Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ble yn y byd?

Archwilio safbwyntiau’r myfyrwyr ar fyd ehangach.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio safbwyntiau’r myfyrwyr ar fyd ehangach.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn cael eu cynnal yn Sochi, yn Rwsia (mae clip fideo defnyddiol 60 eiliad, sy’n dangos y man lle mae’r gemau’n cael eu cynnal yn Sochi, y gallech chi ei ddangos yng Ngham 2 yn y gwasanaeth, i’w gael ar: www.bbc.co.uk/sport/0/winter-olympics/24728307). Y syniad yw y byddai’r myfyrwyr, trwy drafod y gemau, yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol o’r byd y tu hwnt i Brydain a datblygu mwy o synnwyr am y byd.
  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri darllenydd.
  • Hefyd , trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Reach for the top’ gan Jeff Durand (cerddoriaeth thema ar gyfer Sochi 2014) a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Pe byddwn yn gofyn unrhyw gwestiwn i chi am Gemau Olympaidd yr Haf, Llundain 2012, o bosib byddech yn gallu rhoi'r ateb i mi. Eisoes, mae'n rhan arbennig o'n hanes. Bu llawer ohonom yn dyst i rannau ohonyn nhw, boed hynny yn seremonïau trosglwyddo’r ffagl, cystadlaethau neu ddathliadau i nodi dyfodiad adref enillwyr medalau i dref gerllaw, neu efallai fod yn ddigon lwcus i fod yn bresennol yn un o'r digwyddiadau. Tybed, fodd bynnag, faint o'r cwestiynau canlynol allech chi eu hateb.

    - Ymhle mae Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn cael eu cynnal?
    - Beth sy'n anghyffredin am y lleoliad hwn?
    - Pa ddefnydd fydd i'r lleoliad pan fydd y Gemau Olympaidd wedi dod i ben?
    Saib.

  2. Dyma rai pobl fydd yn gallu rhoi'r ateb cywir i ni.

    Darllenydd 1Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn digwydd rhwng 7 a 23 Chwefror yn ninas Sochi, ar arfordir Rwsia o'r Môr Du.

    Darllenydd 2Sochi yw'r lleoliad cynhesaf erioed i westya Gemau Olympaidd y Gaeaf. Oherwydd ei fod wedi ei leoli ar yr arfordir, cyfartaledd y tymheredd ym mis Chwefror yw 8 gradd.  Bydd Sglefrio iâ, Hoci Iâ a Chyrlio yn cael eu cynnal mewn arenâu dan do sydd wedi cael eu hadeiladu’n arbennig. Bydd cystadlaethau sgïo a sledio yn gorfod cael eu cynnal yn fewndirol, i ffwrdd o'r prif leoliad, yn y mynydd-dir sydd o amgylch.

    Darllenydd 3Unwaith y bydd y Gemau drosodd, bydd Sochi yn datblygu cylchffordd rasio Fformiwla 1 trwy strydoedd y ddinas. Bydd Grand Prix Rwsia yn cael ei gynnal yno am nifer o flynyddoedd.

    Efallai y byddwch yn awyddus ar y pwynt hwn i ddangos y wibdaith 60-eiliad o'r lleoliad.

  3. Arweinydd  Rydym yn gwybod cymaint am yr hyn sy'n digwydd ar stepen ein drws, eto cyn lleied am y byd eang. Mae rhai yn dweud ei fod yn nodwedd o'r cymeriad Prydeinig, eto mae yno bobl ifanc fel chi, yn Sochi a gweddill Rwsia sydd yn gyffrous iawn ynghylch Gemau Olympaidd y Gaeaf.  Ar hyn o bryd fe fyddan nhw’n craffu ar restr y cystadleuwyr, yn neilltuol gyda chwaraeon fel hoci iâ a sgïo lawr y llethrau, gan feddwl pwy fydd yn ennill y medalau.  Yn union fel y buoch chi'n  ymwneud â digwyddiadau Gemau Llundain 2012, maen nhw'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf.

    Wrth sôn am gystadleuwyr, pa siawns sydd gennym ni o ennill medalau yn Sochi? Allwch chi enwi unrhyw fabolgampwyr Prydeinig fydd yn cymryd rhan?

    Saib.

    Dyma rai i chi edrych amdanyn nhw.

    Darllenydd 1 Mae Katie Summerhayes a James Woods yn rhan o'r sgïo dull rhydd - camp gyffrous iawn i edrych arno. Mae'n debyg iawn i sgrialfyrddio ar eira.

    Darllenydd 2 Wrth sôn am fyrddio, mae siawns dda iawn gan Jenny Jones a Billy Morgan gyda'r sgrialfyrddio ar eira, fel y mae gan Elise Christie yn y campau sglefrio cyflym ar lwybrau byr.

    Darllenydd 3 Mae gennym ni dimau aruchel hefyd. Mae ein dynion a'n merched gyda siawns o ragori yn y campau cyrlio.

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae yna lawer o rai eraill hefyd y byddai'n werth i ni eu gwylio. Mae timau bob-sledio (bobsleigh) y dynion mewn safle da ar hyn o bryd ac o bosib bydd ein siawns gorau yn dod yn y gystadleuaeth bob-sgerbwd (skeleton bob) gyda phencampwraig y byd Shelley Rudman a'r cyn-bentathletwraig Lizzy Yarnold.

Allwch chi deimlo ychydig o gyffro'n cydio ynoch chi? Rwy'n gobeithio hynny, nid yn unig oherwydd y gallem ennill rhywbeth ond hefyd oherwydd ei bod hi'n bwysig i ni ddatblygu ein hymwybyddiaeth o'r hyn sy'n cyffroi pobl ym mhedwar ban y byd. Pan fyddwn yn rhannu diddordeb, yna byddwn yn dechrau tyfu ar y cyd fel pobl.  Efallai ein bod yn byw filoedd o filltiroedd i ffwrdd ond gall Gemau Olympaidd y Gaeaf ein dwyn ynghyd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gyffro cystadlaethau chwaraeon.
Diolch i ti am y modd y mae chwaraeon yn dwyn ynghyd gystadleuwyr a gwylwyr o wahanol wledydd.
Boed i ni rannu brwdfrydedd ein gilydd ac ehangu ein safbwyntiau am bobl y byd.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Reach for the top’ gan Jeff Durand (cerddoriaeth thema ar gyfer Sochi 2014)

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon