Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwerthfawrogi

gan H. Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Symud y ffocws fel ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn sydd gennym ni yn hytrach nac ar yr hyn sydd ddim gennym ni.

Paratoad a Deunyddiau

Dewiswch gerddoriaeth dawel, lyfn, a threfnwch fodd o’i chwarae yn ystod yr adran ‘Amser i feddwl’ tua diwedd y gwasanaeth er mwyn helpu’r myfyrwyr feddwl am y pethau sydd ganddyn nhw i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Tybed sawl gwaith y diwrnod rydych chi’n edrych ar Facebook . . . Twitter . . . Vine . . . Snapchat . . . Tumblr neu Instagram?

    Os oes ffôn clyfar gennych chi, efallai eich bod yn debygol o edrych arni o leiaf unwaith bob awr, neu unwaith bob deg munud. Neu’n amlach, efallai?

    Ydych chi wedi aros i feddwl pam rydych chi’n edrych ar eich ffôn. Er mwyn gweld a yw rhywun yn dal i fod yn ffrind i chi? Fe fyddwn i’n tybio eich bod yn edrych arni er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd ym mywydau pobl eraill.

  2. Nawr, gofynnwch i chi eich hunan, pam rydych chi eisiau gwybod beth sy’n digwydd ym mywydau pobl eraill. Ydych chi o ddifri â diddordeb, neu ydych chi mewn gwirionedd ychydig bach yn genfigennus?

    Ydyn nhw’n ymddangos fel pe byddai ganddyn nhw ddilladau mwy ffasiynol na chi, neu’n fwy deniadol na chi, yn byw mewn ty mwy, yn cael mwy o hwyl na chi, yn cael mwy o ryddid na chi . . . ?

  3. Ydych chi erioed wedi ystyried y gallai’r holl gyfryngau cymdeithasol eich gwneud chi’n anniolchgar am y pethau sydd gennych chi? Neu wneud i chi feddwl bod bywydau pawb arall gymaint yn well na’ch bywyd chi?

    Mae’r teimlad hwn o eiddigedd a chenfigen yn gallu bod yn beth digon cyffredin. Mae pobl yn dweud wrthyf, wrth i chi fynd yn hyn mae Facebook a safleoedd eraill tebyg fel petai nhw’n amlygu’r hyn sydd ddim gennych chi. Fe fydd pobl yn aml yn dangos lluniau o bethau fel dydd eu priodas, eu babanod bach newydd-anedig, eu plant yn chwarae yn y parc, ac ati. Mae’n ffordd wych o roi gwybod i’r rhai sydd o’ch cwmpas am y digwyddiadau hapus hyn, ond mae hefyd yn dangos yn amlwg iawn i rai pobl y pethau hynny sydd ddim ganddyn nhw. Yn achos y bobl rheini sydd o ddifi’n dymuno cael y pethau hynny - ond yn methu - fe allai gweld hyn wneud iddyn nhw deimlo’n annigonol ac yn isel eu hysbryd. Cofiwch, roedd hyn yn digwydd i bobl cyn dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol hyn hefyd, ac nid yw’n ffenomen newydd. Ond gyda’r mynediad i’r cyfryngau hyn mor rhwydd ag edrych ar oriawr, mae’n digwydd yn syndod o reolaidd erbyn hyn.

  4. Nawr, ystyriwch yr hyn y byddwch chi’n ei ysgrifennu ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol. A yw’r hyn y byddwch chi’n ei ysgrifennu’n adlewyrchiad gwir ohonoch chi eich hun, neu ddim ond yn cyfeirio at y pethau gwych, yr hyn rydych chi eisiau i bobl eraill ei weld - yr hyn rydych chi eisiau iddyn nhw wybod amdanoch chi yn hytrach na sut mae pethau o ddifri? Wrth i chi wneud hyn, ydych chi’n treulio amser yn teimlo’n eiddigeddus o bobl eraill yn hytrach na bod yn werthfawrogol o’r hyn sydd gennych chi? Pa mor ofalus ydych chi wrth ddewis eich delweddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol? Pa mor ofalus y byddwch chi’n golygu’r pethau rydych chi’n eu dangos?

  5. Fe hoffwn i chi nawr feddwl am rywbeth rydych chi’n ddiolchgar amdano.

    Derbyniwch rai awgrymiadau gan y myfyrwyr.

    Fe fyddwn i’n tybio bod llawer o’r pethau hyn yn bethau materol – rydych chi’n ddiolchgar am eich cartrefi ac ati. Tybed oes unrhyw un ohonoch chi wedi ystyried y dylech chi fod yn ddiolchgar eich bod yn gallu clywed fy llais i, neu lais rhywun arall; yn ddiolchgar eich bod yn gallu gweld eich llaw o’ch blaen; yn ddiolchgar eich bod wedi deffro bore heddiw’n ddiogel yn eich gwely; yn ddiolchgar nad oes poen dannodd gennych chi; yn ddiolchgar am eich teulu ac am y cyfle sydd gennych chi i ddod i’r ysgol heddiw. Mae mor hawdd edrych ar yr hyn sydd ddim gennym ni, a bod yn eiddigeddus o eraill gan gymharu ein bywyd ni â’u bywyd nhw.

  6. Yn y grefydd Bwdhaeth, y math hwn o anfodlonrwydd yw’r gwirionedd a sylweddolodd y Bwdha, ac fe wnaeth y sylweddoliad hwn ei helpu ar ei ffordd i oleuedigaeth. Fe ddeallodd yn llawn bod y ffordd yr ydyn ni’n bod fel bodau dynol yn golygu y byddwn ni bob amser eisiau’r pethau rydyn ni’n methu eu cael, ac y byddwn ni’n parhau i ddeisyfu mwy a mwy o bethau, a phethau gwell.

    Y ffordd i ddod allan o hyn yw trwy fyfyrio a deall pa mor amharol yw pethau – dydyn nhw ddim yn parhau. Ffordd arall, haws efallai, yw edrych ar yr hyn sydd gennym, a bod yn ddiolchgar am y pethau hynny. Hyd yn oed er y gallai rhywun arall fod yn fwy poblogaidd, yn fwy ffasiynol a deniadol, yn byw mewn ty mwy – gall y rhestr fod yn ddiddiwedd – yr hyn sydd gennym ni yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’r rhai ydyn ni, sef rhywun unigryw ac arbennig. Ac mae hynny ynddo’i hun yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano.

Amser i feddwl

Chwaraewch y gerddoriaeth lyfn, dawel, rydych chi wedi ei dewis, a threuliwch gyfnod byr o ddistawrwydd rhwng pob un o’r datganiadau canlynol.

Meddyliwch eto am yr hyn sydd gennych chi i fod yn ddiolchgar amdano.

Gwerthfawrogwch y pethau hyn.

Gwnewch yn fawr o’r pethau hyn a byddwch yn ddiolchgar amdanyn nhw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr holl bethau sydd gen i. Gad i mi ddysgu bod yn ddiolchgar am y pethau hyn, eu gwerthfawrogi, a’u gweld fel y pethau arbennig ydyn nhw o ddifri.
Helpa fi pan fyddaf yn cael momentau o eiddigedd neu genfigen, i anwybyddu’r momentau hynny a bod yn ddiolchgar am yr holl bethau ardderchog sydd gen i.  
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Cerddoriaeth dawel o’ch dewis

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon