Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Magna Carta

gan by Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Adrodd stori’r Magna Carta a pherthnasu hyn i’r syniad o ddemocratiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi gopi o’r ffilm fer ‘Stories from Parliament: Magna Carta’ (6.30 munud) sydd i’w chael ar wefan y Senedd, yn yr adran Gwasanaethau Addysg, a threfnwch y modd o ddangos y ffilm yn ystod y gwasanaeth, neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hunan. Mae’r ffilm i’w gweld ar: www.parliament.uk/Magnacarta1215 ac mae adnoddau eraill, yn cynnwys y sgript a’r cynllun gwers i’w cael yma hefyd.

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch pe byddai'r teulu Brenhinol yn penderfynu bod arnyn nhw angen mwy o arian, ac o ganlyniad yn dechrau trethu pobl y wlad yn drwm. Dychmygwch fod rhai pobl yn gwrthwynebu a bod eu teuluoedd yn cael eu cymryd yn wystlon nes y bydden nhw'n talu. Dychmygwch fod rhai pobl yn parhau i wrthwynebu a bod eu teuluoedd yn cael eu carcharu a'u newynu hyd at farwolaeth.

    Mae'n swnio'n annhebygol, ond dyna'n union oedd y sefyllfa dan y Brenin John, a oedd yn teyrnasu yn Lloegr o'r flwyddyn 1199, ond fe newidiodd pethau yn y flwyddyn 1215.  Bydd y ffilm fer hon dangos i chi sut, a phaham.

    Dangoswch y ffilm ‘Stories from Parliament: Magna Carta’.

  2. Dywedwch air am y gwrthgyferbyniad rhwng yr adeg honno a'r oes bresennol, pan mae gennym bob math o gyrff democrataidd i sicrhau nad oes neb uwchlaw'r gyfraith, ac y gall pobl newid y gyfraith trwy bleidlais.

  3. Awgrymwch fod ein democratiaeth yn parhau i esblygu fel y mae dulliau newydd o gyfathrebu'n galluogi pobl i ymuno â'i gilydd er mwyn lledaenu eu syniadau – nid yn unig Facebook a Twitter ond hefyd safleoedd ymgyrchol ar y we Change.org a 38 Degrees.

Amser i feddwl

Cafodd grym absoliwt y frenhiniaeth ei wanhau yn y flwyddyn 1215.

Pa newidiadau mawr fyddech chi'n hoffi eu gweld yn cael eu gwireddu ac ym mha ffordd y gallwch chi weithio'n ddemocrataidd gydag eraill i greu cymdeithas well?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon