Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Simon de Montfort a democratiaeth seneddol

gan by Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Adrodd stori Simon de Montfort a pherthnasu hyn i ddemocratiaeth fodern.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi gopi o’r ffilm fer ‘Stories from Parliament: Simon de Montfort’ (7.18 munud) sydd i’w chael ar wefan y Senedd, yn yr adran Gwasanaethau Addysg, a threfnwch y modd o ddangos y ffilm yn ystod y gwasanaeth, neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hunan. Mae’r ffilm i’w gweld ar: www.parliament.uk/education/teaching-resources-lesson-plans/stories-from-parliament---simon-de-montfort ac mae adnoddau eraill, yn cynnwys y sgript a’r cynllun gwers i’w cael yma hefyd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r Magna Carta a phaham y mae'n bwysig i ni heddiw. Soniwch wrth y plant mai dogfen oedd hi, y cytunwyd arni, rhwng y Brenin John a barwniaid nerthol Lloegr yn y flwyddyn 1215. Roedd y ddogfen yn sefydlu hawliau dynol sylfaenol, yn cynnwys prawf mewn llys gerbron rheithgor, a sefydlu am y tro cyntaf mewn hanes bod y brenin yn gorfod ufuddhau i ddeddf gwlad.  Mae rhai o'r cymalau gafodd eu cynnwys yn y Magna Carta yn parhau'n weithredol hyd heddiw.

  2. Dywedwch eich bod yn mynd i symud yr hanes fel ar beiriant recordio o'r flwyddyn 1215 hyd at 1263, pan oedd mab y Brenin John, Harri III ar yr orsedd.

    Dangoswch y ffilm ‘Stories from Parliament: Simon de Montfort‘ neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun, gan gynnwys y ffeithiau canlynol  .

    - roedd Harri eisiau adennill y tiroedd yr oedd wedi eu colli yn Ffrainc, felly fe gododd dreth drymach ar y bobl.
    - fe gymerodd wystlon a gadael i rai newynu i farwolaeth hyd yn oed er mwyn cael ei ffordd ei hun.
    - tirfeddianwyr nerthol oedd y barwniaid. Fe wnaethon nhw drefnu gwrthryfel a phenodi bonheddwr Ffrengig a oedd wedi priodi chwaer y Brenin Harri fel eu harweinydd.
    - Simon de Montfort oedd ei enw, a chyda'i wraig y Foneddiges Eleanor a'r barwniaid eraill, fe ffurfiodd fyddin fawr.
    - cafodd milwyr y brenin eu gorchfygu a chafodd y brenin ei ddal ym mrwydr Lewes.
    - Er mwyn cadw trefn ar y brenin yn y dyfodol a rhoi llais i'r bobl am y tro cyntaf, fe sefydlodd Simon de Montfort senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad.

  3. Nodwch y ffaith nad oedd Simon de Montfort yn debyg i arweinydd democratig modern. Cymerodd ran allweddol yn erledigaeth yr Iddewon yn Lloegr, a dim ond ychydig o ddynion oedd yn ei senedd - dim merched – ond roedd yn gam tuag at reolaeth ddemocrataidd.

  4. Myfyriwch ar y troi a throsi a fu ar y daith hanesyddol tuag at ddemocratiaeth, gan danlinellu sut mae’r rhyddid yr ydym ni'n ei fwynhau heddiw yn ganlyniad i addewidion gafodd eu torri, brwydrau a ymladdwyd ac arglwyddi rhyfel o blith y barwniaid oedd yn gofalu am eu tiroedd a'u harian. Trwy'r broses anniben hon, fe ddechreuodd y syniad o lywodraeth gan y bobl ar ran y bobl ymddangos a sefydlu ei hun.

    Weithiau, rydym yn cymryd ein ffordd o fyw yn ganiataol, ond cafodd ei hennill ar ein cyfer ar draul gostus bywydau pobl eraill ar hyd yr oesoedd. Yn ifanc neu'n hen, dyma ein democratiaeth - ac mae’n eiddo i chi i'w ffurfio yn y dyfodol.

Amser i feddwl

A ydych chi'n gwerthfawrogi democratiaeth?

Allwch chi feddwl am fyw mewn gwlad lle nad yw'r llywodraethwyr yn atebol am y modd y maen nhw'n gweithredu? Lle mae protestiadau yn cael eu hatal a rheoliadau annheg yn cael eu gorfodi?
Nid yw ein democratiaeth yn berffaith, rydym yn parhau ar daith, felly sut y gall hi gael ei gwella a pha ran allwch chi chwarae yn y camau nesaf i'w symud yn ei blaen?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon