Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Oherwydd ffyddlondeb ci

Trwy gyfrwng stori wir, myfyrio ar y briodwedd ffyddlondeb.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Trwy gyfrwng stori wir, myfyrio ar y briodwedd ffyddlondeb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘That’s what friends are for’, o’r ffilm The Jungle Book(Walt Disney Productions, 1967), a threfnwch fodd o chwarae’r recordiad ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Roedd Peter Pero yn un o filoedd o filwyr Americanaidd a oedd wedi eu lleoli yn Irac. Roedd Peter wedi dod o hyd i ffrind yno, sef ci digartref a oedd yn ei ddilyn i ble bynnag yr ai ar batrôl. Un diwrnod roedd Peter Pero’n cerdded y tu allan i’r man diogel, a’r ci yn ei ddilyn. Yn sydyn, fe ddechreuodd y ci ysgyrnygu ac ymddwyn mewn modd amddiffynnol. Roedd dyn o Irac yn dod i’w cyfarfod  yn cario rhaw. Fe lwyddodd y ci i amddiffyn Peter, ond cafodd ei daro ar ochr ei ben gyda’r rhaw am ei drafferth.

    Oherwydd y cythrwfl hwn fe dynnwyd sylw’r milwyr Americanaidd eraill at yr hyn oedd yn digwydd ac fe wnaethon nhw redeg yno. Wedi gafael yn yr ymosodwr a’i lorio, fe ddaethon nhw o hyd i wn ynghudd yn ei ddillad.

    Pe na bai’r ci wedi amddiffyn ei ffrind, mae’n debyg y byddai Peter Pero a’r milwyr eraill wedi cael eu lladd.

  2. Ar ôl hynny fe alwyd y ci yn Scar, oherwydd yr archoll oedd ganddo ar ochr ei ben wedi iddo gael ei daro â’r rhaw. Daeth Peter Pero a Scar yn fwy o ffrindiau fyth, ond mae gan fyddin yr Unol Daleithiau bolisi dim anifeiliaid anwes. Oherwydd hynny doedd hi ddim yn bosib i Peter Pero gadw Scar nes byddai’n cael mynd yn ôl gydag ef i’r Unol Daleithiau ar ddiwedd ei gyfnod yn Irac.

    Trwy ymgyrch ar-lein, codwyd swm o arian i achub Scar a’i anfon at wraig Peter Pero, Anna, ac mae Scar wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau’n ddiogel. Mae Anna’n cadw rhuban melyn wedi ei glymu oddi amgylch coeden yn ystod cyfnod gwasanaeth Peter yn Irac – caiff ei ddatod pan ddaw gartref at ei wraig a’r ci a achubodd ei fywyd.

  3. Fe wynebodd Scar berygl er mwyn amddiffyn ei ffrind ac, yn yr un modd, fe wynebodd Peter Pero heriau wrth geisio cael Scar i’r Unol Daleithiau. Er hynny, fe wnaeth y ddau weithio er mwyn y naill a’r llall, ac roedden nhw’n llwyddiannus. Fyddai taith Scar i’r Unol Daleithiau ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ffrindiau Peter a’r ymgyrch ar-lein. Roedd Peter Pero’n gallu dibynnu ar ei ffrindiau i’w helpu i gyflawni rhywbeth pwysig.

  4. Hyd yn oed mewn parth rhyfel, gyda gelynion anhysbys a pheryglon o’i gwmpas ym mhob man, roedd Peter Pero’n ddiogel gan fod  ganddo ffrind yr oedd yn gallu dibynnu arno. Roedd ganddo hefyd ffrindiau caredig a chefnogol gartref yn yr Unol Daleithiau.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y stori wir hon. Efallai eich bod yn gwybod am storïau eraill sy’n adrodd hanes ci sydd wedi peryglu ei fywyd ei hun er mwyn amddiffyn rhywun.

Rydych chi wedi gweld cwn sydd wedi cael eu hyfforddi’n benodol yn gweithio ar y stryd – fel llygaid i bobl sy’n rhannol ddall neu’n methu gweld o gwbl, fel clustiau i bobl sy’n rhannol fyddar neu’n methu clywed o gwbl, fel cwn sydd wedi ei hyfforddi i arogli a chanfod nwyddau wedi eu cuddio (sniffer dogs) mewn porthladdoedd neu feysydd awyr ac weithiau mewn canolfannau siopa. Fe fydd y bobl sy’n gweithio gyda chwn fel y rhain yn aml yn eu cadw fel anifeiliaid anwes wedyn ar ôl i’r cwn ymddeol.

Ydych chi’n ffrind ffyddlon, fel roedd Scar yn ffyddlon i Peter Pero?

Pwy fyddech chi’n eu hystyried yn ffrindiau ffyddlon yn eich grwp chi?

Am bwy rydych chi’n gorfod meddwl cyn cytuno â’u dymuniadau?

Roedd Scar yn ffyddlon i Peter Pero, waeth beth fyddai’n digwydd. Tybed faint o gysur a roddodd i’r milwyr hynny, mewn amgylchiadau anodd a pheryglus mor bell oddi cartref. Waeth beth fydd y sefyllfa, dydyn ni byth ar ben ein hunain os bydd gennym ni ffrindiau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Y gân ‘That’s what friends are for’, o’r ffilm The Jungle Book (Walt Disney Productions, 1967)

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon