Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Woodbine Willie

Sut mae rhyfel yn newid dyn

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodwch

Ar 4 Awst 2014, fe fyddwn yn cofio bod can mlynedd wedi mynd heibio ers i Brydain fynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er mwyn cyflwyno i’r myfyrwyr y prif themâu a’r materion oedd yn ymwneud â’r digwyddiad hwnnw, a chanmlwyddiant gwahanol ddigwyddiadau a nodir yn ystod y pedair blynedd nesaf, rydym yn darparu cyfres o sgriptiau ar gyfer gwasanaethau. Nid yw’r rhain mewn dilyniant cronolegol, felly mae modd eu defnyddio mewn unrhyw drefn.

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i gryfhau eu cred ar adegau anodd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Mae cerddi Geoffrey Anketell Studdert Kennedy i’w cael ar y rhyngrwyd. Mae llawer ohonyn nhw’n gerddi hir, ond cerdd addas i’w dewis ar gyfer Cam 3 yn y gwasanaeth hwn fyddai ‘To Stretcher Bearers’ (dewisol).
  • Chwiliwch am recordiad o’r gân ‘Masters of War’ gan Bob Dylan, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Roedd Woodbine Willie y math o ficer yr oedd cadfridogion y Fyddin Brydeinig yn ei gymeradwyo. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wirfoddolodd y Parchedig Geoffrey Anketell Studdert Kennedy – ei enw iawn – ar ei union i weithredu ar faes y gad. Tra roedd yn disgwyl am air gan ei esgob i ganiatáu iddo fynd, roedd yn blaen yn ei gyngor i ddynion ifanc ei blwyf.

    Darllenydd  1Rwy'n credu y dylai pob dyn abl wirfoddoli i wasanaethu yn unrhyw le. Ni ddylai neb feddwl am osgoi'r ddyletswydd honno.

  2. Arweinydd  Cafodd ei anfon yn gyntaf i wasanaethu yn nhref Rouen, gyda'r dasg o ddanfon recriwtiaid newydd i'r rheng flaen. Yn yr orsaf reilffordd, byddai'n adrodd geiriau o anogaeth wrth y recriwtiaid, ac yn dosbarthu Beiblau a sigarennau iddyn nhw. Dyna sut y cafodd ei lysenw, ‘Woodbine Willie’.

    Ar achlysur arall, cafodd ei anfon i wasanaethu mewn uned hyfforddi sut i ddefnyddio bidogau. Roedd yn rhan o'r act i hybu morâl, gan focsio ac ymaflyd codwm gydag aelodau'r uned cyn cyflwyno araith am ddefnyddioldeb y fidog mewn brwydr.

    Darllenydd  2 Yn un o'i lyfrynnau, a ysgrifennwyd o'r ffosydd, roedd hyd yn oed yn dadlau y byddai Prydain yn ennill y rhyfel am fod 'Tommy' (milwr Prydeinig) yn foesol well na'r 'Hun' (y milwr Almaenig) oherwydd y traddodiad chwaraeon Prydeinig. Fe wyddai milwyr Prydain sut i ennill; doedd milwyr yr Almaen ddim yn gwybod sut i wneud hynny!

  3. Arweinydd  Roedd y milwyr yn ei addoli - roedd yn siarad iaith bob dydd, yn dweud jôcs, yn ychwanegu ambell reg yn awr ac yn y man, ac roedd yn ffyddlon tu hwnt i'w hachos. Daeth llyfrau o’i farddoniaeth, yn seiliedig ar ei brofiadau, yn frig-lyfrau.

    Darllenwch un o gerddi’r bardd ar y pwynt hwn, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

    Darllenydd  1
    Roedd Woodbine Willie yn ddewr hefyd. Gwasanaethodd yn y rheng flaen ar dri achlysur gwahanol, ac enillodd fedal y Groes Filitaraidd (Military Cross) am ei ran yn yr ymladd yn Messines Ridge, pryd y rhedodd i 'dir neb' (no man’s land) er mwyn helpu'r rhai oedd wedi eu hanafu - Prydeinwyr yn ogystal ag Almaenwyr.

  4. Arweinydd Roedd y dyn hwn yn bopeth yr oedd yr awdurdodau'n chwilio amdano mewn 'padre' - caplan milwrol. Er hynny, erbyn diwedd y rhyfel roedd Geoffrey Anketell Studdert Kennedy wedi dod yn heddychwr, yn sosialydd Cristnogol, ac yn wrthwynebydd tanbaid i'r llywodraeth.  Beth oedd wedi ei newid? 

    Cyn y rhyfel, roedd Studdert Kennedy wedi mwynhau bywyd heb lawer o sialens. Ffydd Gristnogol gonfensiynol oedd ganddo, ei falchder cenedlaethol yn debyg i'r hyn yr oedd ei gyfoeswyr yn meddu arno. Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf ag ef i gyswllt â realaeth drygioni. Fe welodd beth oedd un person yn gallu ei wneud i un arall. Fe welodd drueni bywyd yn yr oerni a'r mwd. Fe edrychodd ar gadfridogion y tu ôl i'r llinellau yn anfon miloedd o ddynion i'w marwolaeth heb ddifaru dim.

    Yn y cyfan a ddigwyddodd cafodd ei orfodi i chwilio am Dduw. Roedd yr hyn a wnaeth Studdert Kennedy ei ddarganfod yn set wahanol o gredoau i'r rhai a oedd wedi bod yn rhan o'i fagwraeth. Fe ddarllenodd ac fe ail-ddarllenodd Woodbine Willie stori Iesu Grist ac fe ddaeth i nifer o gasgliadau.

    Darllenydd  2 Fe ddaeth i'r casgliad bod Iesu yn erbyn rhyfel, yn erbyn defnyddio arfau er mwyn setlo unrhyw fath o anghydfod.

    Darllenydd  1 Fe ddaeth i'r casgliad bod Iesu'n pregethu am gyfiawnder economaidd, ac eisiau rhan deg o gyfoeth i bob grwp.

    Darllenydd  2 Fe ddaeth i'r casgliad bod pawb - yr holl bobl - yn gyfartal, nad oes dosbarthiadau breintiedig, a bod hawl gan bawb ynghylch eu dyfodol.

    Arweinydd  Fe ddisgrifiodd eiriau Iesu fel neges beryglus yr oedd pobl eisiau ei chyfyngu oddi mewn i'r eglwys. Am weddill ei fywyd byr, ei genhadaeth oedd gollwng y neges honno'n rhydd.

Amser i feddwl

Weithiau mae bywyd yn gallu ein taro'n galed. Gall fod yn golled neu’n achos o edifarhau am rywbeth, gall fod yn siomedigaeth neu’n achos o fod wedi cael ein gorchfygu. Pa effaith mae hyn yn ei gael arnom ni? Ydyn ni’n ildio mewn hunan dosturi? Ydyn ni’n dechrau amau'r cyfan yr ydym erioed wedi ei gredu? Ydyn ni’n claddu  ein pen yn y tywod a cheisio'i anwybyddu neu geisio claddu achos yn ddwfn o’r golwg?

Fe wynebodd Woodbine Willie y cyfan benben, a dychwelyd at bethau sylfaenol. Iddo ef, geiriau Iesu Grist oedd hynny. Yn eich achos chi, gall fod yn ffydd neu gred arall, neu’n set o egwyddorion. Gobeithio, y byddwch chithau hefyd yn dod allan ohono â phwrpas o’r newydd.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y dyddiau hynny pan fydd bywyd yn hawdd ac yn syml.
Ar yr adegau hynny pan na fydd bywyd yn hawdd, pan fydd bywyd â’i ben i waered, helpa fi i ddarganfod beth sy’n real ac yn barhaol.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Masters of War’ gan Bob Dylan

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon