Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut mae rhywun sydd ag afiechyd meddwl yn edrych?

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Herio’r rhagdybiaeth bod pobl sydd ag afiechyd meddwl yn beryglus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am luniau o Stephen Fry, Alastair Campbell a Catherine Zeta-Jones, a threfnwch fodd o arddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi darllenydd i ddarllen yr eitem newyddion, wedi ei hargraffu oddi ar wefan Mind, sydd i’w chael ar: www.mind.org.uk/news-campaigns/news/mind-and-time-to-change-update-on-conversations-with-asda-and-tesco/#.W-MeRfanyUk
  • Chwiliwch am y gân, ‘You’ve got a friend’ gan Carole King a James Taylor, a threfnwch fodd o chwarae hon ar ddiwedd y gwasanaeth.
  • Nodwch y bydd hi’n angenrheidiol i chi fod yn sensitif ynghylch unrhyw achosion a allai fod yn gysylltiedig ag aelodau cymuned yr ysgol, neu rywun sy’n perthyn iddyn nhw, a chadw’r pethau hyn mewn cof fel y gallwch chi addasu yn ôl yr angen wrth i chi arwain y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Beth sy’n gyffredin rhwng y bobl hyn? Stephen Fry, Alastair Campbell, Catherine Zeta-Jones.

    Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn dioddef rhyw fath o afiechyd meddwl. Wyddoch chi ddim, efallai bod yr un sy’n eistedd agosaf atoch chi heddiw wedi bod yn dioddef yn y gorffennol, yn dioddef ar hyn o bryd, neu fe allai yn hawdd ddioddef afiechyd meddwl rywbryd yn y dyfodol.

  2. Gall afiechyd meddwl fod ar sawl ffurf – iselder ysbryd, OCD, pryder, anhwylderau personoliaeth, sgitsoffrenia, anhwylderau bwyta.

  3. Beirniadwyd archfarchnadoedd fel Asda, Tesco a’r safle Rhyngrwyd Amazon yn y newyddion yn ddiweddar am arddangos ar werth wisgoedd ffansi ar gyfer Noson Calan Gaeaf a oedd yn ymwneud â phortreadu cleifion afiechyd meddwl. Rhoddodd cwmni Asda y gorau i werthu’r wisg ‘mental patient fancy dress costume’ ac wedyn fe beidiodd cwmni Tesco â gwerthu eu gwisg ‘psycho ward’. Mae’r eitem newyddion ganlynol, oddi ar wefan Mind, yn ymdrin ag atyniadau Noson Calan Gaeaf eraill na roddodd ystyriaeth lawn i’w cynnyrch.

  4. Ar y pwynt hwn, fe fydd y darllenydd yn darllen yr eitem newyddion fel y mae ar wefan Mind (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

  5. Yn y gorffennol, fe fyddai pobl oedd ag afiechyd meddwl yn cael eu cloi mewn ysbytai arbennig ac yn cael eu hystyried yn berygl i gymdeithas. Ond mae’r elusen Mind, a grwp o’r enw Time to Change, yn ymwneud ag ymgyrch i gael gwared â pheth o’r stigma hwnnw sy’n gysylltiedig â rhai sy’n dioddef o afiechyd meddwl. Ac fe fydd Mind, a wnaeth y gwyn yn erbyn y cwmnïau hyn gan haeru bod y gwisgoedd hynny yn tanio’r stigma hwnnw, yn derbyn rhodd o £25,000 gan gwmni Asda.

  6. Mae’n bwysig sylweddoli bod pobl weithiau’n brwydro gydag anawsterau nad yw’n bosibl eu gweld, ac fe allen nhw fod yn sâl mewn ffordd sydd ddim yn amlwg i bobl yn y byd o’u cwmpas.

    Mae deall bod rhai pobl yn dioddef o salwch meddwl yn bwysig. Ac mae’n bwysig hefyd eu helpu. Fe allwn ni wneud hyn trwy sylweddoli nad yw eu materion iechyd meddwl o angenrheidrwydd yn amlwg iawn, ond fe fyddan nhw angen i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw a dangos dealltwriaeth.

Amser i feddwl

Mae’r nifer o bobl sy’n dioddef salwch meddwl o ryw fath yn llawer uwch nag y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei sylweddoli, Fe fydd yma bobl, heddiw, sy’n cael eu heffeithio. Fe ddangosodd stori ddiweddar yn y gyfres Neighboursachos o anhwylder bwyta . . .

Treuliwch foment neu ddwy yn ystyried sut y gallech chi roi cefnogaeth i ffrindiau sydd dan straen neu sy’n dangos arwyddion eu bod yn teimlo’n isel eu hysbryd. Gall gair neu weithred garedig olygu llawer pan fyddwn ni’n profi adegau anodd, ac weithiau mae’n ein helpu i ddod trwy’r diwrnod mewn gwell hwyliau nag y byddech chi pe byddai pobl yn eich anwybyddu neu’n ddi-hidio yn eich cylch.

Os ydych chi’n pryderu am rywun, siaradwch ag ef neu hi am eich pryder. Mae clust i wrando bob amser yn beth da, ac mae’n bosib y byddwch chi’n gallu helpu’r unigolyn hwnnw wedyn i chwilio am help.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

You’ve got a friend’ gan Carole King a James Taylor

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon