Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arlwyo mewnol

Natur fyd-eang y bwyd rydyn ni’n ei fwyta

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o gysyniad traddodiadol gwyl ddiolchgarwch am y cynhaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Chwiliwch am ddelwedd o eglwys wedi ei haddurno ar gyfer gwyl ddiolchgarwch am y cynhaeaf a delwedd o awyren cario cargo, a threfnwch fodd o ddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Trefnwch fod gennych chi’r clip fideo TrueTube Food Air Miles a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.truetube.co.uk/film/food-air-miles. Mae’n para 3.05 munud.
  • Hefyd, trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Harvest for the world’ gan y Christians a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Yn hemisffer y gogledd, yr hydref yw’r amser traddodiadol i gynnal gwyliau diolchgarwch am y cynhaeaf.

Dangoswch y ddelwedd o eglwys wedi ei haddurno.

Yn y gorffennol, fe fyddai’r bobl leol yn addurno’r eglwysi gyda ffrwythau, llysiau a blodau, a fyddai’n aml wedi eu tyfu yn eu gerddi a’u caeau eu hunain. Fe fydden nhw’n gwneud hyn i ddathlu’r ffaith bod digon o gnwd wedi tyfu yn ystod tymhorau tyfu’r gwanwyn a’r haf i bara iddyn nhw trwy fisoedd oer a chaled y gaeaf hir a fyddai o’u blaen. Fe fyddai’r bobl wedi mwynhau cyflenwad digonol o gynnyrch tymhorol fel mefus, pys a ffa , tomatos a deunyddiau salad. Fe fydden nhw hefyd wedi sychu, piclo, jamio a chadw digon o ffrwythau a llysiau eraill ar gyfer y misoedd oedd i ddod - cyfnod pan fyddai llawer llai o bethau’n tyfu.

Y prif syniad tu ôl i wyl diolchgarwch am y cynhaeaf oedd dathlu bod digon o fwyd wedi tyfu ar ein cyfer, ac mai i Dduw y dylem ni ddiolch am hynny.

Dangoswch y ddelwedd o awyren cario cargo.

Y dyddiau hyn, rwy’n meddwl y byddai’r ddelwedd hon yn fwy priodol i ni ddarlunio ein hagwedd tuag at fwyd. Mae ein syniad allweddol wedi newid. Dydyn ni ddim bellach wedi ein cyfyngu i’r tymhorau tyfu yn y man lle’r ydyn ni’n byw. Dydyn ni ddim bellach wedi ein cyfyngu i ddewisiadau sy’n seiliedig ar fwydydd sydd wedi eu cynhyrchu ym Mhrydain. Heddiw, mae’n ymwneud â beth ydyn ni eisiau ei fwyta, pan fyddwn ni eisiau ei fwyta, a’r bwydydd hynny’n cael eu darparu ar ein cyfer.

Gwyliwch y ffilm fer hon, sy’n darlunio’r hyn rydw i’n ei olygu.

Dangoswch y fideo TrueTube ‘Food Air Miles’.

Mae’r frechdan yn darlunio’n daclus y syniad allweddol. O ddydd i ddydd, fe allwn ni benderfynu’n union beth rydyn ni awydd ei fwyta. Does dim gwahaniaeth pa dymor ydyw, na pha mor llwyddiannus fu’r tymor tyfu yn ein gwlad, gan fod awyren cario cargo bob amser ar gael i ddod â’r pethau hynny rydyn ni eu hawydd i ni. Fe allwn ni gael ceirios aeddfed ar adeg y Nadolig, tatws newydd ym mis Hydref, afalau ym mis Mai, oherwydd eu bod yn cael eu tyfu ar y pryd mewn rhyw ran neilltuol o’r byd. Fe allwn ni fwynhau mangos, ffrwythau ciwi, mangetout a phwmpen butternut,  - ffrwythau a llysiau a oedd yn amhosib i’r cenedlaethau a fu, yn y wlad hon, gael eu profi.

Dros y 50 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi profi chwyldro mewn darpariaeth bwyd. O ganlyniad, mae’r wyl diolchgarwch am y cynhaeaf ar ei ffurf draddodiadol yn ymddangos braidd yn amherthnasol erbyn hyn. Dydyn ni ddim bellach yn canolbwyntio ar lwyddiant y tymor tyfu, nac ar ysguboriau llawn a silffoedd llawn yn ein ceginau fel yn y cyfeiriadau at hynny mewn emynau, er enghraifft,  ‘Diolch am gynhaeaf, a’n sguboriau’n llawn’. Fodd bynnag, mae pob math o wyliau ynddyn nhw’u hunain yn adnodd pwysig yn nhermau adeiladu cymunedau a’u hannog i ystyried rhai o brif fanteision bywyd. Er enghraifft, yn achos Cristnogion, mae gwyl y Pasg yn canolbwyntio ar farwolaeth ac aileni, tra mae gwyl y Nadolig yn addo goleuni a gobaith yng nghanol gaeaf tywyll hir. Mae gwyliau cynhaeaf yn mynd â ni yn ôl at anghenion sylfaenol dynol ryw, a gwneud i ni ystyried beth fyddwn ni’n ei fwyta a’i yfed o ddydd i ddydd. Mae’n syniad da i ni fel cymunedau beidio â chymryd y pethau hyn yn ganiataol.

Felly, sut bydden ni’n gallu dathlu gwyl gynhaeaf gyfoes? Dyna rai syniadau.

Darllenydd 1 Mae gwyl ddiolchgarwch am y cynhaeaf yn ymwneud yn bennaf â bod yn ddiolchgar am yr amrywiaeth o fwydydd sydd ar gael i ni ac am y pleser a gawn wrth eu bwyta. Bydd llawer o Gristnogion yn adrodd gweddi fer cyn pryd bwyd, yn dawel neu yn uchel gyda’r rhai eraill sy’n rhannu’r pryd bwyd â nhw - gan, o bosib, ddiolch i Dduw am y bwyd y maen nhw ar fin ei fwynhau. Mae’n ymwneud â chanolbwyntio ar fod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym. Mae fel cydnabod, wrth ystyried ein bywyd, bod ein gwydr o leiaf yn hanner llawn yn hytrach nag yn hanner gwag.

Darllenydd 2  Mae gwasanaeth diolchgarwch am y cynhaeaf yn ein hatgoffa hefyd ein bod yn rhan o gymuned, yn lleol ac - yn y dyddiau hyn - yn fyd-eang. Fel mae’r clip fideo’n dangos, fe all hyd yn oed y pryd symlaf gynnwys cynhwysion o sawl gwlad arall ledled y byd. Fe all bwydydd ehangu ein gorwelion.

Darllenydd 1  Wrth feddwl yn fyd-eang felly, mae’n ein hannog i ystyried cymhlethdodau’r diwydiant bwyd. Efallai bod ffermwyr mewn gwledydd eraill yn dlawd. Efallai mai dim ond taliad bach maen nhw’n ei dderbyn am eu cynnyrch fel y gallwn ni ei brynu’n rhad yn ein siopau. Efallai eu bod yn cael eu hecsbloetio gan berchnogion tir sy’n poeni am ddim ond gwneud elw mawr iddyn nhw’u hunain. Nid yw masnach bob amser yn deg, ond efallai y gallwn ni wneud rhywbeth am hynny trwy annog ein rhieni a’r rhai sy’n gofalu amdanom i brynu cynnyrch masnach deg.

Darllenydd 2  Mae mewnforio yd, cywion ieir a deunyddiau crai bwydydd eraill i Brydain o wledydd tramor yn effeithio ar ffermwyr y wlad hon. Mae’n anodd cystadlu â’r cyflenwadau bwyd rhad sy’n cael eu mewnforio, felly mae llawer o ffermwyr yma hefyd yn ei chael hi’n anodd gwneud bywoliaeth. Eto, efallai y gallwn ni annog y rhai hynny sy’n paratoi ein prydau bwyd i brynu cynnyrch lleol.

Amser i feddwl

Arweinydd Mae’r wyl syml o ddiolchgarwch am y cynhaeaf y byddai pobl mewn cenedlaethau’r gorffennol yn ei dathlu wedi bod yn dod yn rhywbeth mwy cymhleth erbyn hyn. Wrth i’n profiad byd-eang dyfu, a’r dewis sydd gennym gynyddu, mae’r dewisiadau sydd gennym i’w gwneud yn dod ychydig yn fwy anodd. O leiaf rydyn ni wedi cael ein hannog i ystyried rhai materion ac efallai y bydd hyn yn ein harwain at wneud rhai penderfyniadau da.

Bon appetit!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ein hoff fwydydd, am y blas a’r amrywiaeth a’r pleser a gawn wrth fwyta.
Atgoffa ni i feddwl am y bobl hynny sydd wedi bod yn ymwneud â’i baratoi a’i ddosbarthu.
Helpa ni i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd, ac effaith cynhyrchu bwyd ledled y Ddaear, a helpa ni i wneud penderfyniadau doeth er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau bwyd gymaint ag rydyn ni’n ei fwynhau.

Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Harvest for the world’ gan y Christians

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon