Mae Duw'n golchi ein pechodau
gan the Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Dangos, pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriad, bod Duw’n gallu golchi ein pechodau a maddau i ni.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen potel o ïodin (ar gael o siopau fferyllydd).
- Hefyd, potel o hylif sefydlyn ffotograffiaeth (fixer) (fel Ilford Rapid fixer, ar gael o siopau ffotograffiaeth neu ar-lein)
- Hances wen, gotwm, blaen.
- Dwy ddysgl y mae’n bosib gweld trwyddyn nhw –un yn cynnwys dwr glân a’r llall yn cynnwys dwr â rhywfaint o’r sefydlyn wedi ei gymysgu iddo – a bwrdd i ddal y ddwy ddysgl.
- Nodwch y bydd angen i chi ymarfer y camau a nodir isod er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod sut i wneud y rhan ymarferol-wyddonol!
- Gofynnwch i aelod o’r staff gymryd gofal o’r hances i chi cyn y gwasanaeth, a’i rhoi i chi yn ystod y gwasanaeth, pan fyddwch chi’n gofyn amdani, gan smalio mai ei hances ef neu hi yw hi.
Gwasanaeth
- Rhowch y ddwy ddysgl, wedi eu llenwi yn ôl y cyfarwyddiadau uchod, ar y bwrdd yn y tu blaen cyn i’r gwasanaeth ddechrau.
- Dechreuwch y gwasanaeth trwy egluro eich bod wedi anghofio eich hances, a gofynnwch allwch chi gael benthyg un gan rywun. Fe fydd yr aelod o staff sydd wedi cytuno i’ch helpu’n gallu cynnig ‘ei hances’ i chi!
- Soniwch wrth eich cynulleidfa mor wyn a glân yw’r hances, ac yna smaliwch disian yn swnllyd iddi a chwythu eich trwyn ynddi os hoffech chi, er mwyn creu argraff ychwanegol!
- Yna, eglurwch fod Duw’n ein caru ni gymaint fel ei fod yn maddau i ni pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau os byddwn ni’n dweud ei bod hi’n ddrwg gennym ni. Dywedwch fod yr hances yn debyg i ni rywsut - rydyn ni eisiau bod yn lân ac yn berffaith, ond fe fyddwn ni weithiau’n gwneud camgymeriadau.
Cymrwch y botel ïodin a thasgu ychydig ar yr hances. Ymddiheurwch i’r aelod o staff sydd wedi rhoi ei benthyg i chi. Ond dywedwch ar yr un pryd y bydd popeth yn iawn, oherwydd mae Duw’n gallu cael gwared â’n camgymeriadau. Weithiau fe fyddwn ni’n dweud bod Duw’n gallu ‘golchi ein pechodau’.
Rhowch yr hances yn y ddysgl sydd â dwr yn unig ynddi. Fe fydd hyn yn gwneud i’r marciau ïodin droi’n ddu, ac yn troi lliw’r dwr hefyd.
Smaliwch eich bod yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad mawr. Yna, dywedwch. ‘Wel, mewn gwirionedd, mae hyn yn debyg mewn ffordd i rywbeth all ddigwydd yn ein bywyd bob dydd. Pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriad, yn aml fe fyddwn ni’n gwneud pethau’n waeth. Mae rhai pobl yn credu y gallan nhw olchi eu problemau heb ddweud wrth Dduw ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw. Ond mae Cristnogion yn credu pan fydd hi’n wir ddrwg gennym ni, ac rydyn ni’n troi at Dduw, fe all Duw olchi unrhyw beth yn lân.’ - Cymrwch yr hances unwaith eto, a’i rhoi y tro hwn yn y ddysgl sy’n cynnwys y dwr a’r sefydlyn ffotograffiaeth ynddi. Fe fydd yr hances yn troi’n wyn eto. Am effaith ychwanegol, ac os na wnaethoch ddefnyddio gormod o ddwr, fe allech chi ychwanegu’r dwr tywyll o’r ddysgl arall at yr hylif yn y ddysgl hon, ac fe ddylai hwnnw droi’n glir hefyd.
Dywedwch eto, pan fyddwn ni wedi gwneud camgymeriad, a ninnau’n edifarhau am hynny, fe fydd Duw’n golchi’r camgymeriadau ac yn rhoi cyfle i ni ddechrau eto o’r newydd.
Gan barhau â’r cast, ymddiheurwch eto i’r aelod o staff a roddodd ‘fenthyg yr hances i chi, a dywedwch y byddwch yn ei golchi ac yn ei rhoi’n ôl iddo ef neu hi’n ddiweddarach!
Amser i feddwl
Anogwch bawb i eistedd a meddwl am foment. Ceisiwch feddwl ydych chi wedi dweud neu wneud rhywbeth rydych chi’n difaru ei ddweud neu ei wneud. Gofynnwch yn eich calon i Dduw faddau i chi. Dychmygwch eich bod fel yr hances, wedi eich gorchuddio â smotiau budr, ond yna fe fyddwch chi’n lân eto wedyn, ac yn rhydd i fyw eilwaith yng nghariad Duw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Yn dy gariad, rwyt ti wedi ein galw ni i ddod i dy adnabod di, wedi ein harwain ni i ymddiried ynot ti ac wedi clymu ein bywyd gyda thi.
Maddau i ni am ein camgymeriadau, a gad i ni fod yn rhydd i fyw yn dy gariad di.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.