Beth sydd gan Paul i'w ddweud wrthym?
Ystyried pa mor berthnasol yw athrawiaeth Paul i’n byd modern.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Ystyried pa mor berthnasol yw athrawiaeth Paul i’n byd modern.
Paratoad a Deunyddiau
Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.
Gwasanaeth
- ‘Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun. Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.’
- Cafodd hyn ei ysgrifennu gan Paul tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, ond rwy'n credu fod ganddo rywbeth o ddifrif i'w ddweud wrthym heddiw. Gadewch i ni ei dorri i lawr a gweld sut y mae modd i ni gymhwyso'r ddysgeidiaeth hon i fywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a gweld a oes modd i ni ganfod rhywbeth i'w ddefnyddio yn ein bywydau heddiw.
- Gadewch i ni feddwl am yr ymadrodd ‘cymhellion hunanol’ yn y dyfyniad gan Paul. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn datgan bod uchelgais yn anghywir - mae'n iawn bod yn uchelgeisiol, i gael nodau, amcanion a breuddwydion yr ydych yn dymuno cyrraedd atyn nhw. Os yw'r uchelgeisiau hynny'n deillio o fod wedi bod yn hunanol, fodd bynnag - hynny yw, eich bod wedi gosod eich hun o flaen pawb arall, rydych wedi sathru ar eraill i gael yr hyn yr ydych yn ei ddeisyfu - yna fydd hynny ddim yn iawn. Gadewch i ni ddweud, er enghraifft, eich bod yn deisyfu o ddifrif chwarae'r brif ran yn nrama'r ysgol, a'ch bod yn gwybod bod eich ffrind eisiau mynd amdani, hefyd. Mae gennych ryw led amheuaeth y gall hi fod yn well na chi, felly rydych yn rhoi'r dyddiadau anghywir iddi ar gyfer y clyweliad. Mae hi'n colli'r cyfle a chi sy'n cael y rhan.
- Mae Paul yn sôn hefyd am hunan-dyb. Mae hwn yn bwynt diddorol oherwydd nid wyf yn hollol sicr ein bod yn defnyddio'r gair hwnnw’n aml y dyddiau hyn, o leiaf nid wyf i'n ei glywed. Rydym, fodd bynnag, yn clywed ei gyfystyron: egöistig, hunan-ganolog, hunanlesol. Yng nghyd-destun y ddrama, gall hyn olygu eich bod yn dangos eich hun o flaen eich ffrind oherwydd eich bod yn credu y gallech chi fod yn well na hi.
- Wedyn mae Paul yn dweud, ‘mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun’. Nid yw hun yn datgan y dylech chi roi eraill yn gyntaf bob amser; mae'n dweud os oes gennych chi alluoedd a doniau eich hun, ond yn ymwybodol bod rhywun yn well na chi wrth wneud rhywbeth, yna dylech roi llwyfan iddo ef neu hi a rhoi'r cyfle iddo ef neu hi ddisgleirio. Felly, wrth ddychwelyd at ddrama'r ysgol, fe ddylech ddweud y gwir am ddyddiadau’r clyweliad a gadael i'r person mwyaf cymwys chwarae'r rhan. Mae'n ymwneud â gostyngeiddrwydd; am fod yn ostyngedig a chydnabod bod gan bobl eraill ddoniau nad ydyn nhw gennym ni efallai, ac y daw ein hamser ni i ddisgleirio eto, ond nid o reidrwydd ar y foment benodol honno.
- Trwy weld disgleirdeb pobl eraill, rydym yn cydnabod eu diddordebau, gan roi o'r neilltu ein hunanoldeb. Mae'n fater o weld nad yw'r ‘hyn rwyf i ei angen’ o reidrwydd yr hyn sydd orau yn gyffredinol, i bobl eraill neu yn yr hir dymor.
Amser i feddwl
Felly, efallai heddiw, ceisiwch beidio â rhoi eich hun yn gyntaf. Gall hyn olygu'n syml ddal drws yn agored i rywun arall neu neilltuo amser i wrando ar ffrind sydd bob amser yn gwrando arnoch chi, neu helpu gartref yn hytrach na gadael popeth i'ch mam a'ch tad eu gwneud.
Gadewch i ni hefyd feddwl am y modd y gallwn geisio gweld eich lle chi yn y darlun mawr, gan gymryd i ystyriaeth bawb, ynghyd â'u doniau a'u hanghenion,yn hytrach na gosod ein hun yn gyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.