Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pam Sant Siôr?

Diwrnod Sant Siôr (23 Ebrill 2014)

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried priodoleddau Sant Siôr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelwedd o faner San Siôr a threfnwch fodd o arddangos y ddelwedd yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint os oes angen).
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân wladgarol Saesneg ‘I vow to thee my country’, neu ‘Jerusalem’, a’r modd o chwarae’r gân rydych chi wedi ei dewis ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Ar 23 Ebrill, mae Lloegr yn dathlu Diwrnod San Siôr (St George’s Day). Siôr yw nawddsant Lloegr, ond nid Sais wedi ei eni yn Lloegr oedd o. Does dim rhaid i sant fod yn enedigol o’r wlad y mae’n nawddsant arni, ond fe ddylai fod yn rhywun sy’n cynrychioli’r wlad. Erbyn hyn mae dathlu Diwrnod San Siôr yn dod yn rhywbeth mwy poblogaidd, gyda phobl yn gwneud gweithgareddau ‘Seisnig’ fel dawnsio Morris, a chwifio baneri Lloegr.

  2. Eto, sut mae Siôr, milwr Rhufeinig wedi ei eni yn y wlad rydyn ni’n ei galw heddiw yn Twrci, yn ‘cynrychioli’ Lloegr a phobl Lloegr? Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am Siôr, ond mae’n cael ei barchu mewn chwedlau fel rhyfelwr pwysig, ac roedd Brenhinoedd Lloegr yn aml yn arddeisyf arno i annog eu milwyr mewn brwydrau. Mae’r dyfyniad adnabyddus canlynol yn dod o un o ddramâu Shakespeare -Henry V(Act 3, Golygfa 1): ‘Follow your spirit; and upon this charge cry “God for Harry, England, and St George!”

    Mae baner San Siôr, croes goch ar gefndir gwyn, wedi parhau’n faner Lloegr am gannoedd o flynyddoedd.

  3. Mae Siôr felly’n nawddsant Lloegr oherwydd ei fod yn cael ei gofio am fod yn ymladdwr enwog, ond hefyd oherwydd traddodiad. Mae’n ddiddorol sylwi bod San Siôr yn nawddsant gwledydd eraill hefyd, sy’n cynnwys Georgia, Groeg a Rwsia. Mae Ffrainc yn mawrygu Jeanne d’Arc. Tybed a yw traddodiad rhyfelgar y gwledydd Ewropeaidd wedi dylanwadu ar eu dewis o nawddseintiau?

  4. Er bod dathlu Diwrnod San Siôr yn dod yn rhywbeth mwy poblogaidd yn Lloegr yn ddiweddar, yn achos y rhan fwyaf o bobl Lloegr mae’n parhau i fod yn ddigon amherthnasol. Mae rhai wedi galw am gael newid y nawddsant, gyda Sant Alban yn un o’r dewisiadau mwyaf poblogaidd. Sant Alban oedd merthyr Cristnogol cyntaf Lloegr, dyn a roddodd ei fywyd er mwyn yr hyn yr oedd yn ei gredu. Er mwyn gwneud San Siôr yn ffigwr mwy perthnasol i lawer o bobl, efallai y gallen ni bwysleisio’r nodweddion eraill llai rhyfelgar y mae’n eu cynrychioli – penderfyniad, gwydnwch a chyfiawnder.

Amser i feddwl

Beth yw eich barn bersonol am hanes San Siôr?

Am beth hoffech chi gael eich cofio – am eich sgiliau rhyfelgar? Neu am eich penderfyniad, gwydnwch a’ch cyfiawnder?

Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

I vow to thee my country’ neu ‘Jerusalem

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon