Y Ddihangfa Fawr
Does dim yn mynd i’n rhwystro ni
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i feddwl am rwystrau fel rhywbeth i’w hysgogi i ddyfalbarhau.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
- Chwiliwch am recordiad o gerddoriaeth thema’r ffilm The Great Escape (gwiriwch yr hawlfraint), a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Arweinydd Meddyliwch am ffilm enwog sy'n ymwneud â'r Ail Ryfel Byd.
Arhoswch i roi cyfle i'r myfyrwyr i feddwl am un.
Faint ohonoch chi feddyliodd am y ffilm 'The Great Escape'?
Derbyniwch ymateb y myfyrwyr.
Mewn adolygiadau ynghylch ffilmiau teuluol y byddai gwylwyr am eu gweld ar ddydd y Nadolig, daw'r 'The Great Escape' yn gyson o fewn y tri uchaf. Er gwaethaf ei diweddglo sy'n llai nag un hapus, mae'r ffilm yn deffro cymysgedd o emosiynau cadarnhaol sy'n uno teuluoedd a chymunedau.
- Mae'r ffilm yn seiliedig ar ddigwyddiadau real a ddigwyddodd 70 mlynedd yn ôl. Yn ystod y nos ar 24-25 Mawrth 1944, fe ddihangodd 76 o garcharorion rhyfel y Cynghreiriad o wersyll Stalag Luft III yn yr ardal sydd heddiw yn rhan o Wlad Pwyl. Fodd bynnag, yn wahanol i'r hyn oedd yn y ffilm, nid oedd yr un o'r rhai a ddihangodd yn Americanwyr, doedd dim beiciau modur yn ceisio chwalu trwy ffens o weiren bigog, ac roedd y mwyafrif o'r cymeriadau ffuglennol yn gymysgedd o bortreadau o amrywiol unigolion o fywyd go iawn. Felly beth ddigwyddodd o ddifrif?
- Gwersyll yn cael ei redeg gan y Luftwaffe, Llu Awyr y Natsïaid, oedd Stalag Luft III. Roedd lle ynddo i 10,000 o garcharorion, o’r llu awyr yn bennaf. Roedd wedi ei gynllunio'n arbennig i ddigalonni unrhyw ymdrech i gloddio twneli dianc.
Darllenydd 1 Roedd pob un o'r barics oedd yn dal y carcharorion wedi eu codi 60 centimetr uwchlaw'r ddaear.
Darllenydd 2 Roedd yr isbridd tywodlyd yn felyn llachar, ac felly'n anodd cael gwared ohono ar yr wyneb llwyd ei liw oedd wedi ei daenu ymhob rhan o'r gwersyll, ac roedd yn beryglus cloddio twneli yn y pridd tywodlyd oherwydd y risg o gwymp.
Darllenydd 3 Yn ogystal â'r archwiliadau gweledol arferol gan warchodwyr y gwersyll, gosodwyd meicroffonau seismograff o amgylch y gwersyll, i ganfod unrhyw synau a fyddai’n cyd-fynd â thyllu a chloddio. - Arweinydd Er gwaethaf hynny, dan arweiniad Sgwadron-bennaeth Roger Bushell, dechreuwyd cloddio tri thwnnel. Fe gafodd y tri thwnnel eu henwi yn Tom, Dick a Harry.
Darllenydd 1 Roedd y mynediad at dwnnel Tom yng nghornel dywyll neuadd.
Darllenydd 2 Dechreuwyd cloddio Dick yn swmp y gwter yn un o'r ystafelloedd ymolchi.
Darllenydd 3 Roedd mynediad at dwnnel Harry o dan stôf. - Arweinydd Bu dros 600 o garcharorion yn ymwneud â'r weithred o gloddio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ar noson 24-25 Mawrth, llwyddodd 76 i ddianc. Cafodd pob un ond tri ohonyn nhw eu dal, a saethwyd 50 ohonyn nhw fel rhybudd ataliol i'r gweddill, er mwyn ceisio rhoi stop ar unrhyw ymgais i ddianc yn y dyfodol. Y tri a lwyddodd i gyrraedd yn ôl i'r D.U. oedd dau beilot o Norwy ac un peilot o'r Iseldiroedd.
Amser i feddwl
Arweinydd Pan gyrhaeddodd awyrenwyr y Cynghreiriaid a oedd wedi cael eu hanfon i Stalag Luft III gyntaf oll, fe fyddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw gredu'r hyn a ddywedwyd wrthyn nhw, ‘I chi, mae'r rhyfel drosodd.’ Fe allai hynny fod wedi bod yn rhyddhad mewn un ffordd, trwy gael anghofio am yr ofn a'r risg oedd ynghlwm wrth ymladd gweithredol. Hefyd, roedd y rhwystrau o geisio dianc o'r gwersyll yn enfawr. Roedd y pellter o Wlad Pwyl yn ôl gartref yn filoedd o filltiroedd. Byddai dianc a chael eich dal mewn gwisg sifiliad yn eich gosod mewn perygl o gael eich saethu fel ysbïwr. Mae'n rhaid bod llawer o'r carcharorion wedi cael eu temtio’n wir i dderbyn y 'status quo' yn syml, a gwneud dim ond disgwyl nes byddai'r rhyfel drosodd. Eto, nid dyna wnaeth llawer ohonyn nhw.
Fe ddechreuodd rhai o'r carcharorion deimlo'n ddiflas a theimlo eu bod angen rhyw fath o her. Roedd eraill yn ffieiddio’r dogn o fwyd gwael yr oedden nhw'n ei gael, ac yn ddig oherwydd y creulondeb a'r amodau byw annerbyniol yn y gwersyll. Roedden nhw am gael eu rhyddid.
Fe ychwanegodd Roger Bushell fwy o bwrpas at y pethau hyn. Fe berswadiodd ef lawer o'r carcharorion mai eu dyletswydd oedd achosi cymaint â phosib o aflonyddwch i rediad arferol y gwersyll er mwyn rhoi mwy o bwysau ar y milwyr Almaeneg fel nad oedd modd eu defnyddio mewn lleoedd eraill. Roedd Bushell yn gweld, trwy wneud hynny, fod y dynion yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i ymdrech y rhyfel, hyd yn oed oddi mewn i ffiniau'r gwersyll. Ac felly yr aeth y Ddihangfa Fawr rhagddi.
Fyddwch chi weithiau'n cael eich temtio i roi'r ffidil yn y to, a dweud, ‘Fel hyn y mae pethau'n mynd i fod, alla' i wneud dim am y peth’?
Darllenydd 1 Yn eich achos chi, efallai bod hynny oherwydd bod y pwnc neu’r testun yn anodd ei ddeall. Rydych wedi ymdrechu, ond er hynny, methu â chyrraedd y safon wnaethoch chi.
Darllenydd 2 Efallai bod hynny oherwydd eich bod wedi cael eich esgeuluso wrth i gynhyrchydd ddewis rhannau mewn cynhyrchiad, neu oherwydd eich bod wedi eich anfon i eistedd ar fainc yr eilyddion. Rydych chi’n cael eich temtio i gredu nad yw'r ddawn angenrheidiol gennych.
Darllenydd 3 Efallai bod hynny oherwydd eich bod wedi dioddef cael eich gwrthod. Efallai eich bod chi wedi cael eich gadael ar eich pen eich hun, yn berson unig.
Arweinydd Mae bywyd yn gosod rhwystrau ar ein ffordd, ond fe allwn ni ddewis sut yr ydyn ni am ddelio â nhw. Fe allwn dderbyn y 'status quo', gwneud dim, neu fe allwn benderfynu gwneud ymdrech i fynd i’r afael â phethau. Nid yw'n golygu y down ni allan yn hollol ar y brig - dim ond tri awyrennwr lwyddodd i ddychwelyd i'r D.U. ac roedd Roger Bushell yn un a'r carcharorion gafodd eu hail-ddal a'i saethu. Wedi dweud hynny, rwy'n gwybod y bydd sawl gwers yn cael ei dysgu o ganlyniad i’r yr ymdrech, ac mae hyd yn oed buddugoliaethau bach yn fuddugoliaethau.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr adegau hawdd, pan fydd pethau’n digwydd yn rhwydd.
Diolch i ti, hefyd, na ddylai’r adegau anodd ein llethu ni’n llwyr.
Boed i ni, ar yr adegau anodd, fod yn benderfynol o’u goresgyn.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
Cerddoriaeth thema’r ffilm The Great Escape