Pwy yw'r arwyr?
Arwriaeth eithafol
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio syniad y myfyrwyr o beth yw ystyr bod yn arwrol, gan ddefnyddio Edith Cavell fel esiampl.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd, a ddylai fod yn gymeriadau sy’n fodlon siarad yn blaen ac yn barod i gymryd rhan sy’n gwrthwynebu adroddiad yr arweinydd.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Heroes’ gan David Bowie i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
Gwasanaeth
Arweinydd All unrhyw un ohonoch ddangos llun o'r Frenhines i mi?
Disgwyliwch am ymateb. Bydd myfyriwr neu aelod o'r staff yn y pen draw yn meddwl dangos darn o arian gyda delwedd o'r Frenhines ar un ochr iddo.
Mae'r delweddau ar un ochr o ddarnau arian sterling yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Er mwyn cofio, ym mis Awst eleni, ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, mae'r Bathdy Brenhinol wedi penderfynu bathu darnau arian gwerth £2 gyda'r ddelwedd enwog o'r poster o Arglwydd Kitchener yn pwyntio bys at y sawl sy'n edrych arno, gyda'r geiriau enwog, ‘Your country needs you’. Cafodd y poster ei lunio i annog dynion ifanc i 'listio' er mwyn ymladd yn erbyn y gelyn Almaenig.
Mae'r cynnig hwn wedi codi gwrthwynebiad sylweddol. Pam? Oherwydd bod llawer o bobl yn gweld delwedd Kitchener fel symbol o’r hyn oedd o'i le yn y modd roedd dynion Prydain yn cael eu harwain mor ddiniwed i'w marwolaeth dan ddiwyg gwladgarwch.
Darllenydd 1 Iawn, wrth edrych yn ôl, mae'n hawdd gweld y camgymeriadau a wnaethpwyd. Roedd Kitchener yn darged hawdd, ond delwedd pwy y gellid bod wedi ei ddefnyddio i symboleiddio dewrder pobl Prydain yn ystod y rhyfel?
Arweinydd Wel, cafodd deiseb ei hanfon at y Bathdy Brenhinol yn awgrymu, yn lle'r Arglwydd Kitchener, y dylem gael darlun o Edith Cavell ar y darn arian.
Darllenydd 2 Edith Cavell? Pwy yw hi? Chlywais i erioed amdani. Pam mae hi mor arwyddocaol?
Arweinydd Gadewch i mi sôn wrthych chi amdani. Mae hi'n ffigur pwysig mewn hanes oherwydd, yn y flwyddyn 1907, cafodd ei rhoi yng ngofal ysgol hyfforddi arloesol i ferched i hyfforddi fel nyrsys ym Mrwsel, Gwlad Belg. Roedd yn ffeminyddes ac roedd yn annog merched, yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif - pan oedd yn anghyffredin iawn - i weld bod gweithio fel nyrs yn opsiwn ar gyfer gyrfa.
Darllenydd 1 Felly, beth sydd gan hyn ei wneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf?
Arweinydd Yn eironig, yn haf y flwyddyn 1914, roedd Edith wedi teithio adref i Swydd Norfolk i ymweld â'i mam. Pan glywodd fod cyhoeddi'r rhyfel wedi digwydd ym mis Awst, fe benderfynodd ddychwelyd i Wlad Belg.
Darllenydd 2 Mae hynny'n swnio braidd yn wallgof, gan fod byddin yr Almaen yn symud ymlaen at Wlad Belg.
Arweinydd Honnir iddi ddweud, ‘Ar amser fel hyn, mae fy angen i yn fwy nag erioed.’ Roedd hi’n llygad ei lle. Fe ddaeth yr ysgol nyrsio yn ganolfan i ofalu am rai oedd wedi eu hanafu. Yr hyn oedd yn ei gwneud yn anghyffredin oedd, trwy fod yn ganolfan y Groes Goch, roedd y milwyr a oedd wedi eu hanafu yn cael eu trin yn gyfartal, heb ystyried cenedligrwydd. Felly, roedd milwyr o'r Almaen a milwyr y Cynghreiriaid yn derbyn triniaeth ar y cyd yno.
Darllenydd 1 Fedra'i ddim gweld hynny yn ei gwneud hi'n boblogaidd gyda'r naill ochr na'r llall. Beth ddigwyddodd pan feddiannodd yr Almaenwyr y ddinas ychydig wythnosau'n ddiweddarach?
Arweinydd Fe wnaethon nhw feddiannu'r ysbyty ar gyfer eu milwyr anafedig eu hunain ac anfon 60 o nyrsys Seisnig adref. Dim ond Edith Cavell a'i dirprwy, Miss Willis, arhosodd ar ôl.
Darllenydd 2 Felly, fe fethodd hi'r ail gyfle i osgoi'r sefyllfa. A wnaeth hi barhau i weithredu'n ddiduedd, neu a orfodwyd hi i weithio'n unig gyda'r Almaenwyr oedd wedi eu clwyfo, sef y gelyn?
Arweinydd Nid oedd modd iddi beidio â bod yn ymglymedig. Roedd milwyr y Cynghreiriaid, a oedd wedi eu dal heb fodd o ddianc o Ffrainc a Gwlad Belg, yn canfod ffordd i ddod ati. Fel aelod o'r Groes Goch, roedd Edith yn teimlo rheidrwydd i'w helpu Felly, fe drefnodd hi lwybr cyfrin a, thrwy hwnnw, fe wnaeth tua 200 o filwyr y Cynghreiriad ddarganfod ffordd yn ôl i Brydain. Fe barhaodd hynny tan fis Gorffennaf 1915, pan gafodd ei harestio.
Darllenydd 1 Rwy'n cymryd ei bod hi wedi ymwrthod â phob ymdrech i gael gwybod beth oedd hi wedi ei wneud, fel aelod dewr o'r Fyddin Gêl.
Arweinydd Na. Roedd hi mor onest, roedd hi'n mynnu dweud y gwir. Fe wnaeth hi hyd yn oed lofnodi cyfaddefiad llawn. Nid oedd gan yr Almaenwyr ddewis ond ei dienyddio am droseddau yn erbyn eu gwlad. Roedd hi wedi cynorthwyo'r gelyn.
Darllenydd 1 a 2 gyda'i gilydd O!
Amser i feddwl
Nid yw Edith Cavell yn ffigur arwrol ystrydebol. Fe gamodd i mewn i sefyllfa beryglus, ac yn ei diniweidrwydd fe wnaeth hi drin pawb yn gyfartal. Doedd hi ddim yn gallu twyllo, ac ni wnaeth unrhyw beth i ofalu am ei diogelwch ei hun. Y cyfan a wnaeth oedd gofalu am y rhai oedd wedi eu hanafu. Fel merch ym myd dynion, fe wnaeth y gorau o fewn ei gallu, sef gweinyddu fel nyrs ar gyfer y clwyfedigion a'r cleifion.
Pwy yw'r arwyr? Ai ffigurau grymus ydyn nhw sy'n gwrthsefyll pob gwrthwynebiad, sy'n herio grymoedd anghywir, sy'n ymladd dros gyfartaledd a chyfiawnder? Gall y math yma o bobl fod yn ysbrydoliaeth fawr i ni, ond mae ein hymdrechion i wneud rhywbeth yn debyg i'w campau nhw yn aml yn ymddangos yn bitw mewn cymhariaeth.
Roedd Edith Cavell yn arwrol mewn modd oedd yn fwy cyffredinol na'r arfer. Roedd hi'n gwybod am yr hyn yr oedd yn gallu ei wneud, ac aeth ati'n syml i barhau i wneud hynny mewn sefyllfa lle gallai gael yr effaith fwyaf. Fe wnaeth hi nyrsio pobl oedd wedi eu clwyfo, felly roedd hi'n amlwg y byddai'n agos at yr ymladd. Roedd Almaenwr clwyfedig a milwr clwyfedig o ochr y Cynghreiriad yn teimlo poen yn yr un modd, felly roedd y naill a'r llall yn haeddu derbyn yr un driniaeth. Hynny oedd yn dangos ei harwriaeth.
Beth yw eich galluoedd a'ch cryfderau personol chi? Dydyn nhw ddim o reidrwydd yn ymddangos yn llawer, ond beth fyddai'n arwrol yw pe byddech chi'n gallu eu defnyddio'n rheolaidd er budd pobl eraill, i fynd â nhw lle mae eu hangen a pheidio ag ildio i bwysau barnedigaethau'r bobl sydd o'ch cwmpas.
Pe bydden ni'n cael llun o Edith Cavell ar ein darn arian £2, efallai y byddai'n ysbrydoliaeth fwy perthnasol ddydd wrth ddydd nag unrhyw arweinydd o gyfnod y rhyfel.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am bobl gyffredin sy’n gwneud yr hyn sydd o fewn eu gallu o ddydd i ddydd,
yn gofalu,
yn cefnogi,
yn mentora,
yn annog,
ac yn bod yn gyfaill.
Boed i ni fod yn arwyr cyffredin.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol
‘Heroes’ gan David Bowie