Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anghyfiawnder

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o stori’r Pasg.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o stori’r Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘The only way is up’ gan Yazz, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

Arweinydd  Mae hanes yn llawn o storïau am lygredd ac anghyfiawnder. Caiff y rhai sy'n ymladd dros ryddid a heddwch, fel Nelson Mandela, Martin Luther King, Aung San Suu Kyi and Oscar Romero, eu herlid, eu carcharu, eu cam-drin a'u lladd. Mae'r grymus yn defnyddio pob modd, oddi mewn yn ogystal â thu allan i'r gyfraith, i dawelu'r bygythiad o newid.

Nid yw stori'r Pasg yn wahanol.

Darllenydd 1  Cafodd Iesu ei ‘fradychu’ i'r awdurdodau gan gefnogwr oedd wedi ei ddadrithio. Roedd y cynnig o 30 darn arian y ddigon er mwyn perswadio Jwdas Iscariot i arwain y prif offeiriaid, yr henuriaid a gwarchodwyr y deml at fan tawel i ffwrdd oddi wrth y tyrfaoedd, dyna’r fan lle gwnaeth Jwdas ddangos iddyn nhw pwy oedd Iesu trwy roi cusan ragrithiol iddo.

Darllenydd 2  Fe wnaeth hyd yn oed ei gyfaill annwyl, Pedr, ffoi oddi wrth Iesu pan oedd dan bwysau.  Nid oedd ganddo'r asgwrn cefn i aros a’i gefnogi.

Darllenydd 1  Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd ei guro gan y gwarchodwyr, a rhoddwyd mwgwd dros ei lygaid, fel na wyddai o ba gyfeiriad y deuai'r ddyrnod nesaf.

Darllenydd 2  Roedd yr awdurdodau erlyn yn y llys isaf eisoes wedi gwneud eu penderfyniad. Er nad oedd unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn, fe wnaethon nhw ddyfarnu Iesu'n euog o'r cyhuddiadau roedden nhw wedi'u dyfeisio.

Darllenydd 1  Osgoi'r mater wnaeth yr uchel lys, trwy ei drosglwyddo at y rhaglaw Rhufeinig, Pilat, na allodd gael hyd i unrhyw achos i'w ddedfrydu â'r gosb eithaf.

Darllenydd 2  Yn y diwedd, y dyrfa afreolus a'i dedfrydodd. Wedi eu hysgogi'n ferw gwyllt gan yr eglwys a gwleidyddion llygredig, fe wnaethon nhw weiddi'n groch am ei waed. Ni chafodd Iesu gyfle o gwbl i amddiffyn ei hun. Doedd yr awdurdodau ddim yn mynd i wrthsefyll unrhyw bwysau fel yna. Cafodd ei arwain allan o'r ddinas a'i ddienyddio yn y modd mwyaf poenus oedd yn bosib, wedi ei hoelio ar groesbren.

Amser i feddwl

Mae'n bwysig ein bod yn atgoffa ein hunain am y gwirionedd sydd yn gefndir i stori'r Pasg. Gall yn hawdd gael ei golli, naill ai yn nefodau arferol gwasanaethau'r eglwys neu, yn fwy tebygol, yn awyrgylch y gwyliau sy'n rhan o benwythnos y Pasg. Eto, mae Cristnogion yn credu mai hwn oedd y trobwynt i'r byd, y foment pryd yr amlygodd Duw ddyfnder ei berthynas â'r ddynoliaeth trwy wynebu'r mater o farwolaeth, o ddrygioni ac o dywyllwch o ddifri. Aeth wyneb yn wyneb â llygredd ac anghyfiawnder, ac roedd yn ymddangos fel petai’n sigo dan y pwysau, ond yna fe ddaeth i’r golwg yn fuddugoliaethus ar y Sul Pasg cyntaf.

Rydym yn dod ar draws anghyfiawnder yn ein bywydau ein hunain, rhai ohonom yn amlach nac eraill. Gall hynny fod yn rhywbeth fel derbyn y bai am weithred na wnaethom erioed ei chyflawni. Gall fod am gyfle a wrthodwyd i ni, cael ein bwlio ar gam neu gael ein siomi gan rai yr oeddem yn meddwl y gallem ddibynnu arnyn nhw. Gall pethau ymddangos yn waeth wrth i'r system ein siomi, trwy i'r rhai sydd â dylanwad gael eu gwrthdynnu gan agendau eraill, neu heb fod ag amser i gymryd ein honiadau o ddifrif.

Sut ydyn ni'n teimlo pan ddigwydd hyn? Mor hawdd yw digalonni, i roi'r ffidil yn y to, ac i dderbyn ein lle ar waelod y domen. Gallwn hyd yn oed fod mor chwerw, mor ddig fel ein bod yn taro'n ôl, gan adael ein hunain hyd yn oed mewn gwaeth trafferth na'r hyn yr oeddem ynddo ynghynt.

Dyma sut y mae neges y Pasg mor bwysig. Fe dderbyniodd Iesu anghyfiawnder a llygredd yr adeg honno. Wnaeth o ddim talu'n ôl oherwydd ei fod yn gwybod na fyddai hynny'n gwneud unrhyw les yr adeg honno. Fe arhosodd am ei gyfle, gan wybod, yn y diwedd, y byddai bywyd yn cael buddugoliaeth dros farwolaeth, y byddai daioni yn cael buddugoliaeth dros ddrygioni, ac y byddai goleuni'n cael buddugoliaeth dros dywyllwch. Cafodd ei brofi’n iawn oherwydd fe atgyfododd i fywyd newydd dridiau ar ôl cael ei ddienyddio.

Mae'r Pasg yn ymwneud â gobaith, am ddal gafael yn y cyfle bod dechreuad newydd yn bosibl ac y bydd pethau'n sicr o wella. Mae'r Pasg yn ymwneud â dal ati bob amser a pheidio â rhoi’r gorau iddi.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am stori’r Pasg, am y neges o obaith, beth bynnag fo ein hamgylchiadau.
Cadw ni rhag anobaith ac ofn, a rhag ceisio dial am unrhyw gam sydd wedi ei wneud â ni.
Boed i ni ddal i frwydro tuag at gyrraedd y goleuni, gan aros am gyfle newydd a gweithio tuag ato.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

The only way is up’ gan Yazz

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon