Pwy sy'n eich gwylio
Ystyried y gwahanol ddefnydd o wneir o loerennau gan lywodraethau ac eraill.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5 - Gwasanaeth Sylwadau
Nodau / Amcanion
Ystyried y gwahanol ddefnydd o wneir o loerennau gan lywodraethau ac eraill.
Paratoad a Deunyddiau
- Chwiliwch am ddelweddau o loerennau modern.
- Chwiliwch am gerddoriaeth o wlad Sudan i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Miloedd o filltiroedd uwch ein pennau, mae'r ffurfafen yn llawn o loerennau di-griw. Mae'r llongau-gofod bach, technoleg uwch hyn yn darparu gwasanaethau cyfathrebu, teledu a gwybodaeth am ein byd a thu hwnt. Mae lloerennau arsyllu yn cymryd miloedd o luniau o'r Ddaear, sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion sifil a milwrol.
Ar 29 Rhagfyr 2010, fodd bynnag, fe ddechreuodd prosiect sy'n defnyddio grym y lloerennau arsyllu i helpu diogelu hawliau dynol. - Cafodd y Satellite Sentinel Project ei sefydlu gan yr actor George Clooney a'r arbenigwr ar Affrica, John Prendergast. Y nod yw defnyddio lloerennau gwyliadwriaeth a ffotograffig i gofnodi ac adrodd ar gamdriniaethau hawliau dynol yn y rhyfel cartref rhwng gogledd a de Sudan, lle mae gwrthdaro yn parhau i ddigwydd.
Yn y rhanbarth hwn, mae gan y byddinoedd preifat a'r milisia rym aruthrol ac mae llawer ohonyn nhw'n llosgi pentrefi, gan lofruddio a chaethiwo'r pentrefwyr. Mae'r arglwyddi rhyfel yn gwybod tra bod y cyfryngau byd-eang yn gwybod dim am yr erchyllterau, fe allan nhw barhau. Trwy ddefnyddio grym arsyllgar dihafal lloerennau, fodd bynnag, gall y prosiect Satellite Sentinelddarparu tystiolaeth, ar gyfer y cyfryngau'n fyd-eang, o erchyllterau a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth.
Y gobaith yw y bydd tystiolaeth o’r fath yn gallu cael ei defnyddio i ddwyn y cyflawnwyr troseddau hyn i gyfrif, ac annog gweithredu gwleidyddol i sicrhau bod setliad yn digwydd a fydd yn arwain at heddwch yn y rhanbarth. Mae hynny gryn ffordd i ffwrdd, ond, trwy ddarparu tystiolaeth o erchyllterau, mae'r Satellite Sentinel Project yn gallu amddifadu'r milisia o un o'u grymoedd mawr. Maen nhw wedi gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu pellach ac wedi gosod sialens i'r byd i weithredu yn erbyn y trais hwn. - Mae George Clooney yn defnyddio'i gyfoeth, ei enwogrwydd a'i ddylanwad i helpu datrys creisis ac yn ceisio gwella bywydau miloedd o bobl. Rhaid i ninnau, hefyd, ddefnyddio ein doniau i helpu eraill sy'n llai ffodus na ni ein hunain.
- Mae cwestiwn yn aros, fodd bynnag, sy'n gofyn pwy arall allai fod yn cadw golwg arnom. Defnyddir awyrennau 'drone' yn aml y dyddiau hyn gan lywodraethau mawr y byd i ymosod ar 'elynion' honedig a gall unigolion brynu awyrennau 'drone' bychan iawn yn weddol rwydd.
- Rydym hefyd yn byw gyda'r Camerâu Cylch Cyfyng (y CCTV) o'n cwmpas ymhob man. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i leihau trosedd, ond mae hefyd yn golygu bod rhan helaeth o'r amser a dreuliwn ni y tu allan i'n cartrefi, wrth i ni fynd o gwmpas yn byw ein bywydau, yn cael ei gofnodi.
Amser i feddwl
Mae'r mwyafrif o bobl yn ddigon bodlon i berson anhysbys fod yn gwylio drosom ni pan fyddwn allan o gwmpas y lle, ac ychydig a fyddai'n codi llais yn erbyn y prosiect y mae George Clooney wedi ei sefydlu i helpu'r sefyllfa yn y Sudan. Ond, ymhle mae tynnu'r llinell? Hefyd, pa bryd y byddwn ni angen cadw hyn mewn cof - a yw'n newid ein hymddygiad?
Ar gyfer Ysgolion Eglwys
Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn gwylio drosom bob amser. A yw'r wybodaeth hon yn newid y ffordd yr ydym yn ymddwyn tuag at bobl eraill neu a yw'n ffordd o'n deffro weithiau, i'n helpu ni weld yr angen i adfer perthnasoedd toredig ar adegau anodd?
Cerddoriaeth
Chwaraewch gerddoriaeth o wlad Sudan.