Gwneud
Ystyried rhai agweddau ar waith tîm llwyddiannus.
gan Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Ystyried rhai agweddau ar waith tîm llwyddiannus.
Paratoad a Deunyddiau
- Os yw hynny’n bosib, dangoswch ddelwedd logo cystadleuaeth Cwpan y Byd a delweddau perthnasol eraill i ychwanegu at gyflwyniad y gwasanaeth hwn (gwiriwch yr hawlfraint).
- Fe allech chi hefyd arddangos y geiriau ‘sgiliau’ ac ‘agwedd’ ynghyd â lluniau priodol.
- Fel cerddoriaeth ychwanegol, fe allech chi ddangos a chanu’r gân sy’n ymwneud â gwaith tîm, ‘Together we aspire’, sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, ac i’w chael ar: www.youtube.com/watch?v=WjNjhnWUwzI
Gwasanaeth
- Cyflwynwch y gwasanaeth trwy nodi:
– bod gemau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2014 yn cael eu chwarae ym Mrasil ym mis Gorffennaf
– bod Lloegr yn un o 32 o wledydd sydd wedi ennill ei lle yn y twrnamaint
– mae’r gemau pêl-droed yn cael eu chwarae mewn 12 o stadiwms/stadia dewisol ac yn cael eu gwylio ar y teledu neu'r rhyngrwyd gan filiynau o bobl ym mhob rhan o'r byd
– mae rhaglen y gemau eisoes wedi ei gwneud – mae Lloegr yng Ngrwp D, ynghyd â'r Eidal, Uruguay a Costa Rica, a bydd y gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal, gan ddechrau am 6 p.m. ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin
– bu’n rhaid i reolwr Lloegr, Roy Hodgson, wynebu'r dasg anodd o ddewis dim ond 23 o chwaraewyr i fynd gydag ef i Frasil. - Gwahoddwch y plant i ystyried sut y bydden nhw'n dewis tîm cryf.
Mewn trafodaeth, gwnewch yn siwr fod pawb yn deall y bydd y ddau beth, sgiliau ac agweddau, yn bwysig. - Gellir amlygu rhai o'r pwyntiau canlynol.
- Mae'n hanfodol bod y rhai sydd wedi cael eu dewis yn gallu chwarae i'r safon uchaf.
- Mae'r tîm angen chwaraewyr gyda gwahanol sgiliau. Bydd y sgwad yn cynnwys gôl-geidwaid, amddiffynwyr, chwaraewyr canol cae ac ymosodwyr. Nid yw pob aelod o'r tîm yn chwarae yn yr un safle.
- Mae meddu ar agwedd yn hanfodol. Mae'r rhai sy’n perthyn i dimau buddugol yn annog y naill a'r llall.
- Bydd y chwaraewyr gorau’n cefnogi amcanion y tîm cyfan, ac nid meddwl amdanyn nhw'u hunain yn unig. Mae aelodau'r timau yn hyfforddi ac yn ymarfer gyda'i gilydd.
- Bydd y sgwad yn cynnwys chwaraewyr profiadol ynghyd â chwaraewyr newydd. Mae timau yn newid ac yn datblygu. - Gwahoddwch bawb i ystyried pwysigrwydd gwaith tîm oddi mewn i gymuned yr ysgol. Mae pawb yn rhan o'r sgwad! Fel y mae tymor neu wythnos newydd yn dechrau, bydd ymarfer gwahanol sgiliau, cydweithio, ac annog y naill a'r llall, yn allweddau pwysig i lwyddiant.
Amser i feddwl
Meddyliwch am dîm neu grwp yr ydych yn aelod ohono. . .
– tîm pêl-droed, pêl rwyd neu gymnasteg
– grwp cerdd, dawns neu ddrama
– grwp gwyddonol neu grwp arall, cyngor yr ysgol.
Pa sgiliau tîm a gwerthoedd yr ydych wedi eu dysgu?
Byddwch yn falch o gael bod yn perthyn i'r ysgol hon. Ystyriwch beth all hyn olygu i bawb ohonom wrth gydweithio fel tîm heddiw.
Gweddi
Arglwydd Iesu,
Fe ddewisaist ti ddeuddeg o bobl i fod yn dîm o rai i dy ddilyn a dy helpu di.
Gad i ni lwyddo, fel y gwnaethon nhw, trwy helpu ein gilydd a gweithio a dysgu gyda’n gilydd, heddiw a phob dydd.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.