Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae pobl Japan yn dathlu'r gwanwyn ym mis Chwefror

Meddwl am wahanol draddodiadau ynglyn â chroesawu’r gwanwyn.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am wahanol draddodiadau ynglyn â chroesawu’r gwanwyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelweddau o wyliau dathlu’r gwanwyn yn Japan.
  • Nodwch, wrth i chi ddarllen y geiriau Japaneaidd sy’n dilyn yng Ngham 2, nad oes pwyslais ar unrhyw sill neilltuol, felly rhowch gynnig ar ynganu’r geiriau.
  • Chwiliwch am y gerddoriaeth ‘The lark ascending’ gan Vaughan Williams neu’r ‘Gwanwyn’ o gerddoriaeth y Pedwar Tymor gan Vivaldi, a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth rydych chi wedi ei dewis yn y gwasanaeth (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Yn y wlad hon rydyn ni’n dathlu dechrau’r gwanwyn ar 21 Mawrth, ond nid yw pob gwlad yn dathlu’r un pryd. Yn Japan, yn ôl eu calendr lleuad yn y wlad honno, mae’r gwanwyn yn dechrau ar 3 neu 4 Chwefror bob blwyddyn.

  2. Mae ‘r dyddiad hwnnw’n cael ei ystyried fel cyfle i anfon allan ddrygioni’r flwyddyn flaenorol, a dechrau blwyddyn arall o’r newydd. Erlidir yr ysbrydion drwg i ffwrdd trwy daflu ffa soia o gwmpas y ty neu o gwmpas y temlau a’r allorau, gan siantio’r geiriau Japaneaidd, ‘Oni wa soto! Fuku wa uchi!’ Ystyr y geiriau yw, ‘Diafoliaid allan! Hapusrwydd i mewn!’ Ambell dro fe fydd aelod o’r teulu’n gwisgo mwgwd diafol a phawb yn taflu ffa soia ato ef neu hi.

  3. Yn y gorffennol, roedd yn arferiad gosod pen pysgod sardîn wrth ddrws y ty, gan y tybiai’r bobl y byddai’r arogl yn gyrru’r ysbrydion drwg i ffwrdd. Heddiw, mae rhai pobl yn defnyddio addurn ar ffurf pen pysgodyn, wedi ei wneud o bapur neu ddefnydd arall yn lle’r pen pysgodyn go iawn. Gwerthir ffa soia rhost a mygydau yn yr archfarchnadoedd a’r siopau ledled Japan. A bydd llawer o bobl Japan yn ymweld â’r temlau a’r allorau i nodi’r achlysur.

  4. Mae’r awydd i gadw ysbrydion drwg o’r cartrefi’n berthynol i’r gwahaniaeth a bwysleisir yn gyffredin yn Japan rhwng y cartref a’r tu allan. Bydd pobl Japan bob amser yn tynnu eu hesgidiau wrth fynd i mewn i dy rhywun, er mwyn cadw glanweithdra’r ty. Fe  ydan nhw hefyd yn mynd i’r gawod cyn mynd i’r bath, er mwyn glanhau eu hunain cyn cymryd bath.

  5. Mae defodau o’r fath ynghylch glanhau a chreu purdeb yn gyffredin ledled y byd. Mae sawl gwareiddiad yn cynnal yr arfer o lanhau gwanwynol (Spring cleaning) er y gallai’r gwanwyn fod yn ystod ein hydref ni yn unol â pha hemisffer rydych chi’n digwydd bod ynddo ar y pryd!

  6. Caiff Cristnogion eu bedyddio i olchi ymaith eu pechodau blaenorol, ac mae llawer o Gristnogion yn cyffesu eu pechodau er mwyn glanhau eu heneidiau a derbyn maddeuant. Rhaid i Fwslimiaid ymolchi cyn gweddïo. Mae’r awydd i lanhau'r mannau rydyn ni ynddyn nhw, a glanhau ein cyrff, yn angen cyffredin ymysg bodau dynol, ond mae’r ffordd rydyn ni’n cynrychioli’r gweithredoedd hyn yn ein crefydd yn dangos amrywiaeth y gwahanol ddiwylliannau.

Amser i feddwl

Fe allai gweiddi ar ddiafoliaid a thaflu ffa soia atyn nhw ymddangos, i ni, yn rhywbeth rhyfedd i’w wneud. Ond treuliwch foment neu ddwy nawr yn meddwl am ba mor od y gallai rhai arferion Gorllewinol ymddangos i bobl o’r Dwyrain.

Tybed oes rhai arferion y byddwch chi’n cadw atyn nhw? Gall rhywbeth fel golchi dwylo, sydd wrth gwrs yn rhywbeth angenrheidiol mewn llawer achos, ddod yn fath o obsesiwn  . . .  allech chi feddwl am yr obsesiynau hyn fel diafoliaid, efallai, i’w hanfon allan trwy ‘weiddi’ arnyn nhw, yn eich meddwl?

Ambell dro, mae’n anodd i ni feddwl am y gwanwyn ym mis Chwefror, pan fydd hi’n dywyll a’r tywydd yn oer a gaeafol. Gall rhai arferion fynd yn ormesol hefyd, fel y tywydd ym mis Chwefror, os gwnawn ni adael iddyn nhw fod felly.

Treuliwch foment neu ddwy yn mwynhau meddwl am arwyddion y gwanwyn sydd eisoes yn dechrau dod i’r golwg o’n cwmpas  - egin bylbiau’n dechrau  gwthio trwy’r pridd, y blodau cynharaf yn dechrau agor - a meddyliwch gymaint gwell y byddai eich bywyd pe byddech chi ddim yn gwneud yr arferion bach od rheini y byddwch chi efallai’n eu gwneud, ac yn gallu eu halltudio fel y mae’r Japaneaid yn ei wneud gyda’r ysbrydion drwg.

Rydyn ni i gyd wrth ein bodd gydag addewid y gwanwyn. Gadewch i ni fwynhau gwrando ar ychydig o gerddoriaeth gyda’n gilydd a fydd yn ein rhoi mewn hwyliau gwanwynol.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

The lark ascending’ gan Vaughan Williams neu ‘Spring’ o gerddoriaeth y Pedwar tymor gan Vivaldi

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon