Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywyd newydd

Bywyd newydd, dechreuadau newydd, a chychwyn â llechen lân

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a phedwar darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo oddi ar Truetube - Alien Abduction:Christianity a threfnwch fodd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.truetube.co.uk/film/alien-abduction-christianity). Mae’n para am 6.05 munud.

Gwasanaeth

Arweinydd  Fe hoffwn i ddechrau’r gwasanaeth hwn heddiw trwy ofyn cwestiwn i bob un ohonoch chi. Pa ddiwrnod yw'r pwysicaf un o'r flwyddyn gron gennych chi? Meddyliwch am hynny am eiliad neu ddwy  . . .  Nawr dywedwch wrth y person agosaf atoch chi pa ddiwrnod y gwnaethoch chi ei ddewis .  . . . 

Tybed a oes unrhyw un ohonoch chi wedi rhoi'r un ateb ag unrhyw un o'r myfyrwyr sydd fyny yma o’ch blaen chi heddiw.

Trowch at y Darllenwyr a dywedwch hyn:

Felly dywedwch chi wrthym ni, pa un yw'r diwrnod pwysicaf o’r flwyddyn gyfan gennych chi?

Darllenydd 1  I mi, y diwrnod yw [rhowch ddyddiad pen-blwydd Darllenydd 1 i mewn yma]. Dyna ddiwrnod fy mhen-blwydd. Dyna'r diwrnod pryd y byddaf yn cael llawer o anrhegion a chardiau. Rwy'n teimlo'n arbennig iawn ar y diwrnod hwnnw bob blwyddyn. Byddaf flwyddyn gyfan yn hyn. Hwnnw yw'r diwrnod mwyaf arwyddocaol o’r flwyddyn i mi.

Darllenydd 2  I mi, y dydd cyntaf o Ionawr yw'r un, Dydd Calan. Fe fyddwn yn ymadael â'r hen flwyddyn ac yn dechrau blwyddyn newydd sbon. Mae fel cael llechen lân. Rydym i gyd yn addo bod yn well pobl, ac yn addo byw bywydau gwell, a gwneud llawer o addunedau Blwyddyn Newydd. Rwy'n caru'r teimlad hwnnw o obaith ac optimistiaeth.

Darllenydd 3  I mi, mae'n rhaid i mi gael dewis Dydd Nadolig. Rwyf wrth fy modd gyda'r holl anrhegion, wrth gwrs, ond rwy'n hoff iawn o gael y teulu ynghyd, hefyd. Rwy'n mwynhau cael fy atgoffa o stori'r Nadolig, geni Iesu'r holl flynyddoedd hynny'n ôl. Mae'r hanes yn creu awyrgylch hudolus ac arbennig iawn, yn wahanol i bob diwrnod arall yn y flwyddyn.

Darllenydd 4  I mi, y diwrnod pwysicaf eleni fydd dydd Iau 14 Awst. Dyna'r diwrnod pan fyddaf yn derbyn fy nghanlyniadau TGAU. Bydd y diwrnod hwnnw yn penderfynu fy nyfodol - pa un ai a fyddaf yn cael aros ymlaen yn yr ysgol ai peidio, a pha bynciau y gallaf eu hastudio ar gyfer Lefel A. Yn sicr, mae hwnnw'n debygol o fod y diwrnod pwysicaf yn y flwyddyn i mi, eleni.

Arweinydd  Mae'r rhain i gyd yn atebion gwych. Mewn gwirionedd, mae ganddyn nhw i gyd rywbeth yn gyffredin, ond fe gawn ni drafod hynny'n nes ymlaen. Nawr, er hynny, fe hoffwn i gyflwyno Harri i chi. Mae Harri'n Gristion, yn Arweinydd Cristnogol, fel mater o ffaith. Bydd y fideo byr y byddwn yn ei weld mewn munud yn rhoi'r cyfle i Harri egluro rhywfaint am ei ffydd, a sôn am y diwrnod pwysicaf o'r flwyddyn iddo ef. Mae'r fideo hefyd yn cynnwys y thema sy'n cadwyno'r holl ymatebion yr ydym wedi eu clywed oddi wrth ein myfyrwyr. Ceisiwch ganfod beth yw'r thema.

Dangoswch y fideo Truetube - Alien Abduction: Christianity.

Arweinydd 
Felly, fe ofynnwyd cwestiwn ychydig yn wahanol i Harri - beth yw'r wyl bwysicaf yn ei grefydd? Mae'n cydnabod mai'r Nadolig yw'r wyl Gristnogol fwyaf - yr un fwyaf adnabyddus, yr un sy'n cael ei dathlu fwyaf - ond mae ef yn credu mai'r Pasg yw gwyl fwyaf arwyddocaol y ffydd Gristnogol. Mae hynny'n bod oherwydd, dros y Pasg, fe nododd Iesu ddechreuad y ffydd Gristnogol yn ei farwolaeth a'i atgyfodiad.

Mae Harri yn crynhoi thema'r Pasg ac mae hynny'n cadwyno ein holl ymatebion, hefyd - bywyd newydd, dechreuadau newydd a rhoi cynnig arni eto â llechen lân.

Bywyd newydd, dechreuadau newydd a chychwyn eto â llechen lân. Yn achos Harri, dyma neges ganolog ei ffydd. Duw ddechreuodd y cyfan. Ef oedd y dechreuad. Dechreuad ac nid y diwedd yw marwolaeth, fel y mae hi gyda Christnogion yn mynd at Dduw i'r nefoedd. Atgyfododd Iesu oddi wrth farwolaeth ar ôl tridiau a chafodd y ffydd Gristnogol ei geni. Mae arllwys dwr ar ben baban wrth ei fedyddio yn arwydd sy’n nodi dechreuad bywyd newydd iddyn nhw. Mae bedydd trwy drochiad llawn yn symbolaidd o gael eich claddu a'ch codi i fywyd newydd. Yn achos Harri, mae ei ffydd yn golygu bywyd newydd, dechreuadau newydd a chychwyn eto â llechen lân.

Yn achos pob un ohonom, ac yn achos y myfyrwyr hyn i fyny yma yn y gwasanaeth heddiw, mae’n amlwg mai bywyd newydd, dechreuadau newydd, a chychwyn eto â llechen lân sy’n gwneud ein dyddiau arwyddocaol mor bwysig.

Amser i feddwl

Arweinydd  Gadewch i ni roi ychydig amser i ni ein hunain yn awr i fyfyrio ar bwysigrwydd bywyd newydd, dechreuadau newydd a chychwyn eto â llechen lân yn ein bywydau.

Darllenydd 1  Mae pob pen-blwydd yn nodi blwyddyn arall wedi mynd heibio ers i ni gael ein geni. Mae'n ddechrau blwyddyn newydd yn ein bywydau. Mae'n ddechreuad o fod mewn oedran newydd. Rydym yn tyfu ac yn newid ac yn datblygu trwy'r adeg. Gadewch i ni ystyried pob pen-blwydd yn gyfle i ddathlu sut rydyn ni wedi tyfu a newid a datblygu yn y flwyddyn flaenorol. Gadewch i ni gydnabod bod pob pen-blwydd yn gallu nodi dechreuad newydd.

Darllenydd 2  Mae Dydd Calan yn adeg i fyfyrio ar y flwyddyn flaenorol a gwneud dechreuad newydd mewn blwyddyn newydd. Mae dechreuadau newydd trwy gydol y flwyddyn - dechrau blwyddyn ysgol newydd, dechrau swydd newydd, ymuno â chlwb newydd, gwneud ffrindiau newydd, dechrau prosiect newydd, ymgymryd â hobi newydd. Gadewch i ni weld bod pob dechreuad newydd fel cyfle i newydd. Gadewch i ni gydnabod gwerth dechreuadau newydd.

Darllenydd 3  Mae'r Nadolig yn dathlu genedigaeth Iesu. Mae'r Pasg yn dathlu marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae'r ffydd Gristnogol yn cynnig cyfle o fywyd newydd i bawb sy'n credu yn Iesu. Mae credoau eraill hefyd yn cynnig cyfle o ddechreuad newydd i'r rhai sy'n credu. Beth bynnag sydd wedi bod, mae'n bosib dathlu dechreuad newydd, i adael y gorffennol y tu ôl i ni a chael hyd i fywyd newydd. Gadewch i ni ystyried y posibilrwydd o fywyd newydd. Gadewch i ni gredu bob amser mewn dechreuadau newydd.

Darllenydd 4  Mae rhai dyddiau'n ymddangos yn fwy arwyddocaol na'r gweddill - dyddiau sy'n cynnwys arholiadau a chyfweliadau, a chanlyniadau ac apwyntiadau â'r meddyg, a chyfarfodydd ar siawns  . . .  Gall pob dydd gynnwys digwyddiad sy'n newid bywyd rhywun. Mae pob dydd yn bwysig. Gall pob dydd fod yn ddechreuad newydd. Gadewch i ni agor ein llygaid i'r cyfleoedd sydd o'n hamgylch bob diwrnod o'n bywydau. Gadewch i ni chwilio am fywyd newydd.

Arweinydd  Gwrandewch ar eiriau’r weddi ganlynol, a gwneud y geiriau’n weddi i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am fywyd newydd, dechreuadau newydd, a chyfle i gychwn eto â llechen lân.
Diolch am y bywyd newydd rydyn ni’n ei weld ym mhob man o’n cwmpas ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Diolch am y Pasg a’i ddathliad o fywyd newydd.
Helpa ni i ddathlu bywyd newydd, dechreuadau newydd, a chyfle i ddechrau eto.
Helpa ni i gofleidio dechreuadau newydd.
Helpa ni i weld y cyfleoedd i newid sy’n dod gyda dechreuadau newydd.
Gad i ni ystyried pob dydd fel tudalen newydd, neu lechen lân, fel dechrau newydd.
Os byddwn ni’n gwneud camgymeriadau, gad i ni godi ein hunain a dechrau o’r newydd eto.
Os byddwn ni’n methu, gad i ni ddysgu o hynny a dechrau o’r newydd eto.
Bydded felly.
Amen.

Emyn

Dewiswch un o hoff emynau Pasg eich ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon