Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae'n gwella trwy'r amser

Esblygiad personol

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio synnwyr y myfyrwyr o’u potensial personol eu hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddau ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Getting better’ gan y Beatles a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Dyma gwestiwn cryptig i chi. Beth sydd a wnelo dyn gyda choesau byr, tew, blewog i’w wneud ag enw cwmni sydd wedi ei sillafu’n anghywir?

    Saib.

    Gadewch i ni ddechrau gydag enw’r cwmni. Mae’n enw rydych chi i gyd yn gyfarwydd ag ef, yn siwr - enw cwmni ffonau symudol. Rwy’n sôn am Vodafone.

    Pan lansiwyd y cwmni gyntaf, fe fu’n rhaid i’r gurus hysbysebu, Saatchi and Saatchi, frwydro ynghylch cael sillafu’r enw Vodafone gyda ‘f’ yn hytrach na gyda ‘ph’. Roedden nhw’n rhagweld, yn union fel y digwyddodd pethau, y byddai’r camsillafiad yn rhoi hunaniaeth wreiddiol a fyddai’n cael ei adnabod ar unwaith i’r cwmni. Ildiodd cyfarwyddwyr y cwmni ac fe ffurfiwyd y brand.

    Y dyn gyda’r coesau byr, tew a blewog oedd y comedïwr, Ernie Wise. Efallai i chi weld ail ddarllediadau o sioeau Morecambe and Wise yn ddiweddar - fe fyddan nhw’n cael eu dangos yn aml o gwmpas adeg y Nadolig - ond beth yw’r cysylltiad â Vodafone?

  2. Darllenydd 1Ar 1 Ionawr 1985, fe wnaeth Ernie Wise yr alwad ffôn symudol gyntaf yn y D.U. Roedd yn St Katherine’s Dock yn Llundain, ac fe alwodd bencadlys Vodafone, a oedd wedi ei leoli uwchben ty cyrri yn Newbury yn Berkshire. Yn anffodus, does dim cofnod o beth yn union ddywedodd Ernie Wise. Efallai iddo archebu chicken biryani gyda bara naan peshwari o’r ty bwyta lawr llawr!

  3. Darllenydd 2 Roedd y ffôn symudol a lansiwyd gan Vodafone yn costio tua £2000 ac yn pwyso 5 kilo. Roedd bag ysgwydd o faint sylweddol i’w gael gyda’r ffôn i’w chario. Dim ond am 20 munud yr oedd y batri’n para. A dim ond o fewn yr ardal ddaearyddol yr oedd y rhwydwaith yn ei gyrraedd yr oedd hi’n bosib gwneud galwadau. Roedd sawl man gwan i’r ddyfais.

  4. Arweinydd  Dydi hyn ddim yn swnio fel dechreuad addawol iawn, yn wir! Beth allai potensial teclyn mor afrosgo â hwn fod? Fe wyr pob un ohonom yr ateb i’r cwestiwn hwnnw. Go brin fod llawer yn bresennol yn y gwasanaeth hwn heddiw sydd heb fod yn berchen ar ffôn symudol. Mae’n declyn hanfodol gan bobl o bob oed erbyn hyn. Yn ystod y 29 mlynedd ers y foment gyntaf honno o gyfathrebu, mae’r ffôn symudol wedi datblygu’n declyn cyfathrebu cymhleth a soffistigedig iawn.

    Darllenydd 1 Yn gyntaf, fe gawson ni’r gwasanaeth negeseuon byr a negeseuon testun, - SMS a tecstio.

    Darllenydd 2  Yna, fe gawson ni’r ffonau clyfar aml swyddogaeth - multifunction smartphone, yr oedd yn bosib gwneud llawer mwy gyda nhw na dim ond galw a derbyn galwadau.

    Darllenydd 1  Daeth y ffonau camera ar y farchnad wedyn.

    Darllenydd 2  Ac yna, fe ddatblygwyd y sgriniau cyffwrdd - touchscreens.

    Darllenydd 1  Ymestynnodd y dyfeisiadau GPS (Global Positioning System) i ymestyn y potensial hyd yn oed ymhellach.

    Darllenydd 2  A pheidiwch â sôn, mae cynigion am ffonau symudol i gwn hyd yn oed!

    Arweinydd  Wn i ddim sut bydd y datblygiad olaf yna’n gweithio! Beth  bynnag, mae’r defnydd potensial ar gyfer ffonau symudol yn ddiderfyn o hyd. Ac yn rhyfedd iawn fel mae eu gallu’n tyfu mae’r ffonau’n mynd yn ysgafnach ac yn ysgafnach, ac yn llai a llai.

Amser i feddwl

Arweinydd  Pan lansiwyd y ffonau symudol cyntaf, roedden nhw’n ymddangos fel pe byddai eu potensial yn ddigon cyfyngedig. Roedden nhw’n declynnau drud, trwm, a dim ond mewn rhai mannau neilltuol yr oedd yn bosib eu defnyddio. Roedden nhw’n ymddangos fel teclynnau a allai fod yn ddefnyddiol i bobl busnes yn unig, ac yn annhebygol o fod o fudd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Saib.

Beth ydych chi’n feddwl yw eich potensial chi? Wrth edrych arnoch chi eich hun ar hyn o bryd, beth ydych chi’n ei feddwl allech chi fod?

Efallai eich bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau - efallai eich bod yn meddwl eich bod yn rhy fach, ddim yn ddigon golygus, ddim yn ddigon anturus, ddim yn dda iawn am wneud mathemateg, neu am ddysgu ieithoedd, ddim yn hoffi siarad yn gyhoeddus, ddim yn gallu bod yn ddigon pendant, neu ddim yn ddigon cyfoethog, i gyflawni eich breuddwydion.

Ar y naill law mae stori’r ffôn symudol yn ein hannog i gredu y gallai fod gennym botensial i wneud rhywbeth gwych hyd yn oed os yw hynny’n ymddangos yn annhebyg ar hyn o bryd. Does wybod pa sgiliau ac agweddau ar ein nodweddion personoliaeth y byddwn ni’n eu darganfod ynom ein hunain.

Saib.

Ond ar y llaw arall, mae agweddau eraill ar ddatblygiad y ffonau symudol - gwaetha’r modd. Maen nhw’n ganolog, yn anffodus, i lawer o’r trafferthion rydyn ni’n eu canfod yn ein hysgolion sy’n ymwneud â bwlio. Ac fe allan nhw roi mynediad i bobl i wefannau amhriodol. Fe allan nhw roi lle i gyd berthnasoedd sy’n annerbyniol. Ac mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru car wedi achosi sawl damwain ddifrifol iawn. Fe allan nhw fynd â’n sylw ni pryd y dylai ein sylw ni fod ar rywbeth arall - pa un ai mewn gwers neu wrth siarad â ffrindiau, neu wrth i rieni geisio siarad â’u plant. Mae potensial i fod yn niweidiol yn perthyn i ffonau symudol.

Beth am eich potensial chi?

Ym mhob un ohonom, mae potensial i wneud drwg yn ogystal ag i wneud da. Mae agweddau ar ein cymeriad a allai beri i ni geisio dominyddu, i enllibio, i dwyllo, i osgoi, i ddwyn, i danseilio ac i ddifetha.

Gan ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, does dim dal pa sgiliau neu agweddau ar ein personoliaeth y gallen ni eu canfod ynom ni ein hunain. Ydyn ni’n llawn potensial. Pa fath o botensial rydyn ni’n mynd i’w annog?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y potensial enfawr sydd ym mhob un ohonom.
Rho i ni’r sensitifrwydd i ganfod yr hyn a fydd yn gadarnhaol yn ein hachos ni ein hunain a’r rhai rydyn ni’n ymwneud â nhw.
Rho i ni’r dewrder i wrthod y potensial sydd ynom i wneud drwg a niweidio.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

 ‘Getting better’ gan y Beatles

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon