Dyfalbarhau
Peidiwch â rhoi’r gorau iddi
gan Philippa Rae
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dangos os gwnawn ni ddal i fynd mae’n bosib y cyrhaeddwn ni yn y diwedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch luniau o J.K. Rowling a Daniel Radcliffe fel y cymeriad Harry Potter, Stephenie Meyer, awdur y gyfres Twilight, Charles Schulz, awdur y stribed comic Peanuts gyda Snoopy a’i ffrindiau, logo’r cwmni Kentucky Fried Chicken yn dangos llun Colonel Sanders, Steven Spielberg, Walt Disney, Richard Branson, Samuel Goldwyn, y cynhyrchydd ffilmiau, ac Albert Einstein - a threfnwch fodd o arddangos y rhain yn eu tro yn ystod y gwasanaeth. Efallai yr hoffech chi hefyd ychwanegu lluniau o bobl eraill sydd wedi dyfalbarhau yn eu meysydd, fel athletwyr Olympaidd. Casglwch ynghyd wrthrychau fyddai’n cyfateb i bob un o’r bobl enwog hyn, fel un o lyfrau Harry Potter, deunydd pecynnu Kentucky Fried Chicken, tegan bach Snoopy, posteri neu hysbysebion am y ffilmiau, ac ati.
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen paratoi darllenydd ar gyfer darllen y gerdd yng Ngham 3.
- Chwiliwch am y gerddoriaeth ‘Search for the hero’ gan M People, a threfnwch fodd o chwarae’r recordiad ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Mesur pwysig o lwyddiant yw faint o weithiau mae rhywun yn dal ati er gwaetha’r ffaith eu bod yn cael eu gwrthod. Mae dysgu byw gyda methiant yn helpu i adeiladu cymeriad.
Dangoswch y ddelwedd o J.K. Rowling a Daniel Radcliffe fel Harry Potter a/ neu daliwch i fyny un o’r llyfrau o gyfres Harry Potter.
Rwy’n siwr nad oes raid egluro pwy yw’r cymeriad hwn, na dweud pwy a’i creodd. Rydyn ni i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw ac yn gwybod ffenomen mor llwyddiannus a byd-eang yw’r storïau. Y prif gymeriad yma, wrth gwrs, yw Harry Potter, wedi ei greu gan yr awdur J.K. Rowling.
Mae llawer o bobl yn gwybod y stori sydd y tu ôl i greu llyfrau Harry Potter - sef bod J.K. Rowling wedi cymryd chwe blynedd i ysgrifennu’r llyfr cyntaf ac fe’i hysgogwyd i orffen y gwaith er mwyn gallu ennill arian, am ei bod hi’n ei chael hi’n anodd fel mam sengl i ddod i ben â thalu ei biliau. Fe ysgrifennodd hi rai penodau mewn caffi yng Nghaeredin pan oedd ei merch fach yn cysgu, gan wneud i’r baned o de bara mor hir â phosib. Cafodd ei gwrthod gan sawl cyhoeddwr ac yna, hyd yn oed ar ôl iddi gael cynnig telerau cyhoeddi, fe awgrymwyd iddi y dylai chwilio am waith dyddiol gan nad oedd ysgrifennu llyfrau plant yn talu!
Nid hi yw’r unig un i gael y profiad hwnnw. Mae rhestr hir o enwau awduron sydd wedi wynebu cael eu gwrthod dro ar ôl tro. Er enghraifft, Stephenie Meyer, yr un a greodd y gyfres Twilight, a Charles Schulz, a luniodd y stribed comic Peanuts gyda Snoopy a’i ffrindiau.
Dangoswch y ddelwedd o Stephenie Meyer ac o Charles Schulz.
- Nid dim ond awduron sydd wedi wynebu methiant ac wedi dal ati. Gadewch i mi sôn am rai pobl eraill . . .
Dangoswch y ddelwedd o logo’r cwmni Kentucky Fried Chicken, gyda Colonel Sanders a/ neu ddangos eitemau o ddeunyddiau pecynnu’r cwmni.
Rwy’n siwr eich bod yn adnabod yr wyneb hwn, rydych chi’n ei weld ar brif stryd llawer o’n trefi ledled y wlad. Colonel Sanders oedd yr entrepreneur y tu ôl i lwyddiant byd-eang y gadwyn Kentucky Fried Chicken. Fe ddechreuodd ei freuddwyd pan oedd yn 65 oed! Fe gafodd siec nawdd cymdeithasol am ddim ond $105 pan rwystrodd ffordd newydd gwsmeriaid rhag dod at ei orsaf betrol a’r caffi oedd ganddo. Roedd yn teimlo’n ddig iawn, ond yn hytrach na chwyno fe feddyliodd am rywbeth y gallai ei wneud yn wyneb y broblem hon.
Fe feddyliodd y byddai perchnogion bwytai’n hoffi ei resipi ar gyfer darnau cyw iâr wedi’u ffrio, fe allai fod yn fasnachfraint iddo. Byddai’r gwerthiant yn cynyddu ac fe fyddai ef yn cael canran o’r elw. Fe yrrodd ei gar ledled Unol Daleithiau America, yn gwisgo’i siwt wen, gan guro ar ddrysau a chysgu yn ei gar. O fewn deng mlynedd roedd ganddo fwy na 600 o fasnachfreintiau KFC, ac yna fe werthodd ei ddiddordeb i grwp o fuddsoddwyr am $2 miliwn. Ymdrech dda, o feddwl ei fod wedi dechrau’r busnes pan fydd y rhan fwyaf o bobl ei oed yn meddwl am ymddeol!
Nid Colonel Sanders yw’r unig un i fod wedi profi amser caled.
Dangoswch y ddelwedd o Steven Spielberg.
Fe gafodd y gwneuthurwr ffilmiau Steven Spielberg ei wrthod dair gwaith gan y brifysgol yr oedd â’i fryd ar fynd iddi.
Dangoswch y ddelwedd o Walt Disney.
Fe gafodd Walt Disney ei ddiswyddo o’i waith fel newyddiadurwr, gan olygydd papur newydd, oherwydd ei ddiffyg dychymyg.
Dangoswch y ddelwedd o Richard Branson.
Doedd Richard Branson, sylfaenydd yr ymerodraeth Virgin, ddim bob amser yn llwyddiannus. Fe wnaeth yntau hefyd brofi methiannau ym myd busnes. - Mae sawl un arall, o sawl maes, sydd wedi profi methiannau, ond yr un peth sydd wedi bod yn amlwg yn achos pob un ohonyn nhw yw bod ganddyn nhw’r ddawn i ddyfalbarhau – mewn geiriau eraill, roedd pob un yn fodlon dal ati.
Gwahoddwch y gwirfoddolwr i ddarllen y gerdd Saesneg ganlynol:
Darllenydd When things go wrong, as they sometimes will,
When the road you're trudging seems all up hill,
When you’re feeling low and the goal seems high,
And you want to smile, but you have to sigh,
When care is pressing you down a bit,
Rest if you must, but don't you quit.
Life is queer with its twists and turns,
As every one of us sometimes learns,
And many a failure turns about
When he might have won had he stuck it out;
Don't give up though the pace seems slow –
You may succeed with another blow,
Success is failure turned inside out –
The silver tint of the clouds of doubt,
And you never can tell how close you are,
It may be near when it seems so far,
So stick to the fight when you're hardest hit –
It's when things seem worst that you must not quit. - Er mwyn cyflawni’r pethau mawr mewn bywyd, rhaid dyfalbarhau â’r pethau bach gan fod pob cam bach yn un cam yn nes ar hyd y ffordd at lwyddiant. Dyna mae dyfalbarhau yn ei olygu.
Yn y gymdeithas sydd ohoni y dyddiau hyn, o enwogion teledu realaeth a sioeau talent yn peri i unigolion ennill ‘enwogrwydd cyflym’, mae’n ymddangos ei bod yn bosib casglu pobl hollol ddi-nod ar gyfer gwneud y pethau hawsaf a symlaf, a’u gwneud yn enwogion dros nos.
Mae’n dda atgoffa ein hunain, am bob person sy’n ymddangos fel eu bod yn llwyddiant dros nos, nid dyna’r achos bob tro. Ac i filoedd o bobl eraill, gwaith caled oedd y peth a ddaeth â nhw i enwogrwydd yn y pen draw.
Dangoswch y ddelwedd o Samuel Goldwyn.
Fe ddywedodd y cynhyrchydd ffilmiau, Samuel Goldwyn, ‘The harder I work, the luckier I get.’ Wrth gwrs, roedd Mr Goldwyn yn cyfeirio at actorion a chyfarwyddwyr yn y diwydiant ffilmiau, a fyddai’n ymddangos fel pe bydden nhw’n cyrraedd y diwydiant ffilmiau ar amrantiad. Roedd yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi’n ymddangos fel petai’r bobl hyn wedi bod yn lwcus, ond yn aml fe fydden nhw wedi bod yn gweithio’n ddiwyd a thawel ac yn dysgu eu crefft dros flynyddoedd lawer heb i neb gymryd fawr o sylw ohonyn nhw o’r blaen. - Mae’r rheol hon yn gymwys yn achos unrhyw beth sy’n werth ei gyflawni - mae angen i ni lynu at unrhyw beth yr hoffen ni lwyddo ynddo, pa un ai a yw hynny’n ddeg gradd ‘A’ serennog yn yr arholiadau TGAU, neu’n fedal aur Olympaidd.
Does dim o’i le mewn gosod nod y llwyddiant yn uchel, ond y camau bach yw’r rheini a ddaw â chi at y nod. Er mwyn dod yn Athro mewn Prifysgol fe fydd yn rhaid i chi’n gyntaf weithio’n galed gyda’ch gwaith ysgol i ennill graddau da.
Dangoswch y ddelwedd o Albert Einstein.
Doedd Albert Einstein ddim yn gallu darllen nes ei fod yn saith oed. Fe ddatblygodd i fod yn enillydd Gwobr Nobel Prize, ac yn wyneb enwog ym myd ffiseg fodern. Mae’r un peth yn wir am yr holl athletwyr Olympaidd a enillodd fedalau aur - fe wnaethon nhw gychwyn ar eu taith tuag at y medalau hynny pan wnaethon nhw gymryd y cam hanfodol cyntaf hwnnw o ymuno â’u clwb chwaraeon lleol efallai. - Nid yw pawb yn breuddwydio ynghylch llwyddiant mawr, ond mae’r rhan fwyaf ohonom eisiau llwyddo i raddau neu wneud rhywbeth yn ein bywyd ac fe fydd dyfalbarhad yn chwarae rhan yn hynny.
Mae’n bwysig dysgu eich bod, bron bob amser, yn gorfod methu ar y dechrau er mwyn gallu gwneud cynnydd tuag at gyflawni breuddwyd neu uchelgais. Yn wir, heb fethu, fyddai cyflawni eich nod ddim yn golygu llawer.
Mae’n bwysig peidio ag ildio i fethiant, ond dysgu oddi wrth fethiannau a cheisio eto dro ar ôl tro. Os nad ydych chi’n llwyddo i gael graddau uchel yn eich arholiadau TGAU, fe allwch chi eu hail sefyll, ac ymdrechu i wneud yn well eto.
Fel y dywedodd J.K. Rowling wrth fyfyrwyr a oedd yn graddio o Brifysgol Harvard:
‘It is impossible to live without failing at something, unless you live so cautiously that you might as well not have lived at all – in which case, you fail by default.’
Nid yw methu’n ddiwedd y byd. Eich ymateb chi i’r methiant sy’n bwysig – eich bod yn dysgu oddi wrtho, yn codi eich hunan ar eich traed ac yn rhoi cynnig arni eto. - Felly, rydyn ni wedi gweld sut mae pob un ohonom yn gallu gwneud camgymeriadau, ond fe allwn ni gyrraedd ein nod yn y pen draw os ydyn ni’n dyfalbarhau. Peth arall sy’n bwysig wrth ddyfalbarhau yw bod yn sylwgar a newid cyfeiriad os yw rhywbeth ddim i’w weld yn gweithio. Nid rhoi’r gorau iddi yw hynny - fe allai ceisio mynd i’r afael â’r un broblem o gyfeiriad arall ddod â llwyddiant i chi.
Dangoswch y ddelwedd o Charles Schulz.
Roedd Charles Schulz, yr un a greodd y stribed comic Peanuts yn ôl pob golwg wedi ei dynghedu i fod yn fethiant, waeth beth a wnâi. Ond fe newidiodd ei gyfeiriad a chreu cymeriad wedi ei sylfaenu arno ef ei hun. A dyna sut y ganwyd y cymeriad Snoopy.
Amser i feddwl
Ystyriwch y geiriau hyn o eiddo Reinhold Niebuhr.
Dduw, caniatâ i mi y sirioldeb i dderbyn y pethau na allaf eu newid, y dewrder i newid y pethau y gallaf eu newid, a’r doethineb i wybod y gwahaniaeth.
(God grant me the serenity to accept the things I cannot change, the courage to change the things I can, and the wisdom to know the difference.)
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fy helpu.
Diolch i ti am helpu fy ffrindiau.
A diolch i ti am yr holl bethau da rwyt ti’n eu rhoi i ni.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
‘Search for the hero’ gan M People
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.