Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud cartref

Sut i osgoi digartrefedd

gan by Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio synnwyr y myfyrwyr o gartref.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo Doorways: Holly (5.37 munud), sydd i’w gael ar: www.truetube.co.uk/film/doorways-holly a modd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth.
  • Hefyd trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Sweet Home Alabama’ gan Lynyrd Skynyrd, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint). 

Gwasanaeth

Arweinydd  Beth ydych chi’n feddwl sy’n gwneud cartref?

Darllenydd 1  Rydw i’n meddwl mai cartref yw’r lle y gallaf fod yn fi fy hun, lle gallaf wneud beth bynnag y byddaf i eisiau ei wneud. Fy lle preifat i yw cartref.

Darllenydd 2  Mae cartref hefyd yn ymwneud â phobl. Dyma ble mae fy nheulu’n byw, ac rydw i’n gwybod y gallaf wahodd ffrindiau i fy nghartref.

Darllenydd 1  Ie, ac rydw i’n teimlo’n ddiogel yn fy nghartref. Mae’n lle sy’n llawn o atgofion hapus.

Darllenydd 2  Fe alla i wneud llanast ambell dro yn fy nghartref, cyn belled â fy mod i’n glanhau ar fy ôl.

Darllenydd 1  I grynhoi: cartref yw’r lle mae fy hoff bethau  . . .

Darllenydd 2  . . .  a fy hoff bobl  . . .

Darllenydd 1 a 2  . . .  i gyd yn yr un lle, gyda’i gilydd.

Mae Darllenydd 1 a 2 yn sefyll gan wynebu’r gynulleidfa gyda gwên fawr lydan ar eu hwynebau.

Mae Darllenydd 3 yn torri ar draws yn ddigywilydd.

Darllenydd 3
  Ydych chi’n tynnu coes, neu beth? Dydych chi ddim o ddifri? Ydych chi wedi gweld fy rhieni i? Maen nhw’n codi cywilydd arnaf i. Mae fy mam yn dweud y drefn trwy’r amser ynghylch pa mor flêr ydi fy ystafell wely, cwyno ynghylch y ffordd rydw i’n gwisgo, ac ynghylch fy ffrindiau. Ac roeddech chi’n sôn am eich lle preifat chi! Preifat! Dyna i chi jôc eto!. Pe byddwn i’n gadael unrhyw beth o gwmpas y ty fe fyddai fy mrawd neu fy chwaer yn siwr o’i ddifetha. Does dim byd yn cael llonydd. Cartref? Na, dydw i ddim yn gwybod ystyr y gair!

Arweinydd  Dyma i chi ddarlun o ddau begwn eithaf. Ond fe allai’r ddau fod yn wir i raddau am rai ohonoch chi. Ar un llaw, mae rhai ohonoch chi sy’n mwynhau cyrraedd adref ar ddiwedd pob dydd. Ar y llaw arall, mae rhai ohonoch chi sy’n fwriadol yn aros allan mor hwyr â phosib oherwydd bod gennych chi ofn beth fyddwch chi’n ei ganfod pan gyrhaeddwch chi adref.

Fe hoffwn i’n awr eich cyflwyno i ferch o’r enw Holly, sy’n deall y problemau sy’n gallu bod yn rhan o fyw gartref.

Chwaraewch y fideo TrueTube Doorways: Holly.

Arweinydd  Mae’r hyn y mae Holly’n ei disgrifio o beth sy’n gwneud cartref yn debyg iawn i’r hyn a ddisgrifiwyd gan ein dau ddarllenydd cyntaf. Roedd hi’n chwilio am le i ymlacio ynddo, lle gallai hi godi ei thraed i ben y soffa a gorffwyso heb fod ofn pechu unrhyw un. Ond roedd ei phrofiad, fodd bynnag, yn debyg i brofiad y trydydd darllenydd; problemau gyda’i thad, a hithau’n troi at ddwyn a thriwantiaeth, a’r cyfan yn ganlyniad i’w phroblem gyda chyffuriau.

Yna, fe welson ni Holly ar ôl iddi ddatrys ei phroblemau. Felly, allwch chi feddwl beth wnaeth wahaniaeth iddi? Rwy’n meddwl y gallech chi ei grynhoi mewn un gair - persbectif.

Yn gyntaf, fe gamodd Holly yn ôl o’r sefyllfa yn ei chartref. Fe gerddodd allan. Ac o’r tu allan roedd hi’n gallu edrych ar bethau o bersbectif neu o sefyllfa wahanol, a meddwl beth arall allai ddigwydd. Doedd cysgu ar soffa pobl eraill neu ar fatres ar lawr ddim yn gweithio. Roedd cyntedd canolfan i bobl ifanc ddigartref yn fan lle'r oedd Holly mewn sefyllfa fregus iawn. Dechreuodd gael ei bwlio. Yn y diwedd fe aeth i fyw gyda’i chariad. Ond doedd y trefniant hwnnw ddim yn ddelfrydol ychwaith, a wnaeth y trefniant ddim parhau. Roedd hi’n dod yn amlwg fod y cartref yr oedd hi wedi ei adael yn prysur ddod yn ddewis y dylai ei ystyried eto.

Yn ail, mae Holly’n ymddangos fel petai wedi edrych ar ei sefyllfa o safbwynt rhywun arall, ei mam. Un o’r problemau mawr yn wreiddiol oedd nad oedd aelodau ei theulu’n siarad â’i gilydd. Doedd neb yn ceisio sgwrsio a thrafod dibyniaeth Holly ar gyffuriau. Dim ond ar ôl iddi siarad gyda’i mam a chysylltu â’r mudiad Connexions ac Ymddiriedolaeth y Tywysog y gallodd hi weld pethau o bersbectif gwahanol.

Yn olaf, pan gwrddodd Holly â phobl ifanc eraill a oedd wedi bod mewn cyflwr difrifol o ddigartrefedd, yn cysgu ar y strydoedd, ond eto wedi dod yn ôl i normalrwydd, y sylweddolodd hi nad oedd ei sefyllfa hithau’n hollol ddiobaith. Fe sylweddolodd nad oedd ei phrofiadau hi wedi bod mor ddrwg â’u rhai nhw. Felly, os oedden nhw wedi gallu adfer eu bywyd, fe allai hithau wneud hyn hefyd. Fe wnaeth hyn iddi fod eisiau byw.

Amser i feddwl

Wn i ddim pa fath o brofiad o gartref sydd gan y mwyafrif ohonoch. Mae’n debyg bod rhywfaint o bethau da a rhywfaint o bethau ddim cystal ym mhrofiad llawer ohonoch. Mae llawer o bobl ifanc yn bygwth gadael cartref o leiaf unwaith ym mlynyddoedd eu harddegau. Ychydig sy’n gwneud hynny. Os byth y byddwch chi’n teimlo felly, cofiwch am stori Holly heddiw, a’r hyn a ddysgodd hi trwy ffordd anodd. Ystyriwch eich cartref yn gyntaf o bersbectif gwahanol. Fe allech chi aros gyda ffrind am ychydig o ddyddiau er mwyn cael cyfle i feddwl. Ystyriwch beth mae cartref yn ei olygu i chi ac i’r bobl eraill hynny sy’n gorfod byw gyda chi. Efallai y byddwch chi’n darganfod ym mha ffordd y gwnaeth pobl ifanc eraill ddygymod â sefyllfaoedd tebyg i’r un rydych chi’n ei hwynebu.

Fe fyddai’n bosib i chi gyfeirio at wasanaethu cefnogi sydd ar gael yn eich ysgol ar y pwynt hwn os teimlwch fod hynny’n briodol.

Beth bynnag fyddwch chi’n penderfynu ei wneud, cofiwch nad dim ond rhywbeth sy’n digwydd yw cartref – caiff cartref ei greu gan y rhai sy’n byw ynddo, ac mae hynny’n eich cynnwys chi.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am gartrefi da.
Diolch i ti am y rhai sy’n rhoi amser ac ymdrech i’w creu.
Gad i ni fod yn sensitif i brofiadau ein gilydd.
Gad i ni fod yn barod i gefnogi ein gilydd pan fydd pethau’n ymddangos yn anodd gartref.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Sweet Home Alabama’ gan Lynyrd Skynyrd

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon