Y cryfder i fod un wahanol, y dewrder i fod yn chi eich hun
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Myfyrio ar y newyddion diweddaraf am enwogion byd chwaraeon yn cyhoeddi eu bod yn hoyw.
Paratoad a Deunyddiau
- Darllenwch neu gwyliwch rai o’r adroddiadau newyddion am enwogion byd chwaraeon sydd wedi cyhoeddi eu bod yn hoyw neu mewn perthynas unrhyw. Er enghraifft:
- Casey Stoney, amddiffynwraig tîm pêl-droed merched Arsenal a Chapten Lloegr, ar: www.bbc.co.uk/sport/0/football/26084748
- Tom Daley, deifiwr Olympaidd, ar: www.bbc.co.uk/news/uk-england-devon-25183041
- Jason Collins, chwaraewr pêl-fasged Americanaidd, ar: www.bbc.co.uk/news/world-europe-26318063 - Nodwch y gall myfyrwyr fod yn ansicr ynghylch eu rhywioldeb eu hunain, felly mae angen bod yn sensitif wrth gyflwyno’r deunydd hwn. Os yw hynny’n bosib, gofalwch bod modd trefnu mynediad i fyfyrwyr at gyngor a chwnsela os bydd angen. Mae’r undeb athrawon NUT wedi cynhyrchu dogfen ddefnyddiol ar gyfer athrawon ynghylch y materion sy’n codi yn y gwasanaeth hwn, ac mae i’w chael ar: www.teachers.org.uk/files/AntiHomophobic-6326_0.pdf
Gwasanaeth
- Cyfeiriwch at adroddiadau newyddion am bobl enwog o fyd chwaraeon sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n hoyw, neu mewn perthynas neu bartneriaeth unrhyw, fel y rhai sy’n cael eu rhestru yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’, yn cynnwys Casey Stoney, amddiffynwraig tîm pêl-droed merched Arsenal a Chapten Lloegr, y deifiwr Olympaidd Tom Daley, a Jason Collins, chwaraewr pêl-fasged Americanaidd.
Darllenwch y dyfyniadau canlynol.
Casey Stoney:
For the last ten years, I've always cared too much what other people think. I was frightened of the stereotypes, frightened of being judged, frightened of what other people might say . . .
Tom Daley:
I mean, I'm still Tom, I still want to win an Olympic gold medal in Rio 2016 for Great Britain. I am still as motivated as ever to do that.
Fe gysylltodd yr Arlywydd Obama â Jason Collins i ddweud wrtho fod ei araith wedi cael argraff arno - roedd yr Arlywydd yn ‘impressed by his courage’. - Dywedwch fod pob un o’r enwogion hyn o fyd chwaraeon wedi gwneud penderfyniad personol dewr iawn i fynegi hyn yn onest mewn maes lle nad yw’n draddodiadol i fod yn oddefgar o ddynion a merched hoyw. Roedd angen dewrder oherwydd fe fydden nhw wedi bod yn bryderus iawn ynghylch sut y byddai cyhoeddiad o’r fath yn effeithio ar eu gyrfa, ac ar eu perthynas â’u cydweithwyr. Hefyd, ynghylch sut y bydden nhw’n cael eu trin gan y wasg, a sut y byddai pobl angharedig yn ymateb, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Dangoswch nad cyhoeddi peth fel hyn yw’r unig beth sy’n galw am y math hwn o ddewrder. Mae bod yn wahanol mewn unrhyw ffordd yn heriol, yn enwedig mewn amgylchedd fel amgylchedd ysgol, er enghraifft, lle gallai fod yn anodd arddel crefydd neilltuol neu safbwynt gwleidyddol os nad yw’r mwyafrif yn rhannu’r un safbwyntiau.
Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â’r pryder o deimlo eu bod yn wahanol i’r mwyafrif o bobl sydd o’u cwmpas, ac efallai nad yw hynny’n rhywbeth o’u dewis nhw eu hunain ychwaith. Yn anffodus, gall y rhai sy’n hoyw brofi rhagfarn yr un mor ddifrifol ag y mae rhai o leiafrifoedd ethnig neu o ddiwylliant lleiafrifol yn ei brofi mewn unrhyw grwp, fel mewn ysgol er enghraifft. Dyna pam y mae’r bobl enwog hyn o fyd chwaraeon yn haeddu’r math o ganmoliaeth a roddwyd i Jason Collins gan yr Arlywydd Obama ac eraill tebyg iddo. Maen nhw wedi bod yn barod i fod yn falch o’u gwahaniaeth, waeth beth mae rhai pobl eraill yn ei feddwl.
Amser i feddwl
Sut gallwn ni adeiladu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi pob unigolyn yn gyfartal, ac yn rhoi cyfle i bawb fod yn rhydd o ofn rhagfarn, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, ac i fod yn falch o bwy ydyn nhw?
Sut gallwn ni adlewyrchu hyn yn ein bywyd yng nghymuned yr ysgol?
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.