Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewrder argyhoeddiad

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod â dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod â dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bwrdd gwyn a phinnau ffelt, gydag enwau'r saith unigolyn a’r disgrifiadau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 3 y gwasanaeth hwn, wedi eu hysgrifennu ar y bwrdd gwyn. Newidiwch drefn y disgrifiadau fel nad ydyn nhw gyferbyn ag enw’r unigolyn maen nhw’n eu disgrifio.
  • Fe fydd arnoch chi angen saith myfyriwr i ddarllen y disgrifiadau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 3. Fe allwch chi baratoi’r myfyrwyr hyn o flaen llaw neu eu dewis yn y gwasanaeth ar y diwrnod.
  • Chwiliwch am ddelwedd o Malala Yousafzai, a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Er mwyn cael stori Malala, ewch i’r wefan: www.bbc.co.uk/news/magazine-24379018
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Stand up for your rights’ gan Bob Marley, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Ysgrifennwch y gair ‘dewrder’ ar y bwrdd gwyn.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr i awgrymu gweithredoedd dewr sy'n dod i'w cof ac enwau pobl ddewr.
  2. Mae ‘dewrder’ yn air sydd hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhai hynny sydd wedi goresgyn anawsterau dwys, treialon a gofidiau. Gall hefyd cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhai hynny sydd wedi rhoi eraill o’u blaen eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus.

    Un diffiniad posib ohono yw: 

    ansawdd y meddwl a'r ysbryd sy'n galluogi unigolyn i wynebu anhawster, perygl a phoen.
  3. Ysgrifennwch y geiriau ‘dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun’ ar y bwrdd gwyn.

    Gall hyn olygu, ‘Gallaf wneud hyn!’, ‘Fe wnaf hyn!’, ‘Nid yw hyn yn gywir a chyfiawn. Rhaid i mi wneud rhywbeth yn ei gylch.’

  4. Enghraifft dda o hyn allai fod y penderfyniad a’r gred sy'n perthyn i'r cymeriad sy'n cael ei bortreadu gan Sandra Bullock yn y ffilm Gravity, y byddai hi'n dychwelyd i'r Ddaear.

    Un arall fyddai penderfyniad Eric Liddell fel Cristion i beidio â rhedeg yn y rhagras i ennill lle ar gyfer y teitl 100 metr Olympaidd yn y ffilm Chariots of Fire oherwydd eu bod yn cael eu cynnal ar y Sul, a oedd iddo ef yn ddiwrnod o addoli a gorffwys.

  5. Diffiniad posibl arall yw:

    i weithredu yn unol â’n credoau ein hunain, yn arbennig er gwaethaf beirniadaeth, a bod yn ddigon dewr i wneud yr hyn yr ydych yn meddwl sy'n iawn, heb ystyried unrhyw bwysau arnoch chi i wneud rhywbeth gwahanol.

  6. Ystyriwch rhai pobl sydd yn enwog am fod yn ddewr dros eu hargyhoeddiadau.

    Os ydych wedi dilyn y cyfarwyddyd yn y rhan ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod, byddwch eisoes wedi ysgrifennu enwau'r saith o bobl sy'n dilyn a'r disgrifiadau ar y bwrdd gwyn. Byddwch wedi newid trefn y disgrifiadau fel nad ydyn nhw bellach yn y drefn gywir.

    Darllenwch yr enwau, oherwydd efallai nad yw pob myfyriwr yn gyfarwydd â nhw, yna gofynnwch i saith myfyriwr ddarllen y disgrifiadau i bawb, un ar y tro. Gofynnwch i'r myfyrwyr ddyfalu a dweud bob tro pa berson sy'n cael ei ddisgrifio.

    Nelson Mandela  ‘Rwyf wedi anwylo'r ddelfryd o gymdeithas rydd a democrataidd lle mae pob person yn byw ynghyd mewn harmoni gyda chyfleoedd cyfartal.’

    Dietrich Bonhoeffer  Gwrthwynebodd y gyfundrefn Natsïaidd yn yr Almaen, y rhaglen ewthanasia, ac erledigaeth yr Iddewon.

    Emily Pankhurst  Swffragét a arweiniodd ymgyrchoedd o anufudd-dod sifil yn erbyn system wleidyddol oedd yn cael ei thra-arglwyddiaethu gan ddynion.

    Rosa Parks  Actifydd iawnderau sifil Americanaidd a ddechreuodd y boicot bws yn Montgomery trwy wrthod ildio ei sedd i berson gwyn.

    William Wilberforce  Ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth, ac roedd yn gyfrifol am lunio'r Bil Diddymu Caethwasiaeth 1833, a ddaeth yn ddeddf yn y flwyddyn ganlynol.

    Aung San Suu Kyi  Arweinydd yr wrthblaid yn Burma.

    Mahatma Gandhi  Gwleidydd o India a ymdrechodd i sicrhau annibyniaeth i India trwy brotestiadau di-drais.

    Roedd y cyfan o'r bobl hyn yn meddu ar ddewrder ynghylch eu hargyhoeddiadau. Fe wnaethon nhw rywbeth i newid pethau yr oedden nhw'n credu oedd ddim yn iawn.

    Ystyriwch yr hyn a gostiodd iddyn nhw i wneud hyn.

    Nelson Mandela                     fe'i carcharwyd am 27 mlynedd

    Dietrich Bonhoeffer                fe'i dienyddiwyd

    Emily Pankhurst                     fe'i carcharwyd hi droeon

    Rosa Parks                            fe'i carcharwyd

    William Wilberforce               fe wynebodd flynyddoedd o wrthwynebiad ac atalfeydd cyson

    Aung San Suu Kyi                 fe'i cadwyd yn gaeth gartref am flynyddoedd

    Mahatma Gandhi                   fe'i carcharwyd, treuliodd gyfnodau hir o ymprydio, a chafodd ei lofruddio.

    Yr hyn yr oedden nhw'n credu ynddo achosodd iddyn nhw weithredu. Fe ddaeth eu hargyhoeddiadau yn waith bywyd iddyn nhw. Fe gostiodd lawer i fod mor ddewr, hyd yn oed at farwolaeth.
  7. Fe allai'r myfyrwyr feddwl fod yr holl bobl hyn yn alluog, yn bobl enwog, ac felly yr oedd yn bosib iddyn nhw wneud rhywbeth, ac roedden nhw’n bobl â dylanwad.

    Dangoswch y ddelwedd o Malala Yousafzai.

    Merch ysgol o Bacistan yn unig yw hi, ond mae ganddi'r dewrder i ymgyrchu dros yr hawl i addysg. Eglurwch beth y mae hyn wedi ei gostio iddi eisoes – sef ei bod wedi ei saethu yn ei phen gan y Taliban a bu bron iddi golli ei bywyd ar ôl iddi herio'u bygythiadau y byddai'r rhai fyddai'n dadlau yn eu herbyn yn cael eu cosbi.

Amser i feddwl

Am beth y mae gennych chi deimladau cryf?

Gall fod yn ffydd, gall fod yn anghyfiawnder a thlodi yn y byd, gall fod yn rhywbeth sy'n digwydd yn agos atoch sydd yn annheg neu'n anghyfiawn.

Sut beth fyddai cael dewrder dros eich argyhoeddiadau i wneud rhywbeth yn eu cylch?

Efallai y gall fod yn rhywbeth syml fel dweud, ‘Na, dydw'i ddim eisiau ysmygu’ neu ‘Na, fydda i ddim yn ymuno â'ch bwlio’, ‘Na, dydw i ddim eisiau chwarae o gwmpas, dw'i eisiau astudio a gwneud fy ngorau yn yr ysgol’ neu ‘Na, fe wnaf yn union fel mae fy rhieni'n ei ofyn, a dangos parch atyn nhw’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Nid yw sefyll yn gadarn dros yr hyn a gredwn ynddo fyth yn hawdd. Mae'n golygu dewrder mawr ac ychydig o ddewrder sydd gan lawer ohonom.
Diolch i ti am y bobl niferus dros y byd i gyd sydd wedi derbyn yr her o weithredu dros yr hyn y maen nhw'n credu ynddo a bod yn barod hyd yn oed i roi eu bywydau dros y materion hynny y maen nhw'n credu ynddyn nhw.
Rydym yn gwerthfawrogi'r manteision y mae eu dewrder wedi ei ddwyn i lawer o fywydau.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Stand up for your rights’ gan Bob Marley

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon