Mynd adref dros y Nadolig
Annog y myfyrwyr i feddwl am gyflwr y bobl sydd ymhell o’u cartref ar adeg y Nadolig, ac sy’n gwerthfawrogi eu teuluoedd.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i feddwl am gyflwr y bobl sydd ymhell o’u cartref ar adeg y Nadolig, ac sy’n gwerthfawrogi eu teuluoedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi deunyddiau, ond fe allech chi os hoffech chi, drefnu i ddarllenwyr arwain y gwasanaeth un ar gyfer pob cam isod.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o gân Nadoligaidd sy’n ffefryn gennych chi, a’r modd i’w chwarae yn ystod y cyfnod ‘ Amser i feddwl’, tua diwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Dros gyfnod o 40 diwrnod bob blwyddyn, bydd dros biliwn o bobl yn gwneud y daith adref ar gyfer y Nadolig yn Tsieina. Canlyniad y ffaith fod y boblogaeth yn uchel iawn, bod maint y wlad mor fawr, a natur economi Tsieina, yw bod y teuluoedd wedi cael eu gwasgaru i bob rhan o'r wlad enfawr hon. Mae symud cymaint o bobl yn golygu ymdrech genedlaethol sylweddol, a chaiff hyn ei gydnabod fel yr ymfudiad blynyddol mwyaf yn y byd sy'n ymwneud â'r ddynoliaeth. Y Flwyddyn Newydd yw'r brif wyl a gaiff ei dathlu yn Tsieina, sydd fel arfer yn digwydd yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Blwyddyn Newydd y Gorllewin. Caiff pob gweithiwr 7 diwrnod o wyliau, ond bydd yr ymfudiad yn digwydd dros 40 diwrnod.
- Er yn llai o sialens yn y wlad hon, mae'r angen i fynd adref ar gyfer y Nadolig yr un mor bwysig i lawer. Bydd ffyrdd prysur, trenau llawn pobl ac oediadau gan gwmnïau hedfan yn ildio i egwyl ymlaciol a boddhaus, wrth i aelodau o deuluoedd deithio pellteroedd maith er mwyn cael bod yng nghwmni'r rhai y maen nhw'n eu caru.
- Mae'r angen i fod yng nghwmni'n teulu yn deimlad dynol cyffredin, eto mae llawer yn gorfod treulio'r Nadolig i ffwrdd o gartref. Amcangyfrifir bod 5.5 miliwn o Brydeinwyr yn byw dramor – bron i 1o 10 o boblogaeth y D.U. Prif gyrchfan i'r cyn-wladgarwyr yw Awstralia – 1.3 miliwn. Nid yw'n anodd dychmygu pam. Ond mae'r pellter rhwng y D.U. ac Awstralia cymaint, fodd bynnag, fel na all llawer fforddio'r hediadau gartref ar gyfer y Nadolig. Yn yr un modd, efallai na all aelodau o'r lluoedd arfog Prydeinig sy'n gwasanaethu dramor gael yr amser rhydd y byddan nhw ei angen i deithio.
- I'r sawl sy'n treulio dedfrydau yn y carchar, gall y Nadolig fod yn llym dros ben. Bydd pob carcharor yn cael caniatâd i wneud un alwad ffôn at anwylyd, ond hynny fydd yr unig gyswllt â'r byd oddi allan. Bydd carcharorion yn derbyn bag anrheg gan reolwr y carchar a bydd cinio yn 'well nag arfer', ond dyna gyn belled ag yr â'r dathliadau. I lawer o garcharorion, bydd yr atgofion am Nadolig o'r tu allan yn gwneud yr adeg hon ymhlith y rhai mwyaf anodd yn y flwyddyn.
- Mae llawer o bobl yn byw yn y wlad hon sydd ddim yn gallu fforddio i deithio adref i dreulio'r Nadolig yng nghwmni eu teuluoedd. Ac efallai y bydd y llu o ymfudwyr sydd wedi teithio i'r D.U. i gael gwaith yn treulio'r Nadolig mewn llety dros-dro, gan feddwl am eu teuluoedd filltiroedd maith i ffwrdd a theimlo'n unig iawn.
- Mae ffoaduriaid ledled y byd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid oherwydd ffactorau gwleidyddol. Fyddan nhw ddim yn gallu mentro teithio adref.
- Yn drist, hefyd, fe fydd llawer yn treulio'r Nadolig heb gwmni rhywun oedd yn annwyl ganddyn nhw oherwydd ei fod ef neu hi wedi marw'n gynharach yn y flwyddyn.
Amser i feddwl
Fe ddywedir wrthym fod y Nadolig yn gallu bod yn straen i lawer wrth i deuluoedd dreulio amser yng nghwmni ei gilydd. Yn wir, mae'n ddigwyddiad blynyddol sy'n gofyn am hyblygrwydd gan bawb. Ond, er gwaethaf hyn, mae'r profiad cyffredinol yn dangos i ni'r pwysigrwydd o dreulio amser yng nghwmni anwyliaid dros y Nadolig. Fel y mae biliwn o bobl Tsieina yn gwybod, mae'n bwysig gwneud ymdrech a threulio'r Nadolig yng nghwmni'r rhai a garwn.
Gadewch i ni'n awr dreulio ychydig o amser yn meddwl am ein teuluoedd a’u gwerthfawrogi.
Chwaraewch y gân Nadoligaidd o’ch dewis tra mae’r myfyrwyr am eu teuluoedd.
Emyn
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
Unrhyw gân Nadoligaidd o’ch dewis.