Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y ffilm The Matrixverse

Archwilio’r syniad y gallai pob un ohonom fod yn byw mewn bydysawd rhithwir, ac annog meddwl chwilfrydig.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad y gallai pob un ohonom fod yn byw mewn bydysawd rhithwir, ac annog meddwl chwilfrydig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw hynny’n bosibl, trefnwch fod gennych chi’r offer priodol i ddangos y ffilm dri munud sydd i’w gweld ar: youtu.be/44cVoyMchq8
    Os nad yw’n bosib i chi ddangos y ffilm, mae’r sgript i’w gweld yn dilyn yma.
  • Chwiliwch am y gerddoriaeth ‘Also sprach Zarathrustra’ gan Richard Strauss, neu’r fersiwn a ddefnyddiwyd fel cerddoriaeth thema’r ffilm2001: A Space Odyssey (1968), a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Dangoswch y ffilm neu defnyddiwch y sgript sydd yma i egluro ac archwilio syniadau Dr Nick Bostrom ac eraill.

Sgript y Ffilm
Mae llawer o ddamcaniaethau am y bydysawd rydyn ni’n byw ynddo. Dyma un.

Yn y ffilm a gyhoeddwyd yn 1999, The Matrix, y syniad mawr oedd bod popeth yr oedd pobl yn ei deimlo oedd yn real, mewn gwirionedd yn ddynwarediad cyfrifiadurol, ac felly hefyd bawb a oedd yn byw yn y byd hwnnw.

Roedd y ffilm The Matrix yn llwyddiant enfawr, ac efallai nad oedd ei syniad canolog ymhell iawn o’r gwir ychwaith. Mae Dr Nick Bostrom, Cyfarwyddwr y Future of Humanity Institute ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi awgrymu y gallen ni i gyd fod yn byw mewn dynwarediad cyfrifiadurol.

Mae’r ddadl yn dilyn llwybr tebyg i’r canlynol.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn ni’n gallu creu bydoedd artiffisial matrixaidd lle mae pobl yn byw, ac yn gallu meddwl a theimlo, a bwyta, gan wneud hynny i gyd a chredu fod eu byd yn real. Mae hyn yn swnio’n debyg i’r hyn sy’n digwydd yn y ffilm The Matrix, ond yn y fersiwn hon fydd y bobl rithwir ddim yn gallu deffro a darganfod eu cyrff real am na fydd rhai.

Os yw hyn yn swnio’n rhy ryfeddol i fod yn wir, ystyriwch hyn: os oes gwareiddiadau estron eraill yn bodoli, fel mae sawl gwyddonydd yn credu, yna mae’n debyg y gallai’r rhai mwyaf datblygedig fod wedi dyfeisio cyfrifiaduron ers talwm ac wedi symud ymlaen i fydoedd rhithwir uwch; fe allai fod filoedd mwy o wareiddiadau tebyg, ac fe allai un o’r rheini fod wedi adeiladu bydysawd rhithwir. . .  ac fe allen ni fod yn byw yn hwnnw!

Felly, mae’r siawns yn uchel nad ydych chi yr un rydych chi’n meddwl ydych chi, ac nad yw’r byd yr un rydych chi’n meddwl ei fod.

Mae Nick Bostrom ei hun wedi dweud hyn, ‘My gut feeling, and it’s nothing more than that, is that there’s a 20 per cent chance we’re living in a computer simulation’, ond mae llawer o wyddonwyr ac athronwyr eraill yn meddwl ei fod yn llawer mwy tebygol o fod yn wir, tra mae eraill yn anwybyddu’r ddamcaniaeth yn gyfan gwbl.

Amser i feddwl

Mae’r rhain yn gwestiynau mawr am natur realaeth, yn sicr, ond efallai mai’r peth pwysicaf yw . . . beth ydych chi’n ei feddwl?

A yw’n bosib ein bod ni’n byw mewn byd rhithwir wedi ei greu gan uwch wareiddiadau datblygedig?

A yw’n bosib profi neu wrthbrofi’r ddamcaniaeth hon?

Ydych chi’n ystyried bod treulio amser yn meddwl am gwestiynau o’r fath yn rhywbeth gwerthfawr i’w wneud?

Beth yw eich syniadau craidd chi ynghylch natur realaeth?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

 ‘Also sprach Zarathrustra’ gan Richard Strauss, neu’r fersiwn a ddefnyddiwyd fel cerddoriaeth thema’r ffilm2001: A Space Odyssey (1968)

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon