Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gallaf weld yn glir yn awr

Yr Ystwyll (6 Ionawr)

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio pa mor agored yw’r myfyrwyr i fomentau o ddatguddiad a rhyfeddod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dylech gael wrth law ddelwedd o fwlb trydan wedi ei oleuo (neu fwlb iawn) i'w ddangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Chwiliwch am y gân ‘I can see clearly now’ gan Johnny Nash a gwnewch yn siwr bod gennych yr offer priodol i'w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y bwlb iawn neu’r ddelwedd o'r bwlb.

    A fyddwch chi, ar rai adegau, yn cael momentau bwlb-golau?

    Rwy'n ymwybodol ohonyn nhw sawl gwaith bob diwrnod. Dyna pryd y bydd y geiniog yn disgyn, pan fydd popeth yn dod i fwcl, a dealltwriaeth yn amlwg. Gall ddigwydd wrth ddatrys hafaliad mathemategol, wrth fynd trwy ymarfer gymnasteg, wrth geisio dyfalu beth mae'r ddelwedd mewn cerdd yn ei olygu, neu wrth gyfieithu brawddeg o un iaith i iaith arall.

    Gall ddigwydd hefyd mewn perthynas, pan fydd un person yn gwerthfawrogi rhywbeth am berson arall am y tro cyntaf neu pan fydd anghytundebau yn cael eu datrys.

  2. Ar 6 Ionawr bydd yr eglwys Gristnogol yn dathlu Gwyl yr Ystwyll. Mae'r gair Saesneg ‘epiphany’ (datguddiad) yn golygu moment bwlb-golau, mewn difrif.

  3. Ar ôl mwynhau stori'r Nadolig am Dduw yn anfon Iesu i gael ei eni fel bod dynol, sef person fel chi a fi, yr Ystwyll yw'r diwrnod i fod yn ymwybodol o'r cyfan a wnaeth Duw yn y weithred honno. Trwy ddefnyddio stori'r Sêr-ddewiniaid - y doethion a ddaeth i weld Iesu - bydd Cristnogion yn atgoffa ei gilydd o'r symbolaeth sydd ynghlwm wrth anrhegion y doethion: aur, thus a myrr.

    Arwyddocâd yr Aur yw bod Iesu'n dod fel person nerthol, brenin, a llywodraethwr.

    Mae'r Thus yn arwydd bod Iesu'n dod fel dyn sanctaidd, rhywun sy'n hollol bur, sydd â dim drwg yn perthyn iddo neu’n rhan ohono.

    Mae'r Myrr yn arwydd bod Iesu, rhyw ddydd, yn mynd i brofi marwolaeth arwyddocaol.

  4. Ar yr Ystwyll, bydd Cristnogion yn ceisio deall eto'r holl beth ynghylch pwy yw Iesu.  Maen nhw eisiau sicrhau bod y geiniog wedi disgyn, bod yr holl ddarnau eu ffydd wedi disgyn i'w lle, a'u bod yn deall yn bersonol beth yw perthynas Iesu â nhw.

Amser i feddwl

Yn fy mhrofiad i, mae datguddiadau, neu fomentau bwlb-golau, yn dod ataf yn ddiarwybod. Fe allwn i fod wedi bod yn ddryslyd am rywbeth ers oriau, cyn i'r ateb ddod yn olau i mi mewn breuddwyd, neu fod rhywbeth y mae rhywun yn ei ddweud yn sbardun i gadwyn o feddyliau yn fy mhen sydd yn golygu moment o ddatguddiad. Mae'r cyfan yn gwneud synnwyr. Fedra' i ddim dewis y foment pan fydd hynny’n digwydd, ond rwy'n gallu creu'r amgylchfyd priodol i'w annog i ddigwydd.

I mi, mae datguddiadau o’r fath yn llai tebygol o ddigwydd pan fyddaf dan straen, pan fyddaf yn ymlafnio wrth geisio cael hyd i’r ateb i rywbeth, pan na allaf ganolbwyntio ar ddim byd arall. Weithiau, mae hynny'n golygu fod angen i mi ddod o hyd i heddwch a thawelwch, efallai trwy fynd am dro neu ddarllen llyfr. Yn achos rhai pobl, does unrhyw beth yn well na chael cawod neu orwedd mewn bath cynnes i ymlacio. Ar adegau eraill mae’n well gen i roi fy meddwl yn gyfan gwbl ar rywbeth hollol wahanol i'r mater dan sylw, efallai'n gwneud pos Sudoku neu edrych ar fy hoff raglen deledu. Yna, allan o unman, daw datguddiad.

Efallai y bydd un o'r tactegau rwyf wedi eu disgrifio yn gweithio i chi, hefyd. Ond fe all fod eraill ar gael. Gall yn hawdd fod yn achos o symud ymlaen at y cwestiwn nesaf mewn prawf a dod yn ôl yn ddiweddarach at yr hyn sydd wedi bod yn peri dryswch i chi. Efallai bod cerddoriaeth yn gallu creu ei hudoliaeth, neu'n syml bod cau eich llygaid a chlirio'ch meddwl mewn myfyrdod am funud neu ddwy.

Mae'r Wyl Gristnogol, yr Ystwyll, yn canolbwyntio'n neilltuol ar ddatguddiad. Caiff ei gweld fel cyfle i'n hatgoffa am bwy oedd, a phwy yw, Iesu. Gall ddechrau â chred a syniadau, ond fe ddaw'r datguddiad wrth i ni sylweddoli fod gan y person hwn rywbeth i'w wneud â ni'n bersonol.  Mae'n adeg i gysylltu'r cymeriad hanesyddol hwn â'r hyn sy’n digwydd yma, nawr.

Efallai yn ystod yr Ystwyll hwn y gallwn ni i gyd dreulio ychydig fomentau yn defnyddio rhai o'r technegau yr wyf wedi eu hawgrymu, gan ganolbwyntio ar yr aur, y thus a’r myrr, pe bai dim ond i weld a fyddwn yn sylweddoli rhywbeth newydd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fomentau o ddatguddiad, pan fydd pethau'n dechrau gwneud synnwyr.
Diolch i ti am y rhodd o Iesu, sy'n gallu peri syndod i ni gyda'i ddatguddiadau.
Boed i ni ddatblygu ymwybyddiaeth at syniadau newydd a chyffrous.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

I can see clearly now’ gan Johnny Nash

Dyddiad cyhoeddi Ionawr 2014

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon