Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Brasil: gwlad o ddau hanner

Cost uchelgais

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio gornest Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd i archwilio’r synnwyr o uchelgais bersonol y myfyrwyr o fewn eu cymuned.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Harvest for the world’ gan y Christians, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd   Pwy sy'n mynd i ennill Cwpan y Byd? Ai Lloegr? Annhebygol, o wybod am gryfder y gwrthwynebwyr. Efallai mai Sbaen neu’r Almaen, y cewri o Ewrop aiff â hi . . .  neu'r Ariannin. Mae'n bosib hyd yn oed y gall un o wledydd Affrica ennill am y tro cyntaf. Ond, mae'r arian mawr, fodd bynnag, ar y gwestywr, Brasil.

    Mae Brasil, fel gwlad, wedi ffoli ar bêl-droed. Caiff y gêm ei chwarae ymhob man yno, ac nid yw'n syndod bod hyn wedi cynhyrchu criw talentog o chwaraewyr sydd wedi dod un un o brif allforion y wlad. Yn y flwyddyn 2013, roedd 515 o Frasiliaid yn chwarae yn y gwahanol gynghreiriau cenedlaethol yn Ewrop. O bosib fod gan y tîm yr ydych chi'n ei gefnogi o leiaf un chwaraewr o Frasil. Mae ennill Cwpan y Byd, felly, wedi dod yn brif uchelgais gan wlad Brasil yn 2014.

  2. Darllenydd1 Bydd mwy nag 14.5 biliwn doler UDA wedi cael eu gwario ar Gwpan y Byd erbyn y bydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae ar 12 Mehefin. Cafodd llawer o'r arian hwn ei wario ar adeiladu stadia newydd a diweddaru'r rhai sydd eisoes yn bodoli. Mae buddsoddiad uchel hefyd wedi ei neilltuo ar gyfer ffyrdd, meysydd awyr, rhwydweithiau cyfathrebu ac isadeileddau eraill. Mae prosiectau adeiladu o fri gyda chynlluniau modern nodedig wedi cymryd lle'r 'favelas' – hynny yw, y slymiau – yn llawer o'r prif ddinasoedd. Mae uchelgais mawr wedi arwain at fuddsoddiad mawr.

  3. Darllenydd 2   Fodd bynnag, mae gwedd arall i Frasil. Fe ddywed arbenigwyr ariannol bod lefel y tlodi yn y wlad yn uwch o  lawer na'r hyn fyddai'n ddisgwyliedig mewn gwlad sy'n meddu ar gymaint o adnoddau naturiol a diwydiant sydd wedi ei ddatblygu. Amcangyfrifir bod tua thraean o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, yn arbennig ymhlith y rhai sy'n byw yng nghefn gwlad y Gogledd Ddwyrain.  Yno, mae tua chwarter y plant dan bump oed yn dioddef o ddiffyg maeth. Ychydig sy'n gallu cael dwr glân a charthffosiaeth, trydan a thechnoleg berthnasol.  Pedair blynedd neu lai y mae llawer o’r plant yn ei gael o ysgol. Nid yw'r uchelgais mawr wedi cyrraedd y rhannau hynny o'r wlad.

  4. Arweinydd   Gan fenthyca dywediad o'r byd pêl-droed, mae Brasil mewn gwirionedd, yn wlad o ddau hanner ac o ganlyniad mae'r rhai sy'n llai ffortunus wedi dechrau gwrthryfela. Cynhyrfwyd sawl un o'r prif ddinasoedd gan brotestiadau treisgar, gydag arweinyddion y gwrthdystiadau yn gofyn y cwestiwn, ‘Os gallwn ni gael stadia pêl-droed safonol, pam na allwn ni gael tai preswyl safonol, gofal iechyd, glanweithdra ac addysg?  Yr ateb syml a roddir, mae'n ymddangos, yw nad oes digon o arian i gyflawni'r ddeubeth ar yr un pryd - ac mae angen talu am y Gemau Olympaidd yn 2016 eto! Mae'n ymddangos bod uchelgais mawr Brasil yn digwydd ar draul anghenion pobl dlotaf y wlad.

Amser i feddwl

Pa uchelgeisiau sydd gennych chi? Ydych yn dymuno cael mynd i brifysgol? Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cynhyrchiad sy'n cael ei lwyfannu gan y grwp drama? Ydych chi â'ch bryd ar fod yn ffotograffydd llwyddiannus? Ydych chi'n dymuno cael byw mewn ty mawr? Ydych chi'n dymuno cael torri record mewn mabolgampau, neu fod yn chwaraewr rhyngwladol?

Ni allwch wireddu’ch uchelgais heb gost. Pwy sy'n talu'r gost honno? Os mai eich rhieni sy'n talu, yna fe allai hynny olygu rhywfaint o aberth ar eu rhan, fel bod gwyliau neu foethbethau personol yn cael eu hepgor. Os mai grant ydyw, yna fe all hynny fod ar draul rhywun arall gafodd eu gwrthod. Os cewch chi ran yn nrama'r ysgol, yna fe fydd rhywun arall yn cael eu gwrthod. Os byddwch chi'n ennill, yna bydd rhywun arall yn colli. Caiff pob uchelgais sy'n cael ei gwireddu effaith ar y gymuned yr ydych yn rhan ohoni.

A ddylen ni felly beidio â bod yn uchelgeisiol? A ddylai Brasil fod wedi ildio'r cyfle o gynnal Cwpan y Byd a'r Gemau Olympaidd?

Ddim o gwbl. Y gobaith yw trwy gyflawni'r uchelgais hon, fe fydd yn cynhyrchu adnoddau newydd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.  Yn yr un modd, os cyflawn ni ein huchelgeisiau, yna byddwn yn dod â phleser i eraill ac fe fyddwn yn fwy abl i wasanaethu ein cymuned.

Yr hyn sy'n cyfrif yn y pen draw yw ein bod bob amser yn ymwybodol ac yn ystyriol o eraill wrth i ni brysuro i gyflawni ein huchelgais, yn enwedig y rhai hynny a allai gael eu gadael ar ôl, eu hanwybyddu neu eu sathru yn y rhuthr.

Diolch i Dduw, ym Mrasil, mae cynlluniau i helpu'r tlodion ac mae'r rhain yn dangos arwyddion eu bod yn llwyddiannus.  Gyda gobaith, bydd yr incwm a gynhyrchir gan y ddau ddigwyddiad rhyngwladol ym myd chwaraeon yn cael ei drosglwyddo'n ôl i'r gymuned er mwyn helpu'r rhai hynny sydd yn meddu ar gyn lleied ar hyn o bryd.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y posibiliadau sydd ar gael i ni, a’r uchelgeisiau y gallwn ni freuddwydio amdanyn nhw.
Atgoffa ni am yr effeithiau y gall y rhain eu cael ar y gymuned ehangach, a helpa ni i weithredu’n ofalgar ac yn deg.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Harvest for the world’ gan y Christian

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon