Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymryd eich trawsnewid, nid cydymffurfio

Dangos sut mae ffydd yn gallu annog myfyrwyr i dorri hualau cydymffurfio.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dangos sut mae ffydd yn gallu annog myfyrwyr i dorri hualau cydymffurfio.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Another brick in the wall’ gan Pink Floyd, a’r modd o’i chwarae ar ddechrau’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. “We don't need no education. We don't need no thought control. No dark sarcasm in the classroom. Leave them kids alone. Hey! Teachers! Leave them kids alone! All in all it’s just another brick in the wall. All in all you're just another brick in the wall.”

  2. Daw'r geiriau enwog hyn o'r gân ‘Another brick in the wall’ sy'n rhan o'r albwm eiconig a ryddhawyd gan Pink Floyd yn y flwyddyn 1979 o'r enw The Wall. Mae'r albwm yn troi o amgylch y cymeriad Pink, sydd â'i fywyd yn llawn colled ac unigrwydd. Mae'n dechrau adeiladu mur meddyliol sy'n ei ynysu oddi wrth gymdeithas a'r digwyddiadau sy'n achosi dioddefaint iddo yw'r priddfeini yn y mur, sef ‘the bricks in the wall’.

  3. Un o'r pethau a achosodd boen iddo wrth dyfu i fyny oedd system addysg anghydnaws, yn cael ei gweinyddu gan athrawon creulon heb na theimlad na sensitifrwydd tuag at hunan mewnol gwirioneddol Pink.

  4. Ymysg llawer o ddelweddau cythruddol eraill yn y fideo sy’n cyd-fynd â’r gân yw'r ddelwedd o fyfyrwyr yn teithio ar hyd cludfelt mewn ffatri - yn pwysleisio sut mae system addysg haearnaidd yn gorfodi unffurfiaeth ac yn dinistrio rhyddid personol a mynegiant creadigol.

  5. Tybed ydych chi, yma yn yr ysgol a thu hwnt i'w muriau, yn cael y syniad o fod ar y cludfelt, a’ch bod yn cael eich rheoli gan yr oedolion yn eich bywyd. Neu a ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael yr hawl i roi mynegiant i'ch gwir hunan?

  6. Wrth gwrs, nid oedolion yn unig sy'n gallu cyfyngu ar eich rhyddid fel pobl ifanc. Yn aml iawn, y grym mwyaf nerthol sy'n rheoli eich ymddygiad yw barn eich cyfoedion. Ydych chi’n rhywun sy'n meddwl, yn ymddwyn, yn gwisgo ac yn siarad fel y gwna eich ffrindiau - rhywun sy'n mynd gyda'r lli, neu a oes gennych chi’r dewrder i fod yn wahanol?

  7. Caiff addysg a chrefydd eu beirniadu'n aml am fod yn systemau sy'n rheoli, yn ffyrdd o orfodi pobl i gydymffurfio â gwerthoedd a delfrydau'r Sefydliad.  Fel mater o ffaith, ar eu gorau, pethau sy'n ymwneud ârhyddidyr ysbryd a'r meddwl yw addysg a ffydd. Maen nhw'n ymwneud â datblygu ymdriniaeth feirniadol a holi cwestiynau heriol o'r tybiaethau, y gwerthoedd a’r credoau sy'n gyffredin yn ein dyddiau ni.

  8. Athronydd mawr oedd Søren Kierkegaard, a oedd yn byw yn Nenmarc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid oedd ganddo lawer o amynedd gyda’r hyn yr oedd y cyfryngau'n eu galw 'y cyhoedd'. Roedd ef yn meddwl bod y syniad o’r ‘cyhoedd' yn ddim mwy na dyfais a oedd yn gorfodi pawb i ddilyn y dorf. Roedd yn credu y dylai pob un ohonom weithredu'n rhydd ac yn annibynnol yn hytrach na dilyn pobl eraill.

  9. Yn yr Efengylau, fe fyddai Iesu'n aml yn cymryd y llwybr unig ac anodd. Nid oedd yn cydymffurfio â disgwyliadau pobl eraill o'r hyn y dylai'r Meseia fod, ac yn sicr nid oedd yn cydymffurfio â system grefyddol ei gyfnod.

  10. Y cwestiwn mawr ar gyfer pob un ohonom ni yw a oes gennym y dewrder i ddilyn y llwybr sydd o bosib yn fentrus a radical yn hytrach na theithio'r ffordd y mae eraill am i ni ei dilyn, a bod yn barod i herio yn hytrach na chydymffurfio, yn barod i ddatgymalu'r priddfeini yn y mur.

Amser i feddwl

A yw’n wir fod Cristnogion heddiw’n aml yn fodlon a cheidwadol yn hytrach nag yn herio gwerthoedd cymdeithas mewn ffordd radical? Dyma pam y mae angen i ni ystyried y geiriau hyn o lythyr Paul; at y Rhufeiniaid (12.2) o’r newydd: 

“A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond bydded i chwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.”

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am sut y gallech chi gydymffurfio heb hyd yn oed sylweddoli eich bod yn gwneud hynny. Sut gallech chi fod yn fwy ffyddlon i chi eich hunan heddiw?

Gweddi
Arglwydd,
Rhyddha ni o’r pwysau sydd arnom ni i gydymffurfio, fel y byddwn ni’n rhydd i fod y rhai rwyt ti wedi ein gwneud ni i fod.
Helpa ni i weld llwybr gwirionedd a chyfiawnder, a chaniatâ i ni'r dewrder i ddilyn y llwybr hwnnw, hyd yn oed os yw hynny’n golygu mynd yn groes i’r dyrfa.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon