Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Buddsoddi

Faint, tybed, yw eich gwerth chi?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio synnwyr o uchelgais y myfyrwyr ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Hefyd, fe fydd arnoch chi angen rhai papurau £20 – fe fyddai pump yn creu argraff!
  • Ymgyfarwyddwch â’r darn o Efengyl Luc 19.11–27. Mae’r stori wedi ei haddasu yn y fersiwn sy’n dilyn.
  • Os hoffech chi, trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Johnny B. Goode’ gan Chuck Berry, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

Arweinydd (Dangoswch yr arian.) Mae gen i rywfaint o arian sbâr yma. Roeddwn i’n meddwl y gallai rhai ohonoch chi ei gael tan fis Gorffennaf nesaf, er mwyn gweld beth fyddech chi’n gallu ei wneud ag ef. Fe fyddwn i eisiau’r arian yn ôl bryd hynny wrth gwrs, ond rwy’n siwr y gallen ni ddod i ddealltwriaeth ynghylch unrhyw elw y byddech chi wedi ei wneud.

All unrhyw un awgrymu i mi gynllun da i wneud i arian dyfu? Sgwrsiwch ymysg eich gilydd am ychydig.

Rhowch funud neu ddau i’r myfyrwyr drafod eu syniadau.

Mae hyn yn debyg i Dragons’ Den, yn dydi? Felly, pa gynigion sydd gennych chi i mi?

Gwahoddwch rai o’r myfyrwyr i’r blaen i gyflwyno’u syniadau. Gwnewch sylw ar bob un, fel mae’n briodol, gan drafod y dychymyg a’r gwaith caled fyddai ynglyn â hyn.

Rhowch ychydig o amser i mi feddwl am y cynigion hyn. Yn y cyfamser, gwrandewch ar y stori hon a adroddwyd gan Iesu.

Darllenydd 1  Roedd dyn cyfoethog yn paratoi i fynd ar daith. Roedd yn pryderu am ei gyfoeth, felly fe benderfynodd ei roi yng ngofal rhai o’i weision.

Darllenydd 2  Fe rannodd ei arian gan roi’r gyfran fwyaf i’w brif weision, ond gan ofalu rhoi rhyw gyfran i bob un er mwyn iddyn nhw ofalu am ei gyfoeth.

Darllenydd 1  Yna fe aeth i ffwrdd ar daith.

Darllenydd 2  Am fis  . . .

Darllenydd 1  Ar ôl mis  . . .

Darllenydd 2  Ar ôl mis  . . .

Saib. Mae Darllenydd 1 a 2 yn sefyll, gyda’u breichiau ym mhleth, ac yn taro blaen eu troed ar y llawr, gan edrych yn fwyfwy diflas.

Darllenydd 1
 Yna, yn annisgwyl, ryw ddiwrnod, fe ddaeth y dyn yn ei ôl. Fe alwodd ei weision ato a gwneud iddyn nhw sefyll yn un rhes o’i flaen. ‘Felly, beth wnest ti gyda’r arian wnes i ei roi yn dy ofal di ?’ gofynnodd i bob un yn ei dro.

Darllenydd 2  Yn falch iawn ohono’i hun, fe ddywedodd y gwas cyntaf ei fod wedi llwyddo i ddyblu gwerth yr arian a oedd wedi cael ei roi iddo. Roedd wedi gwneud hynny trwy ei fuddsoddi mewn cwmni lleol.

Darllenydd 1  Yn yr un modd, roedd rhai o’r gweision eraill yn nodi eu bod hwythau wedi gwneud elw dros y flwyddyn  - rhai tua 10 y cant, eraill 20 y cant, neu 50 y cant hyd yn oed. Canmolodd y dyn cyfoethog bob un o’r rhain yn eu tro gan ganiatáu rhan o’r elw iddyn nhw.

Darllenydd 2  Ond roedd rhai o’r gweision, fodd bynnag, â rhywfaint o gywilydd ac yn ymddiheuro nad oedden nhw wedi gallu gwneud unrhyw elw - dim ond rhoi’r swm gwreiddiol yn ôl i’r meistr, yr un faint ag a roddwyd iddyn nhw.

Darllenydd 1  Edrychodd y dyn cyfoethog ar y rhain yn siomedig. Dyma nhw, wedi cael cyfle yn eu bywyd i wneud rhywbeth, ond doedden nhw ddim wedi gwneud yn fawr o’r cyfle! Roedd yn teimlo fel eu cosbi, bron, am fod mor segur a diog. Ond teimlai ar yr un pryd efallai y byddai’r embaras, yr euogrwydd yr oedden nhw’n ei deimlo, a’r wybodaeth na fydden nhw’n cael cyfle arall fel hyn, yn mynd i fod yn ddigon o gosb iddyn nhw.

Amser i feddwl

Arweinydd Tybed ydych chi’n sylweddoli fod pob un ohonoch chi sydd yma eisoes yn ganlyniad buddsoddiad. Mae eich rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi wedi buddsoddi amser, arian ac ymdrech i wneud pob un ohonoch chi y rhai ydych chi heddiw. Mae athrawon wedi buddsoddi eu hamser a’u dychymyg wrth eich helpu chi hefyd. Mae hyd yn oed y llywodraeth yn credu ei bod yn werth buddsoddi ynoch chi – gymaint â miloedd o bunnau ar gyfer pob blwyddyn o’ch bywyd.

Mewn rhai ffyrdd, mae’r wythnos hon, ddechrau blwyddyn ysgol newydd, yn debyg i ddechrau’r stori honno o eiddo Iesu rydyn ni newydd ei chlywed. Mae buddsoddiad wedi ei wneud am y deg mis nesaf o’ch bywyd. Mae’r strwythur yn ei le, y staff, yr adnoddau, yr amserlen a’r gefnogaeth. Pan ddown ni at ein gilydd ym mis Gorffennaf, ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, pa fath o enillion fyddwch chi’n gallu eu dangos am y buddsoddiad hwn sydd wedi cael ei ymddiried i chi?

Darllenydd 1 (Yn frwdfrydig.)  Fe fydd rhai ohonom yn falch iawn o’r hyn y byddwn ni wedi ei gyflawni. Fe fyddwn ni wedi llwyddo mewn pethau newydd, wedi gwneud ffrindiau newydd, cael profiadau newydd, sgiliau newydd, a dealltwriaeth newydd yn ystod y flwyddyn.

Darllenydd 2 (Wedi ei blesio’n gymedrol.) Fe fydd llawer ohonom yn gallu dweud y byddwn ni, ar y cyfan, yn fyfyrwyr gwell, mwy deallus, a mwy gwybodus, o bosib, nag ydyn ni ar hyn o bryd.

Arweinydd  Ac yna, fe fydd ychydig rai (ac mae un neu ddau bob amser, yn anffodus) a fydd yn edrych arnyn nhw’u hunain a gweld dim ond ychydig iawn o wahaniaeth. Fe fyddan nhw wedi cymryd yr hyn sydd wedi ei ymddiried ynddyn nhw ond heb wneud dim ag o. Fe fydd rhai yn teimlo rhywfaint o embaras, a rhai ychydig yn euog efallai. Ac fe fydd pob un o’r rhain yn gweld y flwyddyn ddilynol yn fwy anodd oherwydd eu bod wedi methu’r cyfle i wneud y gorau o’r cyfle sydd wedi ei roi iddyn nhw eleni.

Saib.

Rydw i wrth fy modd ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Pam? Yn syml am ei fod yn newydd. Mae’n rhywbeth sydd ddim wedi digwydd o’r blaen. Dydych chi ddim wedi bod yn yr union sefyllfa hon o’r blaen. Mae cyfleoedd newydd, perthnasoedd newydd, cwestiynau newydd a rhagolygon newydd. Does neb yn hollol siwr beth fyddwn ni’n ei greu. Mae’n debyg iawn i lond bag o arian yn cael ei osod yn ein dwylo. Efallai bod ambell fag yn ymddangos yn fwy na’r llall, ond does dim gwahaniaeth am hynny – mae bag gan bob un ohonom.

Dangoswch yr arian eto.

Felly beth wnawn ni â’r bag arian?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y buddsoddiad sydd wedi ei wneud ym mhob un ohonom ni.
Gad i ni roi gwir werth ar yr hyn y mae eraill yn ei ymddiried ynom ni.
Fis Gorffennaf nesaf, gad i ni fod yn falch o’r enillion y byddwn ni wedi eu gwneud ar y buddsoddiad hwnnw.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

‘Johnny B. Goode’ gan Chuck Berry

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon