Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Paneidiau Coffi gohiriedig

Archwilio sut gall prynu cwpanaid o goffi helpu i adeiladu cymuned.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio sut gall prynu cwpanaid o goffi helpu i adeiladu cymuned.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch: Mae’r ffilm sydd wedi ei chynnwys i’w defnyddio yn y gwasanaeth hwn yn dangos oedolion gydag anawsterau dysgu. Mae’n hanfodol eich bod yn edrych ar y ffilm o flaen llaw ac yn paratoi’r myfyrwyr fel eu bod yn canolbwyntio ar y pwnc y mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi dewis ei archwilio yn hytrach nag ar eu hanawsterau dysgu’r oedolion sydd yn y ffilm.
  • Trefnwch fod gennych chi’r modd o ddangos y ffilm fer (llai na thri munud), sydd i’w gweld ar: youtu.be/2GYfvgLSxKw  Neu, defnyddiwch y crynodeb sydd wedi ei nodi yng Ngham 1 y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth

  1. Os byddwch yn dangos y ffilm, ewch dros y prif bwyntiau ynddi eto neu defnyddiwch y crynodeb sydd i’w gael yn dilyn.

    Caffi cymunedol yw’r Pulse yn Sittingbourne, caffi sy’n cynnig paneidiau coffi wedi’u gohirio. Cynllun yw hwn sy’n caniatáu i gwsmeriaid brynu tocyn sy’n cael ei ddal gan y caffi fel y gall rhywun sydd mewn angen ddod i mewn yno’n ddiweddarach a chael cwpanaid o goffi y mae rhywun arall eisoes wedi talu amdani.

    Mae’n bosib gwneud hyn gyda diodydd eraill hefyd, bwyd a hyd yn oed bryd cyfan, gan roi cyfle i rywun mewn angen allu mwynhau manteision y caffi cymunedol.

    Soniodd un sy’n cyfrannu at y cynllun am y fantais hon fel hyn: ‘Mae’n braf bod pobl yn gallu dod i mewn i’r caffi a chwrdd â phobl gyfeillgar a chael sgwrs, ac mae’n eu helpu i gadw’n gynnes (... it also helps people with keeping warm).’

  2.  Soniwch hefyd bod ambell gaffi arall sy’n rhedeg yr un math o gynllun, yn cynnwys y gadwyn Starbucks. Holwch y myfyrwyr ydyn nhw’n ymwybodol o unrhyw gynllun tebyg yn eu hardal leol.
  3. Ffenomen gymharol newydd yw hon mewn llawer rhan o’r byd, ond fe ddigwyddodd yn gyntaf yn ardal weithiol dinas Naples yn yr Eidal, lle mae’r arferiad o yfed coffi espresso’n boblogaidd iawn.

    Credir fod y traddodiad o dalu am baneidiau coffi gohiriedig yn mynd yn ôl tua 100 mlynedd yn Naples, ond does neb yn hollol sicr. Mae adfywiad wedi dechrau eto ynghylch y syniad ac mae wedi lledaenu i fod yn ffenomen fyd-eang yn dilyn argyfwng y parthau Ewropeaidd a chwymp economïau’r byd.

  4. Mae paneidiau coffi gohiriedig yn enghraifft dda o unigolion a chymunedau’n cymryd camau bach i helpu eraill. Fel y dywedodd un o gwsmeriaid caffi’r Pulse yn y dyfyniad uchod – mae’n helpu pobl i gadw’n gynnes, ‘... it also helps people with keeping warm.’ Efallai ei bod y cwsmer hwnnw’n golygu mwy na dim ond cyfeirio at y ffaith fod y bobl anghenus yn teimlo’n oer yn gorfforol. Mae prynu cwpanaid o goffi gohiriedig yn ffordd o ledaenu cynhesrwydd dynol yn y synnwyr ehangach o ymestyn allan a rhannu. Mewn ffordd fechan mae’n nodi ein bod i gyd wedi ein clymu ynghyd ac yn ddibynnol ar y naill a’r llall. Dyma thema eithaf mawr, a chyflawniad nodedig am bris cwpanaid o goffi!

Amser i feddwl

Mae coffi gohiriedig yn helpu i adeiladu cymunedau ac yn dangos ein bod i gyd yn ddibynnol ar ein gilydd. A yw’n bosib cymhwyso’r egwyddor hon mewn achosion eraill? Allwch chi feddwl am enghreifftiau eraill o nwyddau neu wasanaethau y byddai’n bosib eu trefnu’n ‘ohiriedig’ yn y ffordd hon?

Mae’r syniad o ‘goffi gohiriedig’ wedi tyfu a lledaenu yn ystod yr argyfwng economaidd. Syniad syml yw hwn wedi ei sylfaenu ar unigolion yn meddwl am anghenion pobl eraill, A oes gwersi i’w dysgu pe byddai amseroedd economaidd gwell yn dod?

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon