Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw in grediniwr

Dydd Gwyl Thomas (3 Gorffennaf)

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dangos nad peth afresymol yw cred - mae’n rhoi ysbrydoliaeth a gobaith i ni.

Paratoad a Deunyddiau

Os yw’n bosib, dangoswch y clip fideo oddi ar YouTube, i’w gael ar www.youtube.com/watch?v=gUyu5prWjTE, sy’n dangos y gân ‘I’m a believer’ gan y Monkees, yn cael ei pherfformio gan Smash Mouth, fel rhan o ddetholiad o glipiau fideo o’r ffilm Shrek.

Gwasanaeth

  1. “I thought love was only true in fairy tales
    Meant for someone else but not for me . . .
    Disappointment haunted all my dreams . . .
    Then I saw her face, now I'm a believer.”

  2. Mae’n ddigon hawdd gweld pam y dewiswyd y gân hon, ‘I’m a Believer’ gan y Monkees, ar gyfer trac sain y ffilm Shrekgyntaf.Y rheswm pam rydyn ni’n hoffi’r ffilm Shrekyw oherwydd ei bod yn sôn am rywun yn goresgyn llawer o rwystrau er mwyn cyflawni ei freuddwydion. Cawr yw Shrek, y mae pawb yn ceisio ei osgoi, ac sydd o ganlyniad yn credu na fydd yn bosib iddo byth ddod o hyd i gariad. Yna, mae'n cyfarfod â'i dywysoges – ac yna mae'n grediniwr!

  3. Nid peth hawdd i Shrek oedd credu yn y posibilrwydd o gariad. I ninnau, hefyd, gall goresgyn ein hamheuon er mwyn credu fod yn ymdrech. Yn Alice in Wonderland,fe fynegodd Lewis Carroll yr ymdrech i gredu mewn ffordd ychydig yn ddigrif:

    Alice laughed. 'There's no use trying,' she said. 'One can't believe impossible things.' ‘I dare say you haven't had much practice,' said the Queen. 'When I was younger, I always did it for half-an-hour a day. Why, sometimes I've believed as many as six impossible things before breakfast.

  4. Ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos bod Lewis Carroll yn beirniadu cred grefyddol yma, ac yn hyrwyddo'r syniad am gred bod angen i ni roi o'r neilltu wybodaeth resymol a gwyddonol.  Yn wir, mae llawer o bobl o'r farn, wrth arddel ffydd grefyddol, ei bod hi'n ofynnol i chi ddiffodd eich ymennydd!

    Os darllenwn ni ychydig yn fanylach, fodd bynnag, gallwn weld nad yw Alice yn dweud wrthym am beidio â chredu'n gyfan gwbl.  Yn hytrach, mae hi'n dweud y dylem feddwl yn ofalus a beirniadol am yr hyn a gredwn.

  5. Mae’r mwyafrif o bobl yn credu mewn rhywbeth, ond mae'n bwysig nad ydyn nhw'n ddall.  Rhaid i ni fod yn feirniadol o'r hyn a gredwn ni a'r hyn y mae pobl eraill yn ei gredu. Gall credu'n ddiamheuol mewn rhywbeth fod yn beryglus, ac ni ellir yn hollol sicr ddweud ei fod yn rhywbeth gwirioneddol.

  6. Fel pobl ifanc sy'n byw yn y byd heddiw, yr ydych yn annhebygol o dderbyn credoau – crefyddol neu fel arall – heb graffu arnyn nhw a mynnu tystiolaeth. Nid yw hynny'n dinistrio cred – yn hytrach, mae'n golygu cred sy'n gryfach a mwy dilys.

  7. Mae geiriau'r Frenhines yn stori Alice yn dadlennu agwedd arwyddocaol enfawr arall am gred. Nid yw'n afresymol, ond y mae rhywbeth o'i gylch sy'n ein hannog i feddwl y tu hwnt i'r hyn sy'n ymddangos i ni fel ffiniau a chyfyngiadau. Mae cred yn ein hannog i ddychmygu a breuddwydio am yr hyn sydd yn awr yn ymddangos yn amhosib.

  8. Roedd llawer o bobl, a oedd yn wynebu'r arswyd a'r dychryn a oedd ynghlwm wrth y  gyfundrefn Natsïaidd o'r 1930au hyd at yr 1940au, yn byw mewn anobaith, ond fe barhaodd y gweinidog Cristnogol enwog, Dietrich Bonhoeffer, a ildiodd ei fywyd yn yr ymdrech yn erbyn Hitler, i gredu. 

    Yn ei iaith ei hun fe ddywedodd Bonhoeffer y geiriau hyn:  

    “Rwy’n credu ei fod ym mwriad Duw, a’i allu, i wneud i ddaioni darddu o bopeth, hyd yn oed o’r hyn sy’n fwyaf drygionus. Ar gyfer hyn, mae arno angen bodau dynol sy’n gwybod sut i droi popeth yn dda.”

  9. Ambell dro, rydyn ni’n dod wyneb yn wyneb â rhwystrau mawr yn ein bywydau ein hunain - croestynnu â'n ffrindiau, chwalfa deuluol, straen, pryderon am yr ysgol, ac yn y blaen - ac fe fyddwn yn meddwl ei bod hi'n amhosib dod o hyd i ateb. Eto i gyd, hyd yn oed yn yr amgylchiadau hynny, os y gwnawn ni ddyfalbarhau, mae’n ymddangos fel petai ffordd ymlaen yn agor i ni.

  10.  Yng nghanol ffydd mae'r gred ei bod hi’n amlwg mai’n anaml iawn y mae atebion hawdd i'w cael i broblemau mawr bywyd, ond ‘gyda Duw y mae pob peth yn bosibl’ (Mathew 19.26). Mae rheswm bob amser dros gredu.

Amser i feddwl

Ar 3 Gorffennaf, mae’r eglwys yn dathlu Dydd Gwyl Thomas. Nid yw Thomas yn ffigwr deniadol oherwydd, fel yn achos llawer ohonom, doedd Thomas ddim yn ei chael hi’n hawdd credu pethau. Pan ddywedodd y disgyblion eraill wrtho eu bod wedi gweld Iesu, nid oedd yn eu credu, ac roedd yn mynnu cael tystiolaeth (Ioan 20.25–28):

Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, ‘Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd.’ Ond meddai ef wrthynt, ‘Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf i byth.’ Ac ymhen yr wythnos, yr oedd y disgyblion eto yn y ty, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu’n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, ‘Tangnefedd i chwi!’ Yna meddai wrth Thomas, ‘Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.’ Atebodd Thomas ef, ‘Fy Arglwydd a’m Duw!’

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i fod, fel Thomas, yn onest ynghylch y pethau sy’n ein rhwystro rhag credu.
Caniatâ i ni allu credu mwy, fel y bydd gennym ni ffydd all symud mynyddoedd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon