Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathliad pen-blwydd

Pentecost

gan the Revd John Challis

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Rhoi eglurhad syml am y Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os bydd hynny’n bosib, ceisiwch fenthyca, casul coch / neu stola goch (efallai y byddai eich eglwys leol yn fodlon rhoi benthyg y naill neu’r llall, neu’r ddau beth i chi).
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen teisen pen-blwydd, canhwyllau a matsis.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch un o’r myfyrwyr atoch chi i wisgo’r casul a’r/ neu’r stola. Dywedwch nad yw’r dillad neilltuol hyn yn cael eu gwisgo’n aml yn yr eglwys, ond mae un adeg neilltuol pan fyddan nhw’n cael eu gwisgo.

  2. Yna dangoswch y deisen pen-blwydd, a gofynnwch oes rhywun yn gallu dyfalu am ba adeg o’r flwyddyn rydych chi’n meddwl.

    Disgwyliwch ateb tebyg i ben-blwydd Iesu, a rhywfaint o chwerthin efallai pan ddywedwch chi mai Dydd Nadolig yw dydd pen-blwydd Iesu, ond peidiwch â bod yn rhy galed ar y rhai sy’n cynnig atebion i chi!

  3. Dewch â’r canhwyllau i’r golwg a’u gosod ar y deisen pen-blwydd. Holwch eto, ‘Am ba adeg o’r flwyddyn rydw i’n meddwl?’

  4. Goleuwch y canhwyllau. Holwch eto, ‘Am ba adeg o’r flwyddyn rydw i’n meddwl?’

  5. Y tro hwn, gofynnwch i’r myfyriwr sy’n gwisgo’r casul/ stola chwythu’r canhwyllau, a derbyniwch rai o gynigion y myfyrwyr eraill i ateb eich cwestiwn. Efallai y bydd rhai yn gwybod yr ateb rydych chi’n ceisio’i gael, efallai na fydd rhai eraill yn gwybod.

  6. Eglurwch mai’r Pentecost oedd yr adeg pan ddaeth yr Ysbryd Glân ar ddisgyblion Iesu, a hynny ar ffurf tân a gwynt. Dyna pam y mae’r canhwyllau sydd gennych chi’n cynrychioli’r tân, a’r weithred o’u chwythu’n cynrychioli’r gwynt. Coch yw’r lliw litwrgaidd y mae’r eglwysi’n ei ddefnyddio’n aml ar gyfer y Pentecost, ac mae’n adeg mor arbennig yng nghalendr yr eglwys fel ein bod yn meddwl am yr adeg hon fel pen-blwydd yr eglwys, a dyna beth mae’r deisen yn ei gynrychioli.

  7. Efallai y gallech chi ganu ‘Pen-blwydd hapus’ i’r Eglwys!

Emyn

Meddyliwch pa mor hapus fyddwn ni ar ddydd ein pen-blwydd . . .

Nawr, gadewch i ni fod yn hapus ynghylch hyn, sef pen-blwydd yr Eglwys!

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon