Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd y Cofio

Yn dangos i’r myfyrwyr rym cofio delfrydau ymddwyn cadarnhaol er mwyn eu hannog i arwain bywyd mwy diolchgar.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dangos i’r myfyrwyr rym cofio delfrydau ymddwyn cadarnhaol er mwyn eu hannog i arwain bywyd mwy diolchgar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bwrdd gwyn neu siart troi i gofnodi ymateb y myfyrwyr.
  • Gwirfoddolwr i gymysgu a dangos cardiau.
  • Dau ddarllenydd (dewisol).
  • Y gerddoriaeth ‘Thank you for the days’ gan y Kinks, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy nodi sut rydyn ni, fel gwlad, yn cofio ac yn dathlu digwyddiadau neilltuol bob blwyddyn. Gofynnwch i’r myfyrwyr awgrymu rhai o’r digwyddiadau hyn, a nodwch y rhain ar y bwrdd gwyn neu’n siart troi. Fe allech chi gael awgrymiadau fel y Pasg, Dydd Nadolig, Sul y Cofio.

  2. Holwch y myfyrwyr pam eu bod yn meddwl ei bod hi’n bwysig cofio, a nodwch eu hymateb eto.

  3. Soniwch pa mor rymus y gall atgofion fod. Dywedwch wrth eich cynulleidfa, waeth faint wnawn ni ei ryfeddu at y cof enfawr sydd yn ein cyfrifiaduron diweddaraf neu yn ein ffonau symudol mwyaf modern, mae’r ymennydd dynol mewn cynghrair hollol wahanol. Mae amcangyfrifon yn amrywio ynghylch beth yw gallu storio (storage capacity) yr ymennydd dynol. Mae rhai yn dadlau na allwch chi fesur hynny. Mae eraill yn honni bod y ffigur yn 1 terabyte, 100 terabyte neu’n 2.5 petabyte (sydd yn 2.5 mil terabyte). Os yw’r ffigur mwyaf hwn yn gywir, er mwyn cymharu o ran diddordeb, pe byddai eich ymennydd yn gweithio fel recordydd fideo digidol, fe fyddai 2.5 petabyte yn ddigon i ddal tair miliwn o oriau o sioeau teledu. Fe fyddai’n rhaid i chi adael y teledu i redeg am 300 mlynedd cyn y byddech chi wedi llenwi’r cof yn llawn, ac yn methu cadw dim rhagor o sioeau! Mae’r gallu hwn i storio atgofion yn y cof dynol felly’n llawer mwy na gallu cof cyfrifiadur.

  4. Ewch ymlaen trwy ofyn, ‘Pa atgofion rydyn ni’n eu storio? Eglurwch ein bod ni wedi bod yn storio atgofion o’n plentyndod cynharaf, ond nad yw’r holl atgofion yn bosib cael mynediad atyn nhw ar unwaith. Mae rhai atgofion yn tueddu i fod yn gliriach yn ein meddwl nag eraill, yn debyg i’r hoff luniau proffil ar Facebook. Yn aml, atgofion am rai rydyn ni’n eu caru sydd gennym, aelodau ein teulu a’n ffrindiau – y rhai sydd wedi ein hysbrydoli ni i fod yr unigolion gorau y gallwn ni fod. Y rhai hynny sydd wedi dangos caredigrwydd a chariad tuag atom ni, Y rhai hynny sydd wedi dangos i ni beth mae’n ei olygu i fod yn berson da.

  5. Soniwch fod cofio yn beth cadarnhaol iawn i’w wneud- mae’n ffordd o ymarfer ein banc mawr o atgofion er mwyn dod â digwyddiadau, pobl a llefydd i’n sylw - y pethau hynny sydd wedi gwneud argraff barhaol arnom am resymau da. Wrth i ni gofio, mae emosiynau cadarnhaol yn cael eu tanio a hynny’n gallu arwain at synnwyr o ddiolchgarwch, Mae datblygu ffordd o fyw mwy diolchgar yn rhoi budd parhaol i ni - mae seicolegwyr yn  dweud fod bod yn ddiolchgar yn gallu gostwng pwysedd gwaed, lleihau straen a chreu pobl hapusach.

    Ond, yn drist, fodd bynnag, oherwydd bod atgofion yn bethau mor gryf, fe all atgofion cas barhau a chynhyrchu emosiynau anhapus. Fe allai fod yn beth buddiol trafod atgofion felly gyda rhywun rydyn ni’n ei drystio.

  6. Mae Cristnogion yn credu bod Duw’n gallu ein trawsnewid ni trwy broses o adnewyddu. Mae adnewyddu’n golygu ein hiachau os byddwn ni’n doredig, neu ein cryfhau os byddwn ni’n teimlo’n wangalon, a thrwy dderbyn maddeuant a maddau i eraill fe allwn ni greu lle i ddechrau’r broses, a fydd yn broses hir o bosib ond yn broses angenrheidiol, o iachau ein hatgofion a’n hemosiynau.

Amser i feddwl

Os ydych chi wedi dewis cael rhai i ddarllen, gofynnwch iddyn nhw ddarllen y ddau ddyfyniad canlynol o’r Beibl ar y pwynt hwn, ac yna ewch ymlaen gyda’r testun sy’n dilyn wedyn.

Byddaf yn diolch i’m Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch (Philipiaid 1.3).

Nid wyf fi wedi peidio â diolch amdanoch, gan eich galw i gof yn fy ngweddïau. (Effesiaid 1.16).


Yn y ddau ddarn yma, allan o lythyrau Paul, rydym yn gweld bod diolch a chofio yn mynd law yn llaw. Pan fyddwn ni’n cofio am y rhai rydyn ni’n eu caru, y bobl sydd wedi ein hysbrydoli ni ac wedi gwneud gwahaniaeth yn ein bywyd, fe ddylem fod yn ddiolchgar iddyn nhw. Hefyd fe ddylem ddiolch i Dduw am eu gwneud nhw’n rhan o’n bywyd ni. Diolchwch hefyd i Dduw am y rhodd o gofio a gwahoddwch Dduw i iachau eich atgofion anhapus os ydych chi’n teimlo’n barod am hynny.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am fy helpu i.
Diolch i ti am helpu fy ffrindiau.
Diolch i ti am yr holl bethau da rwyt ti’n eu rhoi i ni, ac am yr atgofion cadarnhaol sydd gennym am y pethau hynny.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Thank you for the days’ gan y Kinks

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon