Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anifeiliaid dewr

Dathlu dewrder anifeiliaid.

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu dewrder anifeiliaid.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch luniau o anifeiliaid arwrol sydd wedi dangos dewrder teilwng yn rhinwedd eu dyletswydd, neu wedi helpu pobl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – ceffylau, asynnod, colomennod, cwn, camelod, eliffantod, ychen a chathod hyd yn oed – a threfnwch fodd o arddangos y lluniau yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Mannau cychwyn defnyddiol eraill i baratoi’r gwaith ac i astudio ymhellach fyddai gwefan y gymdeithas PDSA – ar: www.pdsa.org.uk/about-us/animal-bravery-awards/pdsa-dickin-medal– a gwefan swyddogol i gofio am anifeiliaid mewn rhyfel  Animals in War Memorial  (sy’n cynnwys y gofeb Animals in War Memorial yn Hyde Park) – ar: www.animalsinwar.org.uk Am effaith ychwanegol cyferbynnwch yr anifeiliaid rydyn ni’n eu cadw fel anifeiliaid anwes gyda’r un math o anifeiliaid pan fyddan nhw’n gweithio i ni.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Journey to the past’ o’r ffilm animeiddiedig Anastasia (20thCentury Fox, 1997) neu ‘Stronger’ gan Kelly Clarkson, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.
  • Mae’n bosib cysylltu’r gwasanaeth hwn ag astudiaethau trawsgwricwlaidd - ysgrifennu creadigol, celf, hanes, astudiaethau cyfathrebu, er enghraifft.
  • Nodwch:mae’r gwasanaeth hwn yn addas hefyd ar gyfer ei ddefnyddio ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn hon wrth i ni nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Fe allech chi edrych ar y themâu o wrthdaro mewn cyswllt ehangach hefyd. Er enghraifft, fe fyddai’n bosib datblygu’r deunydd er mwyn canolbwyntio ar y gwahanol rolau a chwaraeodd gwahanol anifeiliaid, yn ogystal ag edrych ar storïau arwrol unigol.

Gwasanaeth

  1. Eleni, yn y flwyddyn 2014, rydyn ni’n nodi bod can mlynedd ers pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel y gwyddoch chi, fe gafodd llawer iawn o filwyr o sawl gwlad eu lladd a hwythau’n ymladd yn ddewr dros eu gwahanol wledydd.

    Oeddech chi’n gwybod bod llawer o anifeiliaid wedi colli eu bywyd hefyd yn y gwrthdaro bryd hynny yn ogystal ag yn y rhyfeloedd a ddigwyddodd wedyn?

    Heddiw, mae anifeiliaid yn parhau i helpu ein lluoedd arfog yn eu dyletswydd dros eu gwlad, mewn sawl ffordd, fel gyda chludiant cyfathrebu a gwaith ditectif.

  2. Er mwyn amlygu’r hyn a wnaeth yr anifeiliaid hyn drosom, fe gomisiynwyd cerflun wedi ei ddylunio’n arbennig, sef y gofeb, The Animals in War Memorial, ac mae i’w weld ar gyrion Hyde Park yn Llundain, yn Brock Gate. Mae wedi ei osod yno i goffau’r anifeiliaid hynny ac i ddathlu eu gwaith. Mae’n deyrnged gref i’r anifeiliaid hynny a fu farw’n gwasanaethu, a ddioddefodd, ac a fu farw ochr yn ochr â’r milwyr yn rhyfeloedd a brwydrau’r ugeinfed ganrif. Fe gafodd  bywydau llawer o bobl eu hachub oherwydd gwaith llawer o anifeiliaid.

    Y geiriau ar y gofeb yw:

    They had no choice.

    Hynny yw, roedden nhw’n gwneud beth bynnag yr oedd rhywun yn gofyn iddyn nhw ei wneud. Mae hyn yn ein hatgoffa o’r ddyletswydd a ddylai fod gennym ninnau tuag at anifeiliaid. Mae’n ddyletswydd arnom ofalu bod pob anifail yn cael ei barchu a’i drin yn drugarog.

  3. Sefydlwyd  dulliau eraill hefyd o anrhydeddu dewrder anifeiliaid yn eu gwaith. Sefydlwyd Medal Dickin yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan Maria Dickin, yr un a sefydlodd yr elusen PDSA – elusen sy’n helpu amddiffyn ac ail gartrefu anifeiliaid sydd wedi eu hesgeuluso neu wedi dioddef creulonder. Am mai’r anrhydedd hon  yw’r anrhydedd fwyaf y gall anifail ei derbyn, bydd pobl yn cyfeirio ati fel y ‘Victoria Cross’ i anifeiliaid. Hyd yn hyn, mae dros 60 o’r medalau hyn wedi eu cyflwyno, a hanner y rhai hynny yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  4. Stori am Joey, ceffyl fferm ffuglennol a oedd wedi cael ei alw i wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw’r llyfr Warhorse, gan yr awdur Michael Morpugo. Erbyn hyn mae’r stori wedi ei datblygu’n ddrama lwyfan ac yn ffilm Hollywood wedi ei chyfarwyddo gan Stephen Spielberg. Ond mae’r stori, fodd bynnag, wedi ei seilio ar ymchwil a wnaeth Michael Morpugo wrth sgwrsio â chyn-filwyr am bethau a ddigwyddodd o ddifrif. Mae’n ffaith drist na ddychwelodd miloedd o geffylau o faes y gad.

    Roedd y ceffylau go iawn rheini yng nghanol y rhyfel, yn ogystal ag asynnod a mulod, yn cario nwyddau a ffrwydron rhyfel i’r Ffrynt. Roedden nhw’n gorfod byw a gweithio dan amodau enbydus, fel y tywydd garw a mwd rhewllyd y ffosydd. Roedden nhw’n gorfod byw a gweithio mewn amgylchiadau ansicr a brawychus, gyda swn dychrynllyd y tanio’n clecian yn eu clustiau.

  5. Efallai mai enghraifft arall llai amlwg, ond rhyfeddol, o greaduriaid dewr yw’r colomennod. Fe hedfanodd miloedd o golomennod dewr bellteroedd maith, gyda negeseuon pwysig, i dir peryglus iawn, pan nad oedd yn bosib cael negeseuon i luoedd y cynghreiriaid yno trwy unrhyw ffordd arall. Anrhydeddwyd un golomen, o’r enw Winkie, gyda Medal Dickin Medal ym mis Rhagfyr1943:

    ‘For delivering a message under exceptionally difficult conditions and so contributing to the rescue of ân Air Crew while serving with the RAF in February, 1942.’

    Hefyd, dyfarnwyd medal Dickin i golomen o’r enw Beach Comber ym mis Mawrth1944:

    ‘For bringing the first news to this country of the landing at Dieppe, under hazardous conditions in September, 1942, while serving with the Canadian Army.’

    Mewn gwirionedd, dyfarnwyd cyfanswm o 32 o fedalau i golomennod am eu rhan yn achub bywydau yn ystod y rhyfel.

  6. Mae’r ci bob amser wedi bod yn gyfaill i ddynol-ryw oherwydd ei ffyddlondeb greddfol i’r rhai hynny sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae cwn hefyd wedi cyflawni gweithredoedd anhygoel. Mae eu ffyddlondeb triw ynghyd â’u deallusrwydd wedi cael ei ddefnyddio i achub bywydau trwy gyfrwng amryw o ffyrdd er gwaetha’r ffaith eu bod yn gorfod gwneud hynny dan amodau dychrynllyd.

    Mae cwn wedi helpu pobl mewn pob math o wahanol ffyrdd, trwy redeg â negeseuon, canfod ffrwydron, tyllu am ddioddefwyr wedi eu caethiwo neu eu claddu yn dilyn ffrwydradau, yn ogystal â bod yn gwn gwarchod. Hyd yn oed a hwythau wedi eu hanafu, ac yn dioddef i’r eithaf, fel y milwyr, maen nhw wedi brwydro ymlaen yn ddewr iawn.

    Un ci felly oedd Treo, Labrador, y dyfarnwyd ei fedal iddo yn 2010.
    Pan oedd Treo’n gweithio i ddarparu amddiffyniad ymlaen i rai milwyr, fe ddarganfyddodd ddyfais ffrwydrol a oedd wedi ei chynllunio i danio cyfres o fomiau ar ymyl ffordd lle’r oedd y milwyr yn bwriadu mynd ar ei hyd. Pe bai’r ddyfais wedi tanio fe fyddai wedi achosi anafiadau difrifol ac wedi lladd llawer o’r milwyr.

  7. Wrth i ni ddod â’r gwasanaeth i ben, rhaid i ni hefyd grybwyll llawer o anifeiliaid eraill mewn gwahanol rannau o’r byd sydd wedi helpu neu wedi rhoi eu bywyd eu hunain mewn perygl er mwyn pobl – camelod, eliffantod, ychen, a chathod hyd yn oed.

    Ar hyd y blynyddoedd, mae anifeiliaid wedi helpu, ac maen nhw’n dal i wneud hynny, mewn sawl ffordd, fel mae stori Treo’r Labrador yn dangos.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am y ddyled sydd arnom ni i rai o’r anifeiliaid hyn.

Meddyliwch am sut roedden nhw’n teimlo. Sut byddech chi’n teimlo pe byddech chi yn yr un sefyllfa, ac wedi gorfod wynebu amgylchiadau mor enbyd?

Meddyliwch am y rhinweddau y gwnaethon nhw eu dangos – ffyddlondeb anhygoel, dyfalbarhad anghyffredin, a dewrder yn wyneb anawsterau mawr.

Yn olaf, gadewch i ni ddiolch amdanyn nhw i gyd – oherwydd heb eu hymroddiad a’u dewrder, fe allai llawer mwy o fywydau fod wedi eu colli.

Rydyn ni hefyd yn diolch am yr anifeiliaid hynny sy’n parhau i’n helpu mewn nifer o wahanol ffyrdd hyd heddiw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Journey to the past’ o’r ffilm animeiddiedig Anastasia (20thCentury Fox, 1997) neu ‘Stronger’ gan Kelly Clarkson

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon