer o fyfyrwyr ac oedolion eraill sy’n bresennol yn y gwasanaeth, gyda 10 i gael y cyfanswm).

    Felly, sut y gallech chi gymryd rhan yn yr ymgyrch? Gofynnwch i athro am y pecyn sydd wedi ei baratoi ar gyfer 2013 i godi arian. Dyma rai syniadau syml ar gyfer codi arian ar gyfer Plant mewn Angen eleni: 

    - coginio cacennau, bisgedi, melysion
    - trefnu taith gerdded noddedig, ras, neu drefnu cyfnod o dawelwch noddedig
    - gofyn i’r ysgol gynnal diwrnod heb orfod gwisgo gwisg ysgol a chodi £1 ar bawb am gael gwisgo dillad o’u dewis eu hunain 
    - trwy ofyn i’ch rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanoch arbed un o’r peiriannau chwilio, o’r enw Easysearch, Affilyon neu Everyclick fel eich tudalen chwilio ddiofyn, fe allech chi godi arian at Plant Mewn Angen bob tro y byddwch chi’n chwilio am unrhyw beth ar-lein (cewch ragor o wybodaeth ar: www.bbc.co.uk/programmes/b008dk4b/features/cin-fundraising-extras).

  • Diolch am hynny, fe fydd y rhan fwyaf ohonoch wedi eich bendithio ag iechyd da a rhieni neu ofalwyr sy’n gofalu amdanoch yn dda. Ond, yn anffodus, nid dyna achos pawb. Mae tueddiad yn ein cymdeithas gyfoes sy’n gwneud i ni fod eisiau canolbwyntio ar yr hyn sydd ddim gennym ni a beth fyddwn ni eisiau ei gael nesaf. Ond mae’n bwysig ein bod yn anwybyddu’r duedd hon ac yn ceisio meddwl am yr hyn sydd gennym ni, a bod yn ddiolchgar am hynny. Trwy wneud eich rhan eleni fe fyddwch chi’n gallu rhoi yn ôl i gymdeithas, a helpu’r rhai hynny sy’n llai ffodus na chi eich hunain.

Amser i feddwl

Mae Plant Mewn Angen yn ein helpu i ganolbwyntio ar bobl eraill a’u hanghenion yn hytrach nag arnom ni ein hunain. Beth am i chi geisio meddwl am ffyrdd o godi ychydig o arian eleni i helpu newid bywyd rhai sy’n llai breintiedig na chi. Pe byddai bawb ddim ond yn gwneud rhywbeth bach, gyda’n gilydd fe wnawn ni lawer!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am sefydlwyr yr elusen Children in Need, ac am bawb sy’n dal i fod yn ymwneud â pharau gwaith da’r elusen.
Helpa ni i fod yn ddiolchgar am yr holl bethau sydd gennym, a helpa ni i helpu’r rhai sydd mewn angen yn y ffordd orau y gallwn ni.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon