Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Difodi/Exterminate? Na!

Yr hawl i gael bod yn fod dynol

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ymwybyddiaeth y myfyrwyr o iawnderau dynol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau ddarllenydd.

  • Chwiliwch am ddelwedd o Dalek, i’w dangos.

  • Efallai yr hoffech chi ymarfer dweud y gair ‘Exterminate’ mewn  llais fel Dalek.

  • Ymchwiliwch nifer o storïau newyddion cyfoes ynghylch iawnderau dynol lle mae achosion o dorri’r rheolau wedi digwydd, i’w rhoi fel enghreifftiau yng Ngham 5.

  • Trefnwch fod y gân ‘Get up, stand up’ gan Bob Marley ar gael gennych chi, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Rwy'n mynd i ddangos delwedd i chi, ac rwyf am i chi ddweud yn uchel yr ail air sy'n dod i'ch meddwl. Ia, yr ail air wnes i ddweud.
    Dangoswch y ddelwedd o’r Dalek, a rhowch gyfle i’r myfyrwyr ymateb.

  2. Arweinydd  Yn amlwg fe ddechreuodd y mwyafrif ohonoch trwy feddwl am yr enw Dalek.  Dalek yw hwn – arch elyn Dr Who, y Doctor sydd yn 
    Arglwydd Amser. Cafodd y Daleks eu cyflwyno i gynulleidfaoedd teledu 50 mlynedd yn ôl, o gwmpas y Nadolig yn y flwyddyn 1963. Yr ail air sydd o ddiddordeb i mi, fodd bynnag sef,  . . .  difodi, neu fel; byddai’r Daleks yn dweud, ‘Exterminate!

  3. Arweinydd  Pwy yw'r Daleks, yn ôl ysgrifenwyr sgript Dr Who? Cyborgs wedi cael eu haddasu'n enetig sydd yn analluog i deimlo unrhyw emosiwn cadarnhaol fel trugaredd, edifeirwch na thosturi ydyn nhw, yn ôl pob tebyg. Yr unig emosiwn y maen nhw'n gallu ei deimlo yw casineb. Mae'r casineb hwn yn eu harwain ar genhadaeth ddiddiwedd i gael gwared â  phob ffurf arall o fywyd yn y bydysawd. Mewn geiriau eraill  . . . i ddifodi - ‘to exterminate!

    A oes gennym ni Daleks yma yn ein mysg ni? Pobl sydd heb unrhyw arlliw o emosiwn cadarnhaol? Gobeithio nad oes! Cael profiad o ystod o emosiynau yw un o'r ffactorau sy'n ein gwneud yn ddynol. Fe allwn ni deimlo casineb ar adegau, ond rydyn ni hefyd yn gallu teimlo cariad, edifeirwch, tristwch, llawenydd, rhyfeddod, a llawer o emosiynau eraill hefyd. Dyna beth mae bodau dynol yn ei wneud.

  4. Arweinydd  Rhyw 65 blwyddyn yn ôl, ar 10 Rhagfyr 1948, fe gytunodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i fabwysiadu'r Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol. Roedd yn rhestru'r hyn y dylai pob merch, pob dyn, a phob plentyn ei ddisgwyl mewn bywyd, yn gydradd ac ym mhob man. Mewn geiriau eraill, mae'n ddisgrifiad o wir fywyd dynol. Dyma ond ychydig o'r hawliau oddi ar y rhestr.

    Darllenydd 1 Yr hawl i fywyd.

    Darllenydd 2 Yr hawl i fod yn rhydd o gaethwasiaeth.

    Darllenydd 1 Yr hawl i ddilyn unrhyw grefydd.

    Darllenydd 2 Yr hawl i gael addysg.

    Darllenydd 1 Yr hawl i beidio â chael pobl yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

    Darllenydd 2 Yr hawl i bleidlais rydd a chyfrinachol ar adeg etholiadau.

    Arweinydd  Fyddwn ni ddim yn ennill yr hawliau hyn. Fyddwn ni ddim yn etifeddu'r hawliau hyn trwy gael ein geni i'r teulu iawn, trwy fyw mewn gwlad benodol, neu trwy fod yn gyfoethog. Dyma'n hawliau, yn syml oherwydd mai bodau dynol ydyn ni ac nid Daleks. Hawliau dynol ydyn nhw.

  5. Arweinydd  Mae'n beth braf iawn meddwl am yr hawliau dynol hyn wrth i ni wrando ar newyddion y byd neu ddarllen amdanyn nhw.

    Darllenydd 1 Yr hawl i fywyd.

    Arweinydd  Rhowch enghraifft o lofruddiaeth neu gyflafan.

    Darllenydd 2 Yr hawl i fod yn rhydd o gaethwasiaeth.

    Arweinydd  Rhowch enghraifft o ecsploetiaeth.
    Darllenydd 1
     Yr hawl i ddilyn unrhyw grefydd.

    Arweinydd  Rhowch enghraifft o erledigaeth grefyddol.

    Darllenydd 2
     Yr hawl i gael addysg.

    Arweinydd  Rhowch enghreifftiau o ffoaduriaid yn Affrica neu'r Dwyrain Canol yn cael eu hatal rhag derbyn cyfleoedd addysgol.

    Darllenydd 1
     Yr hawl i beidio â chael pobl yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

    Arweinydd  Rhowch enghraifft o wahaniaethiad.

    Darllenydd 2
     Yr hawl i bleidlais rydd a chyfrinachol ar adeg etholiadau.

    Arweinydd  Rhowch enghraifft o broses etholiadol ddiffygiol neu lygredig.

Amser i feddwl

Arweinydd  Fel y gwelwch chi, nid yw'n ddigon datgan mai ein hawliau dynol yw'r rhain. Mae angen iddyn nhw gael eu gorfodi. Fe fydd bob amser rai a fydd, er budd iddyn nhw eu hunain, yn barod i'w hanwybyddu. Trwy'r byd i gyd mae angen i lywodraethau fel ein llywodraeth ni roi pwysau ar wledydd ac unigolion sy'n troseddu yn erbyn hawliau dynol. 

Mae'n bwysig hefyd ein bod ni yn chwarae ein rhan hefyd. Gwahaniaethu, ecsploetio, gwrthod rhyddid i leisio barn, bwlio, unrhyw ffurf o drais - gall y rhain i gyd ddigwydd yma yn y gymuned ysgol hon. Maen nhw'n enghreifftiau o wrthod hawliau dynol ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i'w hatal. Efallai y gallwn wneud hynny trwy ymyrryd ein hunain. Efallai y bydd arnom ni angen cefnogaeth gan eraill. Mae bod yn wir ddynol nid yn unig yn golygu ein bod yn mwynhau ein hawliau dynol ni, ond hefyd yn gofalu bod eraill yn gallu mwynhau eu hawliau nhw hefyd - oherwydd nid Daleks ydyn ni.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am botensial bywyd bodau dynol.
Boed i mi wneud y gorau o fy mhotensial i fy hun, gan fwynhau rhyddid a chyfleoedd.
Boed i mi hefyd fod o ddifrif ynghylch fy nghyfrifoldebau, er mwyn sicrhau bod eraill o’m cwmpas yn gallu cael yr un profiad.
Amen.

Cerddoriaeth

Get up, stand up’ gan Bob Marley

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon