Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Canllaw ar gyfer bywyd

Dod o hyd i ganllawiau ar gyfer bywyd

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dod o hyd i rai canllawiau ar gyfer byw ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Llwythwch i lawr, a threfnwch ffordd o ddangos, y clip fideo Truetube byr Alien Abduction: Islam: www.truetube.co.uk/film/alien-abduction-islam yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 5.48 munud.
  • Dewiswch gerddoriaeth fyfyriol, gan Enya efallai, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Darllenydd 1  Beth sy’n bod arnat ti? Mae golwg ddiflas iawn arnat ti.

Darllenydd 2  Na. Dydw i ddim yn teimlo’n ddiflas, teimlo’n ddryslyd yn fwy na dim, mewn gwirionedd. Mae’n ymddangos fel pe byddai cymaint o waith penderfynu i’w wneud. Pob munud o bob awr o bob dydd, mae rhywbeth i’w benderfynu. Ambell dro, mae’n ddigon amlwg beth yw’r peth gorau i’w wneud mewn sefyllfa neilltuol, ond yn aml mae’n anodd gwybod pa un yw’r llwybr gorau i’w ddilyn. Fe fyddai’n dda gen i pe byddai gen i ryw fath o ganllawiau neu lawlyfr ar gyfer bywyd.

Darllenydd 1  Rydw i’n gwybod yn iawn beth wyt ti’n ei feddwl. Mae fy chwaer yn adolygu ar gyfer arholiad theori ei phrawf gyrru ar hyn o bryd, ac rydw i’n gorfod ei holi am Reolau’r Ffordd Fawr. Fe fyddai’n dda cael rhyw fath o Reolau Ffordd Fawr ar gyfer sut i deithio trwy ein bywyd.

Darllenydd 2  Byddai, fe fyddwn i’n prynu’r llyfr hwnnw ar unwaith. Ydych chi wedi bod yn astudio hanes Muhammad yn y gwersi Addysg Grefyddol? Dyna beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar. Pan oedd Muhammad yn 40 oed, roedd mewn ogof, yn gofyn yr un math o gwestiynau ag yr ydw i’n eu gofyn ar hyn o bryd.  Beth yw ystyr bywyd? Beth sy’n digwydd? Sut y gallaf fyw yn y ffordd orau?

Darllenydd 1  O! A sut daeth Muhammad o hyd i’w atebion? Yn ôl yn yr amser hwnnw doedd dim sôn am y fath beth â Google, na dim byd felly.

Darllenydd 2  Fe anfonodd Duw yr Archangel Jibra’il at Muhammad i ddangos iddo sut i oleuo pobl eraill ynghylch sut i fyw bywyd gwell. Does dim llawer o debygolrwydd y byddai hynny’n digwydd i ni!

Darllenydd 1  Nag oes, mae’n debyg! Fe fyddwn i’n dychryn am fy mywyd pe byddwn i’n gweld angel. Felly, a wnaeth Muhammad lunio rhyw fath o Reolau Ffordd Fawr ar gyfer bywyd?

Darllenydd 2  Do i raddau. Mae Mwslimiaid heddiw’n dal i ddilyn ei athrawiaethau. Ond dydw i ddim yn hollol siwr beth yw’r athrawiaethau hynny, ychwaith.

Arweinydd  Mae (dywedwch enw Darllenydd 2) yn iawn, wyddoch chi. Mae pobl sy’n dilyn crefydd neilltuol yn aml yn gweld bod dilyn y canllawiau, sydd wedi eu gosod gan eu proffwydi a’u harweinwyr, yn beth defnyddiol iawn. Dyw’r dyn sydd i’w weld yn y clip fideo, y byddaf yn ei chwarae i chi mewn munud, ddim yn eithriad. Mwslim yw Ajmal Masroor. Mae’n dilyn crefydd Islam, crefydd sydd â’i gwreiddiau yn athrawiaethau’r proffwyd Muhammad. Edrychwch ar y fideo, a cheisiwch weld pa ganllawiau y gallwch chi eu canfod ar gyfer bywyd.

Dangoswch y fideo Truetube, Alien Abduction: Islam.

Arweinydd  Felly, ydych chi’n meddwl fod Ajmal yn byw yn ôl rhyw fath o ganllawiau?

Darllenydd 1  Ydw, fe nododd sawl canllaw, yn wir. Mae’n amlwg bod ganddo syniadau pendant ynghylch sut dylai bodau dynol ymddwyn. Yn ei achos ef, mae’n bwysig bwyta bwyd halal, gwisgo’n weddus, gweddïo pum gwaith y dydd, ymprydio yn ystod mis Ramadan, gwneud pererindod yr Hajj unwaith mewn bywyd, rhoi arian i elusen, ac eillio pen babi bach ar ôl iddo gael ei eni. Ew! Fe wnes i’n dda i gofio’r holl bethau hyn i gyd, ’ndo? Ond, dydw i ddim yn Fwslim, felly dydi’r canllawiau hyn ddim yn golygu llawer i mi.

Darllenydd 2  Na, ond efallai mai dyna’r ffordd mae Mwslimiaid yn dewis byw yn ôl dau ganllaw mwy sylfaenol.

Darllenydd 1  Beth yw’r ddau ganllaw mwy sylfaenol?

Darllenydd 2  Byddwch yn dda i Dduw ac yn dda wrth eraill. Datblygwch berthynas dda â Duw. Byddwch yn ymwybodol o’i bresenoldeb o’ch cwmpas ym mhob man. Byddwch yn weddus gyda’ch cyd fodau dynol. Byddwch yn garedig, rhannwch a gofalwch. Mae’r holl ganllawiau eraill yn deillio o’r ddau beth yma - byddwch yn dda i Dduw ac yn dda wrth eraill.

Darllenydd 1  Fe alla i weld hynny. Mae yn symleiddio’r canllawiau ar gyfer bywyd y fawr iawn, ond beth os nad ydw i’n credu mewn Duw?

Darllenydd 2  Wel, ar gyfer yr holl bobl sydd fel ti, efallai, ddim yn credu mewn Duw, fe fyddwn i’n dweud wrthyn nhw y gallech chi ddal i ddewis byw yn ôl ail ran y canllaw hwn. Fe allech chi ddal i ddewis bod yn garedig, yn rhannu ac yn gofalu. Dychmygwch lle cymaint gwell a fyddai’r byd wedyn!

Arweinydd  Rydych chi eich dau yn amlwg yn rhoi llawer o ystyriaeth i hyn. Mae dilyn crefydd yn helpu llawer o bobl i gael canllawiau ar gyfer eu bywyd. Fel mae (dywedwch enw Darllenydd 2) yn dweud, fe allwch chi ddatblygu canllaw syml ar gyfer eich bywyd, waeth beth fo eich crefydd.

Amser i feddwl

Wrth i ni ddod â’r gwasanaeth hwn i ben, gadwech i ni ganolbwyntio ar y canllaw syml olaf hwn - i fod yn garedig a rhannu a gofalu.

Gadewch i ni feddwl am y ffordd y byddwn ni’n defnyddio ein hamser. Ydyn ni’n fodlon rhoi ein hamser i wrando ar eraill?
Boed i ni fod yn garedig, a rhannu a gofalu.

Gadewch i ni feddwl am sut rydyn ni’n treulio ein hieuenctid. Ydyn ni’n gwneud y gorau i’n hiechyd, ein hegni a’n bywiogrwydd?
Boed i ni fod yn garedig, a rhannu a gofalu.

Gadewch i ni feddwl am yr arian a’r eiddo sydd gennym. Ydyn ni’n barod i rannu ag eraill?
Boed i ni fod yn garedig, a rhannu a gofalu.

Gadewch i ni feddwl am ein teuluoedd, ein ffrindiau, a phawb sy’n ofalgar yn ein cylch. Fyddwn ni’n dweud wrthyn nhw weithiau, neu’n dangos iddyn nhw weithiau, ein bod ninnau’n gwerthfawrogi’r hyn ydyn nhw i ni a’r cyfan maen nhw’n ei wneud i ni?
Boed i ni fod yn garedig, a rhannu a gofalu.

Gadewch i ni feddwl am ein sgiliau a’n doniau. Ydyn ni’n defnyddio’r doniau sydd wedi cael eu rhoi i ni, er mwyn eraill?
Boed i ni fod yn garedig, a rhannu a gofalu.

Diolch i chi am wrando ar neges y gwasanaeth heddiw. Gobeithio eich bod wedi gweld yr ymdriniaeth yn ddefnyddiol. Mae’n gallu bod yn anodd teithio ar hyd llwybrau bywyd pan fydd cymaint o awgrymiadau i’w cael ar sut i ymdopi. Mae’n gallu peri dryswch, yn achosi rhwystredigaeth, ac ar brydiau’n gallu bod yn ddigon brawychus.

Gobeithio eich bod wedi cael eich annog heddiw i ystyried sut i ddarganfod eich canllaw eich hunan ar gyfer bywyd. Waeth pa ganllawiau y byddwch yn eu dewis ar gyfer byw, pe byddem ni i gyd yn fwy caredig ac yn fwy parod i rannu a gofalu, fe fyddai’r byd yn sicr yn well lle i fyw ynddo. Does dim dwywaith am hynny.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Chwaraewch y gerddoriaeth fyfyriol o’ch dewis

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon