Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffrydiau yn yr anialwch

Dathlu Dydd Gweddi Byd-eang y Merched

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl sut y gallen nhw fod yn ‘ffrydiau yn yr anialwch’ yn eu bywyd o ddydd i ddydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd i eistedd wrth fwrdd, yn actio eu bod yn paratoi gwasanaeth dosbarth.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori yn Efengyl Ioan, pennod 4.
  • Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am Ddydd Gweddi Byd-eang y Merched ar y wefan: www.wwdp.org.uk.
  • Chwiliwch am recordiad o gerddoriaeth Eifftaidd, a threfnwch fodd o’i chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth ac wedyn wrth iddyn nhw ymadael.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Edrychwch ar y myfyrwyr sydd o gwmpas y bwrdd yma. Maen nhw wrthi’n brysur. Maen nhw wedi cael y dasg o drefnu eu gwasanaeth dosbarth, sydd i’w gynnal heddiw/ ar 7 Mawrth/ dydd Gwener.

    Dyma ddyddiad Diwrnod Gweddi Byd-eang y Merched. Mudiad anenwadol, byd-eang, yw hwn sydd wedi ei drefnu ac yn cael ei arwain gan ferched Cristnogol ledled y byd. Mae’r merched yn dod ynghyd ar y dydd Gwener cyntaf ym mis Mawrth bob blwyddyn i gynnal diwrnod o weddi. Caiff y gwasanaeth ei ysgrifennu a’i baratoi gan ferched o wlad wahanol bob blwyddyn. Bydd gwasanaeth cyntaf y dydd yn digwydd ar ynys Samoa, a’r olaf ar y Samoa Americanaidd, felly mae’r byd yn cael ei amgylchynu â gweddi am gyfnod o 36 awr.

    Gadewch i ni wrando er mwyn cael clywed sut hwyl mae’r bobl ifanc hyn yn ei gael ar eu tasg.

    Darllenydd  1 Pam ar wyneb y ddaear rydyn ni wedi cael ein dewis i wneud y dasg hon? Does gen i ddim syniad ble i ddechrau arni.

    Darllenydd  2 Am ein bod i gyd yn ferched, mae’n debyg! Mae’r diwrnod hwn o weddi wedi cael ei drefnu ar gyfer merched, gan ferched.

    Darllenydd  3 Diwrnod gweddi? O ddifri? O! Mae hyn yn mynd i fod mor ofnadwy o ddiflas!

    Darllenydd  1 Wel, yr her i ni fydd ei wneud yn ddiddorol. Felly, eleni, mae’r diwrnod yn mynd i gael ei drefnu gan ferched Cristnogol o’r Aifft. Beth ydyn ni’n ei wybod am wlad yr Aifft?

    Darllenydd  2 Rydw i’n cofio gwneud gwaith am yr Aifft yn Blwyddyn 6, yn yr ysgol gynradd. Mae gwareiddiad yr Aifft yn un o’r gwareiddiadau hynaf yn y byd, gyda’r pyramidiau a’r mymïaid, y pharos a’r sffincs. Yng Ngogledd Affrica mae’r wlad. Yr afon Neil yw’r ail afon hiraf yn y byd, ond mae’r rhan fwyaf o’r wlad wedi ei gorchuddio ag anialwch. Mae arwydd cobra’r Aifft yn arwydd pwysig, ond y camel yw’r anifail Eifftaidd mwyaf enwog.

    Darllenydd  3 Ooo, y camel  . . .  Gadewch i mi fod yn gamel! Fe allwn i wisgo fel camel. Fe fyddwn i wrth fy modd. Fe fyddwn i’n gwneud un da. Fyddai hynny ddim yn ddiflas.

    Darllenydd  1 Wel, rwyt ti’n ddigon tebyg i gamel! Ond nid dyna’r bwriad. Y cyfan rwyt ti wedi’i wneud yw sôn am yr hen Aifft. Mae’r Aifft fodern yn wahanol iawn i hynny. Mae twristiaeth, amaethyddiaeth ac adnoddau naturiol yn bwysig i economi’r wlad. Mae dros 90 y cant o Eifftiaid yn siarad yr iaith Arabeg, ac mae’r wlad yn wlad Fwslimaidd yn bennaf. Yn ddiweddar, mae cynnydd wedi bod yn y trais sy’n digwydd rhwng y Mwslimiaid a’r Cristnogion lleiafrifol. Fe arweiniodd gwrthryfel yn 2011 at ethol arlywydd cyntaf i’r wlad yn 2012.

    Darllenydd  2 Iawn. Mae hyn i gyd yn ddigon diddorol, ond sut rydyn ni’n mynd i allu cynnwys hynny yn y cyflwyniad heb iddo swnio fel gwers ddaearyddiaeth neu wers hanes?

    Darllenydd  3 Rydw i’n dal i feddwl bod y syniad am y camel yn un da.

  2. Arweinydd  Gadewch i ni adael i’r myfyrwyr ddal ati gyda’u gwaith am foment. Mae’r darlleniad o’r Beibl sydd wedi ei gynnwys yn y gwasanaeth ar gyfer y Diwrnod Gweddi Byd-eang wedi ei gymryd o Efengyl Ioan, pennod 4. Mae’r darn yn ymwneud â sgwrs rhwng Iesu a gwraig o Samaria yn ymyl ffynnon. Mae Iesu’n gofyn iddi am ddiod o ddwr. Ond, gadewch i ni fynd yn ôl ar hyn o bryd at ein myfyrwyr, er mwyn i ni gael gweld sut hwyl maen nhw’n ei gael gyda’u trafodaeth am y cyfarfyddiad hwn rhwng Iesu a’r wraig o Samaria wth ymyl y ffynnon.

    Darllenydd  1 Wel, dydi’r darlleniad yma ddim yn un hawdd. Mae’n anodd deall beth  yn union yw cyd-destun y darn mewn gwirionedd. Roedd gan yr Iddewon broblem fawr ynghylch eu perthynas â phobl gwlad Samaria yn oes Iesu Grist, ac roedd merched yn cael eu hystyried yn ddinasyddion eilradd hefyd, beth bynnag. Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod iawn felly - rhywun fel Iesu’n siarad â gwraig ddieithr o Samaria, hyd yn oed os mai dim ond gofyn iddi am ddiod o ddwr yr oedd.

    Darllenydd  2  Roedd Iesu’n un da am wneud pethau felly. Fe fyddai’n siarad â phob math o wahanol bobl, hyd yn oed y math o bobl; y byddai pawb arall yn eu bychanu a’u hanghymeradwyo. Fe fyddai Iesu’n siarad â phob weirdo a nerd, pob geek a freak y byddai pob un ohonom ni heddiw yn osgoi cyfathrebu â nhw, mae’n debyg.

    Darllenydd  3 Geeks a freaks  . . .  Ie, syniad da. Fe allen ni greu drama, ac fe allwn i fod yn freak. Rydw i wedi meddwl sawl tro sut beth yw cael fy anwybyddu, fy mhryfocio, a chael fy mwlio.

    Darllenydd  1 Dim o ddifri? Beth bynnag, mae Iesu’n eithaf cwl os yw’n barod i siarad â’r wraig hon ac yn barod i yfed dwr o’r un gwpan â hi. Siwr ei bod hi’n methu credu’r peth. Ac, yna, mae Iesu’n dweud wrthi y gall ef roi dwr bywiol iddi hi, ac na fyddai hi byth yn sychedig wedyn. Nid dwr cyffredin y mae Iesu’n cyfeirio ato yma. Yr hyn mae’n sôn amdano yw’r rhodd o fywyd na fydd byth yn sychu. Rhywbeth anodd ei ddeall, ond mae’r wraig yn dod i ddeall.

    Darllenydd  2  Ydi’n wir! Mae hi wedyn yn rhedeg yn ôl adref ac yn dweud wrth bawb am ei chyfarfyddiad ag Iesu. Mae Iesu wedi newid ei bywyd.

    Darllenydd  3 Mae hynny’n beth od iawn. Sut yn y byd y gallwn ni roi ar ddeall i unrhyw un y syniad hwn o ddwr sydd ddim yn ddwr mewn gwirionedd, dwr sydd byth yn darfod a dwr sy’n gallu newid bywydau? Dydw i ddim yn deall hyn fy hun yn iawn.

  3. Arweinydd  Ac mae hi’n iawn. Mae hwn yn wir yn gysyniad anodd iawn ei ddeall. Teitl gwasanaeth Diwrnod Gweddi Byd-eang y Merched yw ‘Ffrydiau yn yr anialwch’. Tybed a wnaiff y teitl helpu ein grwp i ganolbwyntio’u meddyliau.

    Darllenydd  1 Dewch, dydyn ni ddim wedi cael llawer o siâp ar y gwasanaeth ’ma, ac mae’r amser yn dod i ben. Y teitl yw ‘Ffrydiau yn yr anialwch’. Sut mae hwn yn mynd i’n helpu? Wel, mae’n debyg, heb yr afon Neil, fyddai gwlad yr Aifft ddim yn ffynnu. Y dwr o’r afon Neil sy’n dod â bywyd i’r anialwch. Mae’r dwr yn helpu’r planhigion a’r cnydau i dyfu a ffynnu. Mae dwr yn dod â bywyd.

    Darllenydd  3 Dyna fo! Fe allwn ni daflu llond bwced o ddwr dros rywun a gweld sut mae hynny’n dod â fo neu hi’n ôl yn fyw. Fe fyddai hynny’n cael effaith yn siwr! 

    Darllenydd  1  Na, alli di ddim gwneud hynny! Ond mae un peth y gallet ti ei wneud, efallai, sef dod o hyd i glip fideo ar y Rhyngrwyd o ddwr yn ffrydio i le sych, a’r llun yn dangos y gwahaniaeth mae’r dwr hwnnw’n ei wneud i’r tir sych wedyn. Un o’r fideos lluniau araf rheini fel sydd i’w gweld ar raglenni David Attenborough.

    Darllenydd  3 O, ie, rydw i’n gwybod yn union beth rwyt ti’n sôn amdano. Fe af i ati ar unwaith i chwilio.

    Darllenydd  3 yn codi ac yn ymadael.

    Darllenydd  2
    Ambell dro, fe fydd pobl yn teimlo fel petai nhw’n sych o syniadau, heb ddim clem, ac yna mae rhywbeth yn digwydd, fel dwr yn llifo i mewn, ac yna maen nhw’n cael eu newid. Fe alla i weld hynny. Ambell dro, fe fydd gair o anogaeth gan ffrind yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth a pheri i ni deimlo’n fywiog unwaith eto.

    Darllenydd  1 Mae hynny’n swnio’n grêt! Wyt ti’n meddwl y gallet ti holi gwahanol rai er mwyn cael enghreifftiau eraill o’r hyn sy’n dod â bywyd newydd i fodolaeth dydd i ddydd pobl?

    Darllenydd  2 Iawn, wrth gwrs! Fe wna i ddechrau arni ar unwaith.

    Darllenydd  2 yn codi ac yn ymadael.

    Darllenydd  1
      O’r diwedd mae gennym ni gynllun. Fe ddechreuaf i gyda gwlad yr Aifft, a sut mae’r afon Neil yn ‘rhodd o fywyd’. Yna, fe all [Darllenydd  3 ] ddangos y clip fideo o’r gwahaniaeth y mae dwr yn gallu ei wneud. Yna, fe all [Darllenydd  2 ] ddangos sut y gallwn ni brofi ffrydiau o ddwr yn ein bywydau ein hunain, fel y profiad a gafodd y wraig o Samaria pan gwrddodd hi ag Iesu wrth y ffynnon. Dyna fo! Mae o gen i rwan!

    Darllenydd  1 yn codi ac yn ymadael.

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae hwn yn swnio’n gynllun da iawn i mi! Rwy’n meddwl ein bod wedi dysgu llawer iawn wrth wrando ar y grwp yn trafod eu syniadau ac yn paratoi. Wrth i ni ddod â’r gwasanaeth hwn i ben, gadewch i ni dreulio moment yn ystyried dwr a’r gwahaniaeth y gall dwr ei wneud i’r byd ac i’n bywydau ni.

Gadewch i ni feddwl am yr 884 miliwn o bobl ledled y byd sydd heb fynediad at ddwr glân. Mae dwr glân yn bwysicach na bwyd hyd yn oed, er mwyn cadw’n fyw. Mae bodau dynol yn dibynnu ar ddwr glân, ffres er mwyn tyfu a chadw’n iach. Boed mynediad i bawb at gyflenwad o ddwr glân fod yn flaenoriaeth yn ein byd ni heddiw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Gad i ni gofio am Ddydd Gweddi Byd-eang y Merched ar 7 Mawrth.
Rydyn ni’n meddwl am y merched Cristnogol yng ngwlad yr Aifft sydd wedi llunio a pharatoi’r gwasanaeth.
Boed i’r gwasanaeth fod yn fendith i lawer, yn ffrwd o ddwr bywiol yn yr anialwch.
Boed i’r diwrnod cyfan fod yn ddiwrnod o bwer a gweithred wrth i ferched ledled y byd ymuno â’i gilydd i weddïo.
Gad i ni ystyried sut y gallwn ni fel unigolion fod yn ffrwd yn yr anialwch yn ein bywyd o ddydd i ddydd.
Boed i ni ddod ag anogaeth i eraill.
Boed i ni ddod â charedigrwydd i eraill.
Boed i ni fod yn ysbrydoliaeth i eraill.
Boed i ni ddod â bywyd a hapusrwydd i eraill.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Cerddoriaeth Eifftaidd

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon